Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amseroedd aros am wasanaethau diagnosis a therapi yn syrthio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwelwyd nifer yr achosion o aros am therapi am fwy na’r amser aros safonol hefyd yn syrthio 44% ers mis Mehefin 2012, o 4,781 o bobl yn aros dros 14 wythnos i 2,691 ym mis Hydref 2016. Syrthiodd nifer y bobl sy’n aros am fwy na 14 wythnos hefyd 14% o gymharu â mis Hydref llynedd.
Yn y mis diwethaf, gwelwyd gostyngiad bach yn yr amser aros am wasanaethau therapi; mae dros hanner y bobl nawr yn aros am lai na phum wythnos.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Rydyn ni wedi gweld gwelliant mawr i’r amseroedd aros am ddiagnosis a therapi yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r byrddau iechyd i wneud gwelliannau pan fo cleifion yn aros yn rhy hir, ond mae’r ffigurau hyn yn dangos bod yr amseroedd aros yn gwella.  

“Yn gyffredinol, mae mwy o bobl yn defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, felly hoffwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Iechyd am eu hymdrechion i sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn cael y diagnosis neu’r therapi sydd ei angen arnyn nhw’n gyflym, er gwaetha’r ffaith bod nifer fawr o bobl yn ceisio cael triniaeth.”