Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, galwodd y Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James am 'ddegawd o weithredu' i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd wrth iddynt gyhoeddi Sero-Net Cymru – y cam nesaf ar ein taith tuag at 'Gymru wyrddach, gryfach a thecach'.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Prif ffocws y cynllun yw ail gyllideb garbon Llywodraeth Cymru (2021-2025) ond bydd yn edrych hefyd y tu hwnt i hynny, at Gymru sero net erbyn 2050 pan na fyddwn yn ychwanegu mwy o nwyon tŷ gwydr at yr atmosffer nag y byddwn yn ei gymryd ohono.

Mae'r cynllun yn cynnwys mwy na 120 o bolisïau a chynigion gan y llywodraeth, ym mhob maes, o adfer mawnogydd i deithio llesol, ac o sgiliau gwyrdd i ynni adnewyddadwy.

Mae'n dangos sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd a phlannu mwy o goed cymunedol drwy greu 30 o goetiroedd newydd, deddfu i wahardd y plastigau untro sy’n cael eu taflu’n sbwriel fwyaf, a helpu i ddatblygu sgiliau gwyrdd mewn busnesau.

Ond wrth reswm, ni all y Llywodraeth wynebu’r her ar ei phen ei hun. Rhaid i bawb chwarae ei ran.

Er enghraifft, erbyn mis Mawrth 2023 bydd disgwyl i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus baratoi adroddiad ar ei allyriadau a chyhoeddi ei gynlluniau i fod yn Sero Net. Y nod yw sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru sy’n Sero Net erbyn 2030.

Wrth lansio'r cynllun yn ffurfiol mewn digwyddiad yn yr Arddangoswr Ynni Gwres yr Haul ym Margam, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn glir, rhaid i’r degawd hwn fod yn ddegawd o weithredu i Gymru.

"Bydd angen i ni wneud mwy yn y deng mlynedd nesaf nag rydym wedi’i wneud yn y 30 mlynedd diwethaf. Bydd hyn yn anodd ond fe lwyddwn drwy gydweithio.

"Rhaid peidio â gwneud yn fach o’r heriau sy'n ein hwynebu yn y degawdau nesaf, a rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a ddaw.

"Yn y cynllun hwn, rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau sydd eu hangen i sicrhau dyfodol gwyrdd yng Nghymru.

"Ni all y DU gyrraedd ei thargedau heb i Gymru weithredu, ac ni allwn ninnau wireddu’n huchelgais heb i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan deg hithau."

"Yn ein barn ni, drwy gydweithio a gweithredu ar y cyd y gallwn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."  

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae'r cynllun hwn bron 90,000 o eiriau o hyd ac yn dangos y graddau y mae mynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur wedi treiddio i'n syniadau. Ond dim ond cip sydd yma o eiliad mewn amser.

"Mae angen i ni gyflawni ein polisïau, mae angen i'n cynigion dyfu ac mae angen eu llunio trwy drafod â phobl Cymru.

"Mae Sero Net Cymru yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd a'r pethau rydym eisoes yn eu gwneud.

"Gan gynnwys creu lleoedd i fyd natur a darparu cartrefi cynhesach, rhatach ar ynni i bobl dlotaf ein gwlad, yn ogystal â'r pethau yr ydym am eu datblygu yn nhymor y Llywodraeth hon ac yn y gyllideb garbon hon, fel cynllun ffermio cynaliadwy newydd a chreu coedwig genedlaethol.

"Rydym yn cydnabod nad oes gennym yr holl atebion - rydym am weithio gyda phobl ledled Cymru a dysgu oddi wrthynt i gael hyd i atebion blaengar i'r heriau sy'n ein hwynebu a dyma pam, ynghyd â Sero Net Cymru, ein bod hefyd yn cyhoeddi dogfen arall heddiw.

"Mae Cydweithio i Gyrraedd Sero Net yn disgrifio peth o'r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ato.

"Mae gwir angen i bawb weithio gyda ni ar hyn ac, er mai dim ond cyfran fach o’r ymrwymiadau a’r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd sy’n cael eu disgrifio yn y ddogfen, roeddem am eu rhannu yn y gobaith o ysbrydoli eraill.

"Mae yna bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i daclo argyfwng yr hinsawdd, ond gallan nhw fod yn gyfleoedd hefyd – rwy'n disgwyl ymlaen at weithio gyda chi i gyd i ddod o hyd i atebion sy'n dod â manteision i Gymru, yn gwella ein cymunedau ac yn tyfu ein heconomïau lleol."

Mae Sero Net Cymru yn cynnwys 123 o bolisïau a chynigion gan y llywodraeth, gan gynnwys:

  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i'w rhentu
  • Buddsoddi mewn opsiynau teithio sy'n annog pobl i ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi cerdded a beicio.
  • Plannu mwy o goed – gan gynnwys sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau i greu 30 o goetiroedd newydd ac i gysylltu cynefinoedd.
  • Deddfu i wahardd y plastigau untro sy’n cael eu taflu’n sbwriel fwyaf.
  • Cynllun i estyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff
  • Sicrhau bod mawnogydd yn cael eu hadfer ar raddfa eang a'u rheoli'n gynaliadwy drwy ein Polisi Cenedlaethol ar Fawnogydd
  • Cefnogi arloesedd mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd
  • Cynllunio ar gyfer grid ynni cenedlaethol sy'n addas ar gyfer dyfodol adnewyddadwy, gan weithio gyda chwmnïau’r rhwydwaith
  • Datblygu sgiliau gwyrdd mewn busnesau – gwella sgiliau a hyfforddi gweithwyr i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd all ddod i Gymru drwy ddatgarboneiddio, megis mewn gweithgynhyrchu a thai.
  • Gweithio gyda'r sector cyhoeddus fel bod pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, erbyn Mawrth 2023, yn cyflwyno adroddiad ar ei allyriadau ac yn cyhoeddi ei gynlluniau i fod yn Sero Net. Y nod yw bod y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru yn Sero net erbyn 2030.