Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf ADY’). Mae’n ategu Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (‘y Cod ADY’).

Nid yw’n newid egwyddorion na gofynion statudol y ddeddfwriaeth berthnasol. Yn hytrach, mae’n darparu gwybodaeth i wella dealltwriaeth o’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY.

Pwrpas y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol yng Nghymru i:

  • gasglu gwybodaeth gynhwysfawr a chadarn i wneud penderfyniadau teg, cyson a thryloyw ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
  • cyfathrebu’n glir â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd

Fe’i datblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o’r sector addysg mewn ymateb i’r adolygiad deddfwriaethol o ADY. Nododd yr adolygiad feysydd lle roedd angen gwella eglurder, cysondeb a dealltwriaeth wrth gymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ADY.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu dealltwriaeth genedlaethol o’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol ledled Cymru.

Gellir diweddaru’r canllawiau hyn neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg i adlewyrchu:

  • newidiadau mewn deddfwriaeth
  • datblygiadau polisi
  • tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ymarfer effeithiol

Pan fo’r canllawiau yn dweud ‘rhiant’, mae hyn yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â dyletswydd gofal dros blentyn.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu’n bennaf ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

Efallai y bydd y canllawiau hefyd o ddiddordeb i:

  • weithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY
  • rhieni
  • plant
  • pobl ifanc

Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Mae’r adran hon yn nodi’r disgwyliadau ar ysgolion ac ymarferwyr i lunio barn broffesiynol i:

  • ddeall cynnydd dysgwr
  • nodi rhwystrau
  • addasu dulliau fel y gall pob dysgwr gael mynediad at y cwricwlwm

Mae hefyd yn nodi rôl addysgwyr o ran casglu tystiolaeth i ddeall a yw’r dysgwr yn profi anhawster sylweddol fwy i ddysgu ar draws un neu fwy o’r 4 maes angen:

  • cyfathrebu a rhyngweithio 
  • gwybyddiaeth a dysgu 
  • ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol 
  • synhwyraidd a (neu) gorfforol

Mae pennod 20 o’r Cod ADY yn darparu canllawiau ar benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.

Mae’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys:

  • gwerthuso cynnydd
  • galluogi dysgu
  • casglu tystiolaeth 
  • gwerthuso effaith swyddogaethol

Gwerthuso cynnydd

Mae Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu yn amlinellu egwyddorion allweddol a phwrpas asesu, a gynlluniwyd i gefnogi cynnydd dysgwyr. Mae’n darparu canllawiau i:

  • ysgolion a lleoliadau
  • unedau cyfeirio disgyblion 
  • darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

Mae’n esbonio’r hyn y mae’n rhaid iddynt ei ystyried wrth ddylunio trefniadau cwricwlwm ac asesu ar lefel ysgol. 

Mae gan asesu 3 prif rôl yn y broses o alluogi cynnydd dysgwyr: 

  • cefnogi dysgwyr unigol bob dydd yn barhaus 
  • nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser 
  • deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar ymarfer

Mae’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn atgyfnerthu’r disgwyliad y dylai ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio eu barn broffesiynol i:

  • ddeall cynnydd dysgwr
  • nodi rhwystrau
  • addasu dulliau fel y gall pob dysgwr gael mynediad at y cwricwlwm 

Dylai gweithwyr proffesiynol werthuso cyflymder y cynnydd, gan weithio gyda’r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY.

Wrth ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc, gall ddod yn amlwg eu bod yn gwneud cynnydd cryf o’u man cychwyn unigol. Mae hyn yn adlewyrchu cryfderau’r dysgwr ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth bresennol. 

Gall sicrhau bod cwricwlwm cynhwysol ar waith gefnogi pob dysgwr i:

  • gymryd rhan
  • gwneud cynnydd
  • cael ei anghenion wedi’u diwallu

Nid yw cymharu ar ei ben ei hun yn ddull priodol ar gyfer adnabod ADY. Bydd pob dysgwr yn gwneud cynnydd ar ei gyflymder ei hun. Mae angen i ysgolion ac awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y gall dysgwyr wneud cynnydd:

  • mewn amrywiaeth o ffyrdd
  • ar wahanol adegau o’r daith ddysgu
  • dros wahanol gyfnodau o amser

Os yw cynnydd dysgwr yn dangos y byddai’n elwa ar gymorth pellach, efallai y bydd angen dulliau addysgegol sy’n briodol i ddatblygiad. Dylai’r dulliau hyn gefnogi cynnydd ac addasu i anghenion dysgwyr. 

