Andy Richardson Pennaeth Materion Corfforaethol, Volac

Andy Richardson yw Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Addysgwyd Andy yn Ysgol Coleg Magdalen. Aeth ati wedyn i ennill Gradd Anrhydedd mewn Amaethyddiaeth yn Seale Hayne ym 1988.
Ymunodd ag Unilever ym 1989, yna symudodd i BOCM PAULS ym 1990. Bu mewn sawl rôl fasnachol yno, gan gynnwys Rheolwr Marchnata o 1995 ymlaen.
Yn 2000, ymunodd â Volac, busnes maeth llaeth deinamig a dylanwadol ac un o’r rhai sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Erbyn hyn, mae’n arwain ar faterion corfforaethol a chyfathrebu. Mae Andy yn teimlo’n wirioneddol angerddol am y diwydiant llaeth ac am y sector bwyd-amaeth.
Mae Andy yn aelod allweddol o sawl fforwm strategaeth ym maes diwydiant, gan gynnwys:
- Fforwm Cadwyn Cyflenwi Llaeth San Steffan
- Tasglu Llaeth Cymru
- Tasglu Amaethyddiaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Caergrawnt
- Rhaglen Arweinyddiaeth Gynaliadwy Caergrawnt
Mae Andy hefyd yn gyd-sylfaenydd ar ddau brosiect cydweithredu rhyngwladol. Mae'r rhain yn ymwneud â datblygu cyflenwad a galw cynaliadwy am brotein a brasterau bwytadwy.