Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y risgiau o ddefnyddio beiciau modur, maint injan beiciau, amser damweiniau, amodau lleol ac lleoliad cyffordd ar gyfer 2016.

Gwelwyd gostyngiad yng  nghyfanswm y beicwyr a gafodd ddamwain ar ffyrdd Cymru yn 2016.

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd gostyngiad yng  nghyfanswm y beicwyr a gafodd ddamwain ar ffyrdd Cymru yn 2016, o gymharu â ffigurau 2015 (gostyngiad o 12%).
  • Cafodd 254 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar ffyrdd Cymru. Bu farw 22 ohonynt a chafodd 232 eu hanafu’n ddifrifol.
  • Roedd 408 o feicwyr wedi cael mân anafiadau mewn damwain.
  • Er mai dim ond 0.7% o draffig Cymru yn 2016 oedd beicwyr, maent yn cynrychioli cyfran lawer uwch o yrwyr cerbydau modur a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (41%).
  • Roedd y rhan fwyaf o feicwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu (93%) neu a gafodd fân newidiadau (22%) yn ddynion.
  • Roedd 46% o’r beicwyr a gafodd ddamwain o dan 30 oed ac roedd 54% yn 30 oed neu’n hŷn.
  • Yn 2016, digwyddodd y mwyafrif llethol o ddamweiniau gan feicwyr ar ffyrdd Cymru mewn tywydd braf.
  • Mae 84% o ddamweiniau gan feicwyr yn digwydd mewn tywydd braf o gymharu â 12% mewn tywydd gwlyb.
  • Roedd llai na 2% o ddamweiniau wedi digwydd mewn tywydd arall (gan gynnwys niwl, eira neu o dan amodau anhysbys).

Adroddiadau

Anafusion ymhlith beicwyr modur, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 926 KB

PDF
Saesneg yn unig
926 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.