Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Rebecca Evans darged aros newydd, llwybr diagnostig gwell a gwasanaeth sydd wedi’i integreiddio’n well ar gyfer oedolion a phlant ag awtistiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r targed amser aros o 26 wythnosau o’r adeg pan fydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio i’r gwasanaethau hyd at yr apwyntiad cyntaf ar gyfer plant ag awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill yn elfen allweddol o Gynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio hefyd ar wella gwasanaethau asesu a diagnosis; diwallu anghenion cymorth unigolion; codi ymwybyddiaeth o Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig a sicrhau bod gwybodaeth a hyfforddiant ar gael i bawb. 

Bydd llwybr asesu unigol, newydd i blant, a fydd yn cael ei roi ar waith ledled Cymru, hefyd yn cael ei gyflwyno i sicrhau cysondeb a gwneud y system yn llawer cliriach i deuluoedd.  

Bydd y camau allweddol yn y cynllun yn cael eu cyflawni drwy wasanaeth awtistiaeth cenedlaethol integredig newydd i bob oed, sy’n cael ei gyflwyno ledled Cymru. Gyda chymorth £6 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd, bydd y gwasanaeth arloesol hwn yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn cymorth y mae unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr wedi sôn amdanynt.  

Cymru yw’r unig ran o’r DU i sefydlu gwasanaeth awtistiaeth integredig, i bob oed. Bydd yn darparu gwasanaethau diagnostig newydd i oedolion; cefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr; help yn ystod y cyfnod pontio rhwng darpariaeth i blant ac oedolion; a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol yn y maes. 

Mae Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig hefyd yn amlinellu camau i: 

  • Weddnewid cymorth addysgol i blant a phobl ifanc ag anhwylderau sbectrwm awtistig – mae disgwyl i’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gael ei gyflwyno’r mis nesaf

  • Gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag awtistiaeth
     
  • Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddod yn gyflogwr sy’n ystyriol o awtistiaeth drwy gymryd rhan yn y rhaglen Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth (‘Positive About Working with Autism’) 
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth ac i’w cynorthwyo i ddod yn amgylcheddau sy’n gyfeillgar i awtistiaeth. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo’r Rhaglen Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth 
  • Datblygu grŵp cynghori ar weithredu i fonitro’r cynnydd a fydd yn cael ei wneud a’r ffordd y bydd y cynllun yn cael ei weithredu. Bydd y grŵp hwn yn cael ei sefydlu cyn 1 Ebrill 2017
  • Codi ymwybyddiaeth o’r wybodaeth ac adnoddau o safon sydd i’w cael ar wefan ASDinfowales. 
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae unigolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd yn wynebu heriau yn ddyddiol. Dyma pam mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod y gwasanaethau cymorth ar gael, a hynny pryd mae eu hangen nhw a lle mae eu hangen nhw. 

“Mae Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd yn ymateb i flaenoriaethau mae unigolion ag awtistiaeth eu hunain wedi tynnu sylw atyn nhw. Mae’n egluro ein huchelgais i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau o safon, sy’n brydlon ac yn gyson, a’n cynlluniau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a.  

“Bydd y mesurau hyn, gan gynnwys y targed newydd ar gyfer amseroedd aros cyn cael asesiad, yn ogystal â’r newidiadau sydd eisoes ar y gweill, drwy’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yn gwella’r cymorth sydd ar gael i unigolion ag awtistiaeth yng Nghymru yn fawr.  

“Ond, nid ydyn ni’n gorffwys ar ein rhwyfau. Bydd y grŵp cynghori ar weithredu yr wyf yn ei sefydlu yn monitro’n drylwyr ac yn adrodd ar gynnydd. Byddwn yn cymryd camau ar fyrder i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.”