Neidio i'r prif gynnwy

Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), sydd weithiau'n cael ei alw yn 'enwaedu benywod' neu 'dorri benywod', yn drosedd.

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu eich bod mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd ichi.

Mae'n anghyfreithlon mynd â gwladolyn Prydeinig neu breswylydd parhaol dramor ar gyfer FGM, neu i gynorthwyo rhywun sy'n ceisio gwneud hynny.

Cael help os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef o hyn

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
  • ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.