Galluogi dysgu

Bydd llawer o blant a phobl ifanc:

  • yn cael rhywfaint o anhawster i ddysgu ar ryw adeg yn eu haddysg 
  • angen dull wedi’i wahaniaethu mewn rhyw agwedd ar eu haddysg

Os nad yw cynnydd dysgwr yn ddigonol, bydd angen ystyried camau amgen i alluogi dysgu. Disgwylir i bob lleoliad addysg gyflwyno addysgu gwahaniaethol neu ymyriadau penodol eraill, gyda’r nod o sicrhau gwell cynnydd, lle bo’n briodol, i bob dysgwr. 

Mae’r canllawiau galluogi dysgu yn cefnogi’r gwaith o ddylunio, cynllunio a gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwneud cynnydd mewn ffordd sy’n briodol yn ddatblygiadol ac yn addysgegol. 

Mae’n atgyfnerthu bod:

  • oedolion sy’n galluogi dysgu, profiadau sy’n ennyn diddordeb ac amgylcheddau effeithiol yn hanfodol i alluogi dysgu 
  • rhaid i ddealltwriaeth o ddatblygiad plant fod yn sail i ddylunio’r cwricwlwm

Mae’r canllawiau yn pwysleisio bod arsylwi, myfyrio a deall dysgwyr unigol yn rhannau hanfodol o gynnydd.

Egwyddorion addysgegol 

Mae’r egwyddorion addysgegol yn:

  • arwain dysgu ac addysgu effeithiol
  • sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cyrraedd ei botensial
  • cefnogi addysgwyr i greu amgylcheddau a phrofiadau dysgu effeithiol 

Mae’r egwyddorion yn pwysleisio pwysigrwydd deall sut:

  • mae dysgwyr yn dysgu
  • i addasu strategaethau addysgu yn unol â hynny

Maent yn cael eu hategu gan ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc.

Cod cynnydd y Cwricwlwm i Gymru

Mae Y Cwricwlwm i Gymru: Cod cynnydd yn nodi sut y mae’n rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer pob dysgwr. Mae’n sicrhau bod:

  • pob dysgwr yn derbyn addysg gynhwysfawr a chynhwysol
  • ymarferwyr yn deall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth dros amser

Mae’n pwysleisio pwysigrwydd profiadau dysgu wedi’u personoli i ddiwallu anghenion amrywiol pob dysgwr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY. Mae’r disgwyliadau hynny wedi’u nodi yn y Cwricwlwm i Gymru.

Efallai y bydd angen i wasanaethau eraill hefyd fod yn rhan o fywyd y plentyn neu’r person ifanc, megis:

  • seicolegwyr addysg
  • gwasanaethau lles addysg
  • gwasanaethau cymdeithasol
  • cyrff iechyd

Pan fydd cynnydd yn parhau i fod yn llai na’r disgwyl, hyd yn oed ar ôl addysgu gwahaniaethol neu ymyriadau wedi’u targedu safonol, byddai hyn fel arfer yn dangos y gallai fod gan y dysgwr ADY. 

Dylai ysgolion a gynhelir fod â phrosesau clir i staff godi pryderon a chael cyngor a chymorth pellach. 

Casglu tystiolaeth 

Mae angen tystiolaeth i adnabod a phenderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY. Mae’r dystiolaeth hon yn helpu ymarferwyr i ddeall a oes gan ddysgwr anhawster dysgu ar draws un neu fwy o’r 4 maes angen:

  • cyfathrebu a rhyngweithio
  • gwybyddiaeth a dysgu
  • ymddygiad, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol
  • synhwyraidd a (neu) gorfforol

Dylai ymarferwyr adeiladu darlun dibynadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylent ddefnyddio sawl ffynhonnell wybodaeth dros amser i ddeall anhawster dysgwr. Bydd hyn yn helpu i benderfynu a yw’r anhawster hwn yn sylweddol fwy na’r mwyafrif o ddysgwyr o’r un oedran.

