Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth y Sefydliad Llywodraethu mewn digwyddiad i nodi 20 mlynedd o ddatganoli fod rhaid i Whitehall wneud newidiadau radical i ddal i fyny â datganoli neu wynebu'r goblygiadau aruthrol ar gyfer dyfodol yr Undeb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud bod y DU mewn ‘anialwch’ - gyda datganoli'n datblygu'n gyflym yng Nghymru a'r Alban dros yr 20 mlynedd diwethaf ond mai prin y mae Llywodraeth y DU'n cydnabod datganoli fel egwyddor gyfansoddiadol.

Ac yntau'n tynnu sylw at y ffaith nad yw rôl y Swyddfeydd Tiriogaethol bellach yn berthnasol fel enghraifft o hyn, bydd y Prif Weinidog yn galw am eu diwygio. Bydd yn dadlau bod eu ffurf bresennol yn drysu ac yn llesteirio negodiadau rhwng y gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau Llywodraeth y DU.  

Bydd y Prif Weinidog yn dweud:

“Mae angen ailystyried rôl swyddfeydd Cymru a'r Alban mewn ffordd radical. Er bod 20 mlynedd o ddatganoli wedi newid cymaint yng Nghymru a'r Alban, mae'r Swyddfeydd Tiriogaethol heb newid o gwbl ers 1999. Mae hyn yn wrthgynhyrchiol i lesiant cyfansoddiadol y DU.

“Nid oes gan y Swyddfeydd Tiriogaethol yr wybodaeth, yr adnoddau na'r arbenigedd i wneud cyfraniad neilltuol at werth llywodraeth o ddydd i ddydd. Does dim ond rhaid ystyried y siom ynghylch trydaneiddio prif linell y Great Western, Morlyn Llanw Bae Abertawe a Wylfa i weld sut mae'r system bresennol yn methu ag amddiffyn  buddiannau Cymru.”

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn edrych ar effaith Brexit ar ddatganoli yn ei araith allweddol. Bydd yn disgrifio sut y bydd y DU yn ymrwymo i ystod llawer ehangach o gytundebau rhyngwladol, gyda llawer yn ymdrin â meysydd datganoledig, megis yr amgylchedd a physgodfeydd.

Bydd yn dweud:

“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i Gymru o safbwynt y cyfansoddiad. Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod o bwys hanesyddol, nid yn unig o safbwynt perthynas y DU ag Ewrop, ond hefyd berthynas y DU â hi ei hun.

“Nid yw'r diwylliant presennol a'r sefydliadau a'r broses lywodraethu sydd gennym ar hyn o bryd yn gydnaws ag iechyd tymor hir yr Undeb. Mae angen newid radical – yr allwedd i ddyfodol datganoli a'r Undeb yw derbyn datganoli fel partneriaeth yn y ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn cael ei llywodraethu. Rhaid inni achub y cyfle i'w chreu.”