Neidio i'r prif gynnwy

Mae llawer o bobl hŷn yn teimlo bod delweddau negyddol o heneiddio yn y cyfryngau yn creu gwrthdaro rhwng y cenedlaethau. Dyna fydd y Gweinidog Pobl Hŷn, Huw Irranca-Davies, yn ei ddweud heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn Senedd Pobl Hŷn Cymru yng Nghaerdydd, bydd y Gweinidog yn dweud ei fod yn awyddus i Gymru fod yn wlad sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad helaeth ac amrywiol y mae pobl hŷn yn ei wneud i greu cymunedau bywiog a chefnogol. 

Bydd yn dweud ei fod yn ymrwymo i weithio gyda phobl hŷn i “herio stereoteipiau sy’n dangos rhagfarn ar sail oed ac i wneud yn siŵr bod pobl o bob oed yn gallu gweithio gyda’i gilydd i greu’r cymunedau bywiog a chefnogol yr ydyn ni i gyd am eu gweld.”

Bydd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud:

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl yng Nghymru yn byw’n hŷn ac yn iachach, ac mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu. Ond mae’n peri pryder i mi bod llawer o bobl hŷn yn teimlo bod delweddau negyddol o heneiddio yn y cyfryngau yn creu gwrthdaro rhwng y cenedlaethau.  

“Fel arwydd cyhoeddus o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bobl hŷn, cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod teitl fy swydd wedi’i newid er mwyn cynnwys pobl hŷn. Rwy’n falch iawn, gan fod hyn yn rhoi’r cyfle imi fod yn fwy amlwg fel eiriolwr dros hawliau pobl hŷn – rhywbeth sy’n bwysig dros ben i mi.

“Mae newid teitl fy swydd yn fwy na gweithred symbolaidd. Bydd rhaglen waith yn cael ei chyflwyno a fydd yn adeiladu ar Gam 3 y Strategaeth Pobl Hŷn. Byddwn yn canolbwyntio ar y materion allweddol y mae pobl hŷn yn dweud wrthym eu bod yn bwysig iddyn nhw, a byddaf yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eu cynnwys ym mhob cam o’r broses hon.   

“Fel Gweinidog Pobl Hŷn, byddaf yn gweithio gyda chi i herio stereoteipiau sy’n dangos rhagfarn ar sail oed ac i wneud yn siŵr bod pobl o bob oed yn gallu gweithio gyda’i gilydd i greu’r cymunedau bywiog a chefnogol yr ydyn ni i gyd am eu gweld.”