Bydd tystiolaeth a gwybodaeth yn edrych yn wahanol i bob dysgwr. Dylai fod yn wrthrychol ac yn gyd-destunol, a dangos: 

  • y maes anhawster
  • sut mae’n effeithio ar ddysgu a gallu dysgwr i gael mynediad at y cwricwlwm

Anogir ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd golwg gyfannol. Mae hyn yn cynnwys cydnabod y cysylltiad agos rhwng:

  • lles
  • iechyd meddwl
  • gallu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn dysgu

Mae hyn yn unol â’r dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol.

Gall ysgolion ac awdurdodau lleol adeiladu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r hyn a allai fod yn effeithio ar gyfranogiad a chynnydd drwy dynnu ar wybodaeth gan:

  • deuluoedd
  • gweithwyr proffesiynol
  • y dysgwr ei hun
  • ystyriaeth o gryfderau a rhwystrau

Tystiolaeth y gellid ei chynnwys

  • Gwybodaeth gan y plentyn, ei rieni neu’r person ifanc.
  • Gwybodaeth am ddatblygiad plant a phobl ifanc.
  • Data ar gynnydd neu gyrhaeddiad.
  • Asesiadau seicolegwyr addysg.
  • Adroddiadau athrawon arbenigol neu therapyddion.
  • Cofnodion ysgol (presenoldeb ac ymddygiad neu agwedd at ddata dysgu os yw’n berthnasol i rwystrau dysgu).
  • Arsylwadau ar y dysgwr (gan gynnwys arsylwadau gwybyddol a pherthynol).
  • Cofnodion o fesurau cymorth presennol a’u heffeithiolrwydd.
  • Tystiolaeth o anabledd neu gyflwr sy’n effeithio ar fynediad at addysg.
  • Mewnbwn gweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol proffesiynol.
  • Asesiadau asiantaethau eraill, megis cyrff iechyd.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol hefyd ystyried a oes gan y plentyn neu’r person ifanc unrhyw gysylltiad neu gefnogaeth gan:

  • wasanaethau statudol (addysg, iechyd neu wasanaethau cymdeithasol)
  • asiantaethau eraill
  • sefydliadau’r trydydd sector

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cael cyngor meddygol gan gorff iechyd am effaith anabledd neu gyflwr meddygol. Gall hyn helpu i adnabod:

  • a oes gan y dysgwr anabledd neu anhawster dysgu
  • natur yr anabledd neu’r anhawster dysgu 
  • pa ddarpariaeth sydd ei hangen ar y dysgwr, a all gynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol (manylir ym mhennod 21 o’r Cod ADY).

Dylai’r ysgol neu’r awdurdod lleol gynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol fel y bo’n briodol, wrth benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY. 

Gwerthuso effaith swyddogaethol

Asesu rhwystrau i ddysgu

I benderfynu a yw’r anhawster dysgu yn creu rhwystr sylweddol i ddysgu, ystyriwch:

  • sut mae’r anhawster yn effeithio ar allu’r dysgwr i ymgysylltu â’i amgylchedd dysgu ac elwa arno
  • maint unrhyw effaith andwyol a achosir gan yr anhawster

Er enghraifft, os oes angen cymhorthion ar ddysgwr i gael mynediad at ddysgu, gall fod yn arwydd o rwystr parhaus a sylweddol i ddysgu. Gallai hyn gynnwys:

  • seddi arbenigol
  • dyfeisiau clyw
  • technoleg gynorthwyol


Os yw’r dysgwr yn parhau i brofi anhawster parhaus wrth ymgysylltu â’r cwricwlwm ac elwa arno, er gwaethaf addysgu a chymorth o ansawdd uchel, gallai hyn fodloni’r prawf 2 gam ar gyfer ADY.

Diagnosis meddygol ac ADY

Nid yw diagnosis meddygol neu niwrowahanol ynddo’i hun yn ddigon i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY. 

Y ffactor dylanwadol yw a yw’r plentyn neu’r person ifanc yn profi rhwystr sylweddol i ddysgu hyd yn oed pan fo strategaethau a chymorth priodol, sy’n rhan o ymarfer arferol ysgol, ar waith. 

