Mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (IEPAW) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn monitro cyflwr holl safleoedd gwarchodedig Cymru erbyn 2030.
Corff annibynnol sy’n adolygu’r modd y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio yng Nghymru yw IEPAW, a hefyd mae’n cynghori gweinidogion ynglŷn â sut i wella hyn oll. Yn ei adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw [15 Ionawr 2026], sef Safleoedd Gwarchodedig yng Nghymru, mae’n rhybuddio na fydd modd i Gymru fodloni ei nodau o ran bioamrywiaeth a’r hinsawdd – yn cynnwys y rhai a bennwyd ym Mil yr Amgylchedd (Cymru), Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – heb gymryd camau’n ddi-oed i gryfhau’r modd y caiff safleoedd gwarchodedig eu monitro, eu rheoli a’u diogelu.
Mae safleoedd gwarchodedig yn ardaloedd a ddynodir gan y gyfraith gan eu bod yn cynnwys bywyd gwyllt, cynefinoedd neu nodweddion daearegol o bwysigrwydd cenedlaethol. Y mathau mwyaf cyffredin yng Nghymru yw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sy’n pennu mannau lle ceir rhywogaethau prin, cynefinoedd pwysig neu nodweddion naturiol unigryw.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn tynnu sylw at sawl pryder o bwys. Gwelwyd bod yna fwlch o 17 mlynedd rhwng cynnal asesiadau llawn o safleoedd gwarchodedig, gyda’r adolygiad cynhwysfawr diweddaraf wedi’i gynnal yn 2020 yn dilyn yr adolygiad blaenorol a gynhaliwyd yn 2003. Cofnodwyd bod cyflwr oddeutu hanner nodweddion yr holl Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn “anhysbys” gan nad oedd digon o dystiolaeth ar gael i’w hasesu.
O blith y nodweddion a aseswyd, dim ond 20 y cant a oedd mewn cyflwr ffafriol. Roedd 30 y cant mewn cyflwr anffafriol ac roedd 50 y cant mewn cyflwr y dymunid iddo fod yn well. Ymhellach, cafodd 97 y cant o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu dynodi cyn i’r canllawiau diweddaraf gael eu cyflwyno yn 2013; golyga hyn na chynlluniwyd y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig fel system gydlynol ar gyfer ategu adferiad natur yn yr hirdymor.
Medd yr Asesydd Lynda Warren, Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru:
“Gwyddom fod nifer o’r safleoedd hyn mewn cyflwr gwael, ac nid oes data digonol ar gael ar gyfer asesu cyflwr nifer o safleoedd eraill. Yn amlwg, nid yw’r sefyllfa hon yn dderbyniol.
“Rydym o’r farn bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i ddiffinio targedau a fydd yn ysgogi camau tuag at fodloni’r nod cyffredinol o ran sicrhau cyflwr ffafriol y safleoedd gwarchodedig sy’n rhan o’r rhwydwaith.”
Defnyddiodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan gyrff cadwraethol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, grwpiau ffermio, arbenigwyr cynllunio a CNC. Er bod cyfyngiadau’n perthyn i fframwaith cyfreithiol Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, daethpwyd i’r casgliad mai buddsoddi mewn gwaith monitro priodol, dulliau rheoli penodol a dulliau gorfodi effeithiol yw’r materion mwyaf taer.
Yn yr adroddiad, cyflwynir 19 o argymhellion. Isod, nodir pum thema hollbwysig:
- Sicrhau bod monitro safleoedd gwarchodedig yn un o ddyletswyddau statudol CNC, gan ddarparu cyllid er mwyn sicrhau bod pob safle’n cael ei asesu o leiaf unwaith bob chwe blynedd, gydag adroddiadau blynyddol yn cael eu llunio am y canlyniadau.
- Gosod targed cenedlaethol er mwyn pennu cyflwr pob Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig erbyn 2030, gan greu llinell sylfaen gyflawn a dibynadwy ar gyfer adfer natur.
- Cyhoeddi cynllun gweithredu strategol wedi’i gostio er mwyn sicrhau y bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn cyflwr ffafriol, gan gyd-fynd â Bil yr Amgylchedd sydd ar ddod.
- Ymestyn sancsiynau sifil er mwyn i CNC allu mynnu bod yn rhaid adfer niwed amgylcheddol heb orfod erlyn.
- Ymestyn Cytundebau Rheoli Tir a sicrhau adnoddau priodol ar eu cyfer, fel y gellir ategu cadwraeth hirdymor ar draws tiroedd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd amgylchynol.
Yn ôl yr Asesydd Warren, sicrhau adnoddau yw’r her hanfodol:
“Nid newid y gyfraith mewn perthynas ag ardaloedd gwarchodedig yw’r gofyniad pwysicaf un, ond llawer mwy o barodrwydd i neilltuo adnoddau digonol fel y gellir rheoli safleoedd yn effeithiol nawr a’u monitro’n barhaus yn y dyfodol.”
Heb gymryd camau’n ddi-oed, mae IEPAW o’r farn na fydd modd i Gymru fodloni ei thargedau bioamrywiaeth statudol na’i hymrwymiadau ehangach i adfer natur a gwrthsefyll newid hinsawdd.
Dyma’r ail adroddiad mewn cynifer o fisoedd sy'n trafod cyflwr Safleoedd gwarchodedig y DU. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr OEP eu hadroddiad ar Safleoedd Gwarchodedig yn Lloegr, sy'n tynnu sylw at heriau tebyg a wynebir yng Nghymru. Daeth eu hadroddiad i'r casgliad nad yw cyfreithiau safleoedd gwarchodedig Lloegr yn cael eu gweithredu'n effeithiol, nac ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Roedd hyn oherwydd pedwar achos sylfaenol: gweithredu annigonol gan y llywodraeth i yrru cynnydd; buddsoddiad annigonol i gyflawni canlyniadau; diffyg cymhellion ac ymgysylltiad i berchnogion a deiliaid safleoedd gwarchodedig; a bylchau mewn tystiolaeth i lywio a thanategu gwneud penderfyniadau.
Nid yw hyn wedi bod yn wir bob amser. Mae adroddiad yr OEP yn nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud yn ystod cyfnodau o arweinyddiaeth effeithiol. Fodd bynnag, nid yw'r ffocws hwnnw wedi'i gynnal ac mae'r gweithrediad wedi methu'n rhy aml. Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i arwain a chefnogi'r llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn Lloegr tuag at gyfraith well a gweithrediad gwell.
Daeth yr OEP i gasgliadau tebyg yn ei adroddiad cynharach ar Safleoedd Gwarchodedig yng Ngogledd Iwerddon.
Mae argymhellion IEPAW yn adeiladu ar ymrwymiadau amgylcheddol presennol Cymru ac maent yn ategu’r cyfeiriad a bennir eisoes gan bolisïau cenedlaethol. Maent yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Cymru Sero Net a Chynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru, ac maent yn cynnig cyfle amserol i Lywodraeth Cymru gryfhau’r modd y caiff safleoedd gwarchodedig eu diogelu, eu monitro a’u rheoli trwy gyfrwng y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a ddaw i rym yn 2026.
Adroddiadau Swyddfa Diogelu Amgylcheddol
I gael rhagor o wybodaeth am OEP, cymerwch gipolwg ar:
Review of implementation of laws for terrestrial and freshwater protected sites in England
