Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, heddiw ei bod yn hanfodol gweithredu ar draws y llywodraeth i gynyddu ffyniant, er mwyn diogelu dyfodol  hirdymor ein cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth gyflwyno Datganiad Llafar i'r Cynulliad, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn eglur fod creu cenedl fwy ffyniannus sy’n wead o gymunedau cryf yn gyfrifoldeb i bob rhan o Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth yn: 

  • creu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed; 
  • cynnal cynllun peilot o brosiect Swyddi Gwell, yn Nes Adref, sydd wedi'i lunio i greu canolfannau cyflogaeth a hyfforddiant mewn ardaloedd difreintiedig iawn yn economaidd;
  • creu'r cynnig gofal plant mwyaf hael i rieni sy'n gweithio unrhyw le yn y Deyrnas Unedig;
  • sefydlu Tasglu Gweinidogol i ddatblygu dull newydd o wella ffyniant yn y Cymoedd;
  • creu'r systemau Metro yn y Gogledd a'r De;
  • sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy Grant Amddifadedd Disgyblion estynedig; a 
  • bwrw ymlaen â'n gwaith ar gynhwysiant ariannol, gan gynnwys cefnogi gwasanaethau cynghori ac undebau credyd a hyrwyddo llythrennedd ariannol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Fy mlaenoriaethau o fewn fy mhortffolio yw llesiant a ffyniant economaidd. Rydw i'n gwbl benderfynol o gyflawni fy nodau yn y meysydd hyn.  Er mwyn gwneud hynny, rydw i'n grediniol ei bod hi'n bryd cael dull newydd o greu cymunedau cryf.

"Er bod Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi pobl yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig dros y pymtheng mlynedd diwethaf, dydw i ddim wedi f'argyhoeddi mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni ar ran Cymru.

"Rydw i o blaid dirwyn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben yn raddol ac, ar yr un pryd, sefydlu dull newydd ar gyfer ymateb i heriau'r dyfodol. Bydd y dull newydd yn canolbwyntio ar dri maes allweddol cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso.

"Dros y misoedd nesaf, byddwn yn edrych o'r newydd ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau cryf. Ystyr hyn yw cymunedau sydd wedi eu grymuso ac sy'n cyfranogi; cymunedau sy'n barod i weithio ac yn gallu gwneud hynny; cymunedau sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant."

"O ran Cyflogaeth, rydw i eisiau gweld cymunedau lle mae swyddi ar gael a phobl sydd â'r sgiliau a'r gefnogaeth gywir i'w llenwi. Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad mawr i Esgyn a Chymunedau am Waith, a gallaf gadarnhau y bydd y rhaglenni cyflogaeth pwysig hyn yn parhau i redeg.

"O ran y Blynyddoedd Cynnar, gallwn wneud rhagor i amddiffyn plant rhag effaith Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod, sy'n fygythiad sylweddol i lesiant a ffyniant economaidd. 

"Rydw i'n gwahodd sefydliadau i ymuno â ni yn y gwaith o greu Parthau Plant i Gymru lle bydd sefydliadau'n cydweithio i gynnig gwasanaethau di-dor i wella bywydau plant a phobl ifanc ac yn eu cefnogi nhw i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ar y cyd â Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.  

“O ran Grymuso, rydw i eisiau i gymunedau cryf gael seilwaith lleol cadarn ac arweinyddiaeth gref a chynhwysol.  Rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ymgymryd â'r rôl arwain hon nawr. Byddaf yn ymgysylltu â nhw, eu herio a'u cefnogi i lwyddo yn y gwaith."

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau y byddai'n ceisio barn pobl ar sut i ysgogi, cefnogi a chryfhau cymunedau drwy ddefnyddio'r dull gweithredu newydd arfaethedig.

Dywedodd: 

"Allwn ni ddim osgoi'r heriau newydd, difrifol rydyn ni'n eu hwynebu. Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ddulliau newydd o ymateb iddyn nhw. Gan ddechrau nawr, byddwn yn cynnwys rhanddeiliad mewnol ac allanol wrth drafod ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf yn raddol i ben ac ynghylch sut y dylen ni barhau i gyflawni gwaith Cymunedau am Waith ac Esgyn."