Felly, nid yw diagnosis yn golygu ADY yn awtomatig. Dylai’r ffocws fod ar anghenion swyddogaethol a chyfranogiad y plentyn neu’r person ifanc. Ni ddylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar labeli diagnostig yn unig. Mae hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth wedi’i theilwra i anghenion dysgu’r plentyn neu’r person ifanc. Mae’n golygu cymhwyso model cymdeithasol o anabledd yn hytrach na model meddygol. 

Adnabod ADY

Mae’r adran hon yn nodi disgwyliadau ynghylch y ddyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY. Mae’n cynnwys pwysigrwydd y canlynol:

  • cydnabod hysbysiadau o ADY posibl
  • deall a chymhwyso’r prawf 2 gam i ganfod a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY

Mae cyfathrebu â’r plentyn, ei rieni neu’r person ifanc yn aml yn dechrau pan fydd yr ysgol neu’r awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol y gallai fod gan ddysgwr ADY. Gellir cychwyn yr hysbysiad neu’r cais hwn mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys gan:

  • y plentyn neu ei riant
  • y person ifanc
  • gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud ag addysg neu ofal y plentyn neu’r person ifanc

Ar gyfer plant sydd wedi’u cofrestru mewn ysgol a gynhelir, bydd yr ysgol fel arfer yn sbarduno’r hysbysiad drwy ei phrosesau monitro ac olrhain sefydledig. 

Cael cydsyniad gan ddysgwyr 16 oed a throsodd

Ar gyfer pobl ifanc 16 oed neu drosodd, rhaid i’r ysgol a’r awdurdod lleol gael cydsyniad y person ifanc cyn dechrau’r broses o adnabod ADY.

Yr hyn y mae’n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei wneud i benderfynu a oes gan ddysgwr ADY

Pan fydd ysgol a gynhelir neu awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol y gallai fod gan ddysgwr ADY, rhaid iddo benderfynu a oes gan y dysgwr ADY. Mae hyn oni bai bod unrhyw un o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 12.2 neu 12.3 o’r Cod ADY yn gymwys.

Rhaid i’r ysgol a gynhelir neu’r awdurdod lleol:

  • ddynodi person a fydd yn gyfrifol am gydlynu’r camau sydd eu hangen i wneud y penderfyniad. Os oes angen cynllun datblygu unigol (CDU), y person hwn fydd yn gyfrifol am ei lunio hefyd. Gallai’r person hwn fod y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY), ond nid oes rhaid iddo fod
  • cofnodi’r dyddiad pan gaiff ei ddwyn i’w sylw, neu pan fo’n ymddangos iddi neu iddo fel arall, y gall fod gan y dysgwr ADY
  • cofnodi crynodeb o sut y cafodd y posibilrwydd bod gan y dysgwr ADY ei ddwyn i’w sylw, neu pam fo’n ymddangos iddi neu iddo fel arall, y gallai fod gan y dysgwr ADY
  • hysbysu’r plentyn, ei rieni neu’r person ifanc ei fod yn penderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY
  • rhoi manylion cyswllt y person dynodedig yn yr ysgol neu’r awdurdod lleol i rieni’r plentyn neu i’r person ifanc
  • rhoi gwybodaeth i rieni’r plentyn neu i’r person ifanc am sut i gael mynediad at drefniadau gwybodaeth a chyngor yr awdurdod lleol cyfrifol am ADY a’r system ADY
  • cynnig cyfarfod cychwynnol gyda’r plentyn, ei rieni neu’r person ifanc i drafod y broses
  • rhoi syniad o’r amserlen debygol ar gyfer y broses (ysgol: 35 diwrnod ysgol ac awdurdod lleol: 12 wythnos) (gweler paragraffau 12.5, 12.6 a 12.7 o’r Cod ADY a darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran Amserlenni ADY y canllawiau hyn)

Cymhwyso’r prawf cyfreithiol 

Rhaid i ysgolion a gynhelir neu awdurdodau lleol gymhwyso prawf statudol 2 gam i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.

  • Cam 1: penderfynu a oes gan y dysgwr anhawster dysgu neu anabledd.
  • Cam 2: asesu a yw’r anhawster neu’r anabledd hwnnw’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae hyn yn golygu cymorth sy’n ychwanegol at yr hyn, neu’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol mewn addysg brif ffrwd.

