Neidio i'r prif gynnwy

Dylen ni ddathlu’n fwy eang ein cestyll a hanes eu harglwyddi a’u tywysogion, meddai’r Arglwydd Elis-Thomas heddiw wrth lansio llyfryn newydd gan Cadw ar gyfer ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad yng Nghastell y Bere, eglurodd y Gweinidog pam roedd gan y safleoedd hyn le arbennig yn hanes Cymru a’r hyn oedd yn cael i’w wneud i sicrhau bod mwy o bobl yn dysgu amdanyn nhw ac ymweld â nhw.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"O Gaerffili i Gaernarfon, ac o Gonwy i Gastell Coch, mae gan ein gwlad rai o’r cestyll mwyaf ysblennydd a godidog yn y byd, sy’n denu'r niferoedd uchaf erioed o ymwelwyr ac yn rhoi hwb i economïau llawer o’n trefi a’n dinasoedd.

"Ond mae gennym lu o gestyll eraill sy’n llai adnabyddus o bosib, ac maen nhw’n sefyll fel cynrychiolaeth gorfforol sy’n ein hatgoffa o’n hanes a’n treftadaeth. 

“Gwir gestyll Cymru imi yw’r rheini a adeiladwyd gan Gymry enwog y gorffennol: Llywelyn, yr Arglwydd Rhys a Glyndŵr ymhlith eraill. Tywysogion Cymru a frwydrodd yng Nghymru a thros Gymru gan helpu i lunio’r Gymru a’r Cymreictod a welwn ni heddiw. Rwyf wedi bod yn benderfynol o hyrwyddo’r cestyll hyn a’u harwyddocâd i’n hanes a’n diwylliant yn well.

“Mae'r llyfryn yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i’r cestyll hynny sydd â chysylltiad agos at arglwyddi a thywysogion Cymru, gan gynnwys y cestyll sydd yng ngofal Cadw yn ogystal â’r cestyll sy’n eiddo i’r awdurdodau lleol neu sydd mewn dwylo preifat ond sydd ar agor i’r cyhoedd. 

“Mae Cadw wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf i wella mynediad i nifer o safleoedd ledled Cymru. Mae ei waith ardderchog o ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr a rhyngweithiol ar y safleoedd yn golygu y gall mwy o bobl fwynhau ymweld â nhw. Ond mae mwy i ddod, gan ddechrau yma yng Nghastell y Bere, lle byddwn cyn hir yn gwella profiadau ymwelwyr drwy esbonio mwy am arwyddocâd hanesyddol y castell.

"Mae gan bob un o’r cestyll hyn ei hanes, ei stori a’i gymeriad ei hun. Fy ngobaith yw  annog cynifer o bobl â phosibl i fwynhau ymweld â’r cestyll hyn yng Nghymru a dysgu am eu harwyddocâd i’r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw, a hynny drwy gyfrwng y llyfryn sy’n cael ei lansio heddiw a thrwy welliannau yn y dyfodol” 

Bydd y llyfryn newydd, sy’n cynnwys 24 castell ochr yn ochr ag abatai a safleoedd hanesyddol eraill, ar gael am ddim ar holl safleoedd Cadw, gyda rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar-lein.