Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2022.

Bydd y data am wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodir gan heddlu a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn yn cael eu diwygio'n fuan oherwydd bod data wedi'i gyflwyno'n hwyr gan un llu heddlu. Mae effaith y diwygiad yn fychan (3 gwrthdrawiad ychwanegol a 5 anaf ychwanegol). Bydd y ciwbiau StatsCymru sy’n cydfynd â’r cyhoeddiad hwn yn cael eu diweddaru erbyn 29 Medi, a bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei ddiwygio erbyn 4 Hydref.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Canrannau pobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart cylch yn dangos canrannau’r bobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, fel y’u cofnodwyd ar gyfer 2022. Cafodd 4,442 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd yn 2022. O’r rhain, roedd 2% wedi cael eu lladd, 21% wedi eu hanafu’n ddifrifol, a 77% wedi dioddef mân anafiadau. 

Source: Ystadegau damweiniau ffordd, Llywodraeth Cymru

  • Yn 2022, cofnododd heddluoedd Cymru fod 4,442 o bobl wedi cael eu hanafu neu eu lladd ar y ffyrdd. Mae hwn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â 2021 ond yn ostyngiad o 15% o’i gymharu â 2019.
  • Cafodd 1,014 (23%) o’r bobl hynny eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, nifer tebyg i 2021 ond yn ostyngiad o 15% o’i gymharu â 2019.
  • Cafodd 3,428 (77%) ohonynt fân anafiadau, 3% yn fwy na ‘r ffigur ar gyfer 2021 ond 26% yn is na’r ffigur ar gyfer 2019.
  • Roedd gwrywod yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu na menywod, gan iddynt gyfrif am 60% o’r holl bobl a anafwyd neu a laddwyd, a 67% o’r holl bobl a anafwyd yn ddifrifol neu a laddwyd yng Nghymru yn 2022.
  • Mae pobl ifanc 16 i 24 oed yn anghymesur yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar y ffyrdd. Maent yn cyfrif am 11% o’r boblogaeth ond, yn 2022 gwnaethant gyfrif am 22% o’r holl bobl a anafwyd neu a laddwyd.
  • Wrth addasu ar gyfer pellter a deithiwyd, roedd beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o gael eu hanafu neu eu lladd na defnyddwyr ceir.

(r) Diwygiedig ar 7 Mehefin 2023.

Adroddiadau

Anafusion ffyrdd adroddwyd amdanynt: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 934 KB

PDF
Saesneg yn unig
934 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.