Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol

Andrew Dickenson yw'r Prif Swyddog Deintyddol.

Mae ei brif rôl a chyfrifoldebau yn cynnwys:

  • darparu arweinyddiaeth i bob ymarferydd deintyddol a gweithiwr proffesiynol gofal deintyddol
  • mewnbwn proffesiynol i drefniadau cynllunio’r gweithlu a threfniadau contractiol i gefnogi eu rôl broffesiynol
  • darparu cyngor, arweiniad, a chymorth i’r Gweinidog ar bob mater sy’n ymwneud â gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg
  • monitro a hyrwyddo ansawdd:
    • gwasanaethau gofal iechyd deintyddol
    • canlyniadau sy’n ymwneud â chleifion
    • strategaethau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg
    • rheoleiddio iechyd y geg
    • addysg
    • hyfforddiant
    • perfformiad
    • gweithredu safonau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni, a chynnal, gwasanaethau deintyddol o ansawdd uchel
  • datblygu polisïau a strategaethau i hybu a gwella iechyd y boblogaeth gan sicrhau mynediad amserol at wasanaethau deintyddol

Fel clinigwr mae gan Andrew gymwysterau deuol mewn deintyddiaeth a meddygaeth. Ymgymerodd â hyfforddiant llawfeddygol ôl-raddedig ar draws rhanbarthau Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Lloegr. Yn 2003 daeth yn Ymgynghorydd llawfeddygaeth y Geg a’r Ên ac Wyneb. Mae wedi gweithio ym maes addysg feddygol a deintyddol, gan ymuno ag Addysg Iechyd Lloegr fel Deon Addysg Ôl-raddedig yn 2014.

Mae Andrew yn Athro gwadd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Caer.

Ei flaenoriaethau ar hyn o bryd yw:

  • canolbwyntio ar adfer ac ailosod gwasanaethau deintyddol yn dilyn y pandemig COVID-19
  • ailddechrau rhaglen diwygio contractau ar gyfer deintyddiaeth gofal sylfaenol