Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Canolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch gwerth £20 miliwn yn agor i fusnes heddiw ym Mrychdyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y ganolfan fodern yn sbarduno twf a swyddi yng Nglannau Dyfrdwy, ar draws Gogledd Cymru a'r ardal drawsffiniol ehangach, ac ardal Pwerdy Gogledd Lloegr.

Daw â lefel newydd o gyfleoedd ymchwil a datblygu i fusnesau a caiff ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates.

Cânt y cyfle i weld rhywfaint o'r technolegau arloesol sy'n cael eu harddangos yn y ganolfan yn ystod y lansiad.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Dyma ganolfan o safon fyd-eang, fydd yn sbardun pwysig er mwyn dod â’r gwaith ymchwil, y dechnoleg a’r sgiliau diweddaraf i Lannau Dyfrdwy a rhanbarth Gogledd Cymru yn ehangach.

“Mae gan Ardal Fenter Glannau  Dyfrdwy sylfaen weithgynhyrchu gref a bydd y ganolfan hon yn cryfhau ei sefyllfa ymhellach ar gyfer y dyfodol, gan sbarduno arloesi a chynhyrchiant.  Bydd yn sicrhau bod yr ardal yn flaenllaw o ran sgiliau gweithgynhyrchu.

“Bydd AMRC Cymru o fudd i genedlaethau’r dyfodol yng Ngogledd Cymru ac mae’n rhan o’n nod i sicrhau Cymru fwy llewyrchus a chyfartal.

Bydd y ganolfan ymchwil i weithgynhyrchu uwch yn galluogi busnesau i gael mynediad at dechnolegau uwch gan eu helpu i sbarduno gwelliannau mewn cynhyrchiant, perfformiad ac ansawdd.

Bydd yr Athrofa Ymchwil yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys awyrofod, moduro, niwclear a bwyd. Mae gan y rhanbarth sylfaen weithgynhyrchu gref a bydd AMRC Cymru yn adeiladu ar hyn, gan sbarduno gwaith ymchwil ac arbenigedd o safon fyd-eang ar draws y gadwyn gyflenwi.

Gyda £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac wedi ei reoli gan Ganolfan Gweithgynhyrchu Uwch ac Ymchwil Prifysgol Sheffield, bydd y ganolfan yn sbarduno twf economaidd drwy ddatblygu arloesi, masnacheiddio a datblygu cenhedlaeth newydd o sgiliau.

Rhagwelir y gallai'r ganolfan newydd ychwanegu hyd at £4 biliwn o werth ychwanegol gros (GVA) at economi Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf.

Bydd y ganolfan yn gweithredu ardal ymchwil mynediad agored 2000 metr sgwâr. Airbus fydd y tenant mawr cyntaf, a bydd y ganolfan yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu technolegau cenhedlaeth nesaf ar gyfer adenydd, gan wneud hynny yng nghyswllt rhaglen 'Adain Yfory', sy'n rhan o fuddsoddiad byd-eang Airbus mewn ymchwil ac arloesi.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a'r Gogledd, Ken Skates:

"Mae AMRC Cymru yn newid y sefyllfa o ran economi Gogledd Cymru.  Bydd yn hwb i enw da y rhanbarth o ran rhagoriaeth ym myd gweithgynhyrchu a byddwn yn teimlo yr effaith ledled Cymru.

"Mae prosiectau fel hwn yn helpu i sbarduno arloesi a rhagoriaeth, gan wella enw da Cymru fel lle i fuddsoddi ynddo a chynnal busnes.  Bydd yn chwarae rhan amlwg yn dod â'r byd academaidd a busnesau yn nes at ei gilydd, gan hybu sgiliau.

"Mae'n ganolfan anhygoel, wedi'i datblygu gan Lywodraeth Cymru, ac wedi'i gweithredu gan AMRC Prifysgol Sheffield, gan ddod â'r dulliau diweddaraf o arloesi a chyfleoedd posibl i Ogledd Cymru yn uniongyrchol.  Bydd yn codi cynhyrchiant yn y rhanbarth a gyda Bargen Twf y Gogledd a'n buddsoddiad mewn seilwaith yn caniatáu i Ogledd Cymru gyflawni ei huchelgais economaidd.

"Mae'n bleser mawr wedi dim ond tair blynedd o gysyniad i ganlyniad imi weld ei fod bellach ar agor.

Disgrifiodd Colin Sirett, Prif Swyddog Gweithredol AMRC Prifysgol Sheffield, bod AMRC Cymru yn gyfnod pwysig i Gymru a'r DU.

"Rydyn ni'n rhannu uchelgais a gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sbarduno twf a chynhyrchiant i'r ardal ac yn falch iawn o'r ychwanegiad hwn at gyfleusterau AMRC Prifysgol Sheffield sydd o safon fyd-eang, ac a fydd yn arwain ym maes arloesi a gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru a Phwerdy Gogledd Lloegr.

"Bydd AMRC Cymru nid yn unig yn helpu diwydiant yng Nghymru i ddatblygu galluoedd newydd sy'n adeiladu ar dreftadaeth weithgynhyrchu sydd eisoes yn gryf, ond bydd yn cryfhau y cydweithio rhwng diwydiant a phartneriaid academaidd, yn rhoi Cymru ar lwyfan y byd, gan arwain yr ymchwil mwyaf blaenllaw, a thechnolegau a sgiliau sy'n allweddol i hyrwyddo cynhyrchiant a datblygu'r economi.

Meddai yr Athro Koen Lamberts, llywydd ac is-Ganghellor Prifysgol Sheffield:

"Rydyn ni eisoes yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect dewr ac uchelgeisiol hwn fydd yn sicrhau bod Cymru yn flaenllaw ym maes gweithgynhyrchu adenydd ac yn sicrhau fod gwaith ymchwil a datblygu blaenllaw yn ganolog i economi fywiog Cymru.

Mae AMRC Prifysgol Sheffield wedi creu enw da yn fyd-eang am arloesi o fewn y diwydiant sy'n sbarduno twf gweithgynhyrchu a chynhyrchu ac rydym yn falch iawn o ddod â'n harbenigedd a'n profiad helaeth i Gymru.

Dywedodd uwch is-Lywydd Airbus Paul McKinlay, pennaeth safle Brychdyn:

"Rydyn ni'n falch iawn o fod y tenant mawr cyntaf yn AMRC Cymru. Mae'r ganolfan o safon fyd-eang ac yn safle perffaith ar gyfer ein rhaglen ymchwil a thechnolegol bwysicaf sef Adain Yfory.

“Bydd y rhaglen yn llywio'r genhedlaeth nesaf o adenydd, fel y bydd y dechnoleg a'r systemau yn barod pan fyddwn yn lansio'r rhaglen awyrennau newydd, er mwyn dylunio ac adeiladu'r adenydd mor gyflym ag y byddwn eu hangen.

"Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dewis y maes hwn i fuddsoddi mewn arloesi o'r fath yn pwysleisio gwerth y busnes yn y rhanbarth, a rydym yn edrych ymlaen at weld datblygiad y dechnoleg arloesol hon mewn amrywiol ddiwydiannau o ganlyniad i hyn.

Cafodd AMRC Cymru ei gynllunio a rheolwyd y prosiect gan Arup a’r gwaith adeiladu ei wneud gan Galliford Try.