Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru yn galw ar i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ailosod ei pherthynas â’r sector cyfreithiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yn Llandudno yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith heddiw cyn dechrau blwyddyn gyfreithiol newydd Cymru, bydd Mick Antoniw yn rhybuddio bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn flwyddyn wael i reolaeth y gyfraith yn y Deyrnas Unedig.

Bydd e’n amlinellu pedwar peth penodol y dylai Llywodraeth newydd y DU eu gwneud i newid cyfeiriad.

Gan alw am newid mewn tôn ym mherthynas Llywodraeth y DU â’r sector cyfreithiol, bydd e’n condemnio iaith megis ‘activist lawyers’ a ‘lefty human rights lawyers’ a glywyd gan Weinidogion yn y weinyddiaeth flaenorol.

Bydd e’n galw am gael gwared â Bil Protocol Gogledd Iwerddon, y Bil Hawliau, a Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) – tri bil y mae e’n rhybuddio a fydd yn bygwth rheolaeth y gyfraith.

Bydd e’ hefyd yn galw am fwy o fuddsoddi yn y system gyfiawnder, gan ddweud y gallai diffyg ariannu atal mynediad at gyfiawnder i bobl a bod risg fawr i gwmnïau cyfreithiol llai, sy’n rhan allweddol o system gyfreithiol Cymru.

Yn olaf, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn galw ar i Lywodraeth y DU gyfrannu’n llawn at y gwaith o ddatblygu system gyfiawnder Cymru ar sail argymhellion Comisiwn Thomas – yr archwiliad mwyaf erioed o gyfiawnder yng Nghymru.

Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru:

“Wrth i flwyddyn gyfreithiol newydd ddechrau, rhaid edrych yn ôl ar y niwed sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y 12 mis diwetha’. Rydyn ni wedi gweld ymosodiadau ar gyfreithwyr, Biliau gwrth-ddemocrataidd a methiant i fynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n atal pobl rhag cael mynediad at gyfiawnder.

“Mewn blwyddyn gyfreithiol newydd, gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan, mae’r angen i newid cyfeiriad yn gwbl glir.

“Rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid ei thôn, tynnu ei deddfwriaeth fwyaf gwrthun yn ôl, ariannu’r system gyfiawnder gan gynnwys cynyddu cymorth cyfreithiol, ac ymgymryd ag o leiaf rai o argymhellion y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru i ddatblygu cyfiawnder yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau y gall pobl Cymru gael y mynediad effeithiol at gyfiawnder sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailosod ei pherthynas â’r sector a gwneud yr un ymrwymiad.”

Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn defnyddio’r araith i amlinellu gwaith Llywodraeth Cymru i hybu cyfiawnder yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cydgrynhoi cyfraith Cymru drwy ddeddfwriaeth yn y Senedd, cefnogi’r broses o sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru, ac amlinellu egwyddorion ar gyfer system gyfiawnder Cymru yn ei hymgynghoriad ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’.