Mae’r prawf 2 gam hwn wedi’i nodi yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf ADY’)

Mae’r broses hon yn sicrhau bod penderfyniadau yn:

  • gyson
  • seiliedig ar dystiolaeth
  • canolbwyntio ar anghenion y dysgwr

Mae i ‘anghenion dysgu ychwanegol’ neu ‘ADY’ yr ystyr a roddir gan adran 2 o’r Ddeddf ADY, sef:

(1). Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 

(2). Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd:

  • (a) os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu 
  • (b) os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach. 

(3). Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

Mae rhagor o wybodaeth am y prawf cyfreithiol hwn ar gael yn y Cod ADY.

Dim ond os yw’r ddau gam yn cael eu bodloni yr ystyrir bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY o dan y Ddeddf ADY. Os nad yw’r diffiniadau cyfreithiol yn cael eu bodloni:

  • ni ystyrir bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY o dan y Ddeddf ADY
  • nid yw’r system ADY statudol yn gymwys

Efallai y bydd mathau eraill o gymorth yn briodol o hyd.

Mae’n hanfodol bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn deall sut i gymhwyso’r diffiniadau cyfreithiol o ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol yn gywir wrth wneud penderfyniadau. Rhaid i benderfyniad bod gan blentyn neu berson ifanc ADY fod yn seiliedig ar dystiolaeth a dylai ddilyn y diagram llif hwn o’r prawf 2 gam.

Image

Mae angen tystiolaeth i adnabod a allai fod gan blentyn neu berson ifanc ADY a phenderfynu a oes ganddo ADY ai peidio. Gallai’r dystiolaeth hon ddod gan:

  • staff o fewn yr ysgol
  • gwasanaethau eraill sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r plentyn neu’r person ifanc
  • y plentyn, ei rieni neu’r person ifanc ei hun

Cam 1

Cam 1: cwestiwn 1

A yw’r dysgwr yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o ddysgwyr o’r un oedran? 

Efallai y bydd llawer o blant a phobl ifanc yn cael rhywfaint o anhawster i ddysgu ar ryw adeg yn ystod eu haddysg. Mae’n bwysig deall a yw hwn yn anhawster sylweddol fwy. Rhaid deall lefel yr arwyddocâd yn glir mewn perthynas â’r anhawster dysgu penodol y mae’r plentyn yn ei brofi. 

Mae ‘dysgu’ yn cynnwys cynnydd academaidd a mynediad at ac ymgysylltiad â dysgu. Mae’n bwysig ystyried mynediad at ddysgu ar draws y 4 categori eang sydd wedi’u hamlinellu yn y Cod ADY i ddeall anhawster y dysgwr yn llawn: 

  • cyfathrebu a rhyngweithio
  • gwybyddiaeth a dysgu
  • ymddygiad, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol
  • synhwyraidd a (neu) gorfforol

Er mwyn deall a yw plentyn neu berson ifanc yn cael anhawster sylweddol i ddysgu, dylai ymarferwyr:

  • arsylwi a chymharu cynnydd y dysgwr
  • nodi rhwystrau i gael mynediad at ddysgu

Mae hyn ar draws meysydd academaidd, cymdeithasol ac emosiynol. Gellir defnyddio ystod o dystiolaeth i lywio dealltwriaeth o gynnydd y dysgwr, gan gynnwys:

  • data cyrhaeddiad
  • arsylwadau o ymddygiad ac ymgysylltiad

Cam 1: cwestiwn 2 

A oes gan y person anabledd (fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig)) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag cael mynediad at gyfleusterau addysg neu hyfforddiant sydd ar gael yn gyffredinol i eraill o’r un oedran?

I ateb hyn:

  1. Cymhwyso’r diffiniad cyfreithiol

Penderfynwch a yw’r dysgwr yn bodloni’r diffiniad o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig).

  1. Deall y cyfleusterau sydd ar gael

Nodwch pa gyfleusterau addysg neu hyfforddiant sy’n cael eu darparu yn gyffredinol i eraill o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir.

  1. Asesu effaith

Penderfynwch a yw’r anabledd yn atal neu’n llesteirio’r dysgwr rhag defnyddio’r cyfleusterau hynny.

Cam 2

Cam 2: cwestiwn 1

A yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol?

I ateb hyn:

Er mwyn penderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY, mae ail gam prawf y Ddeddf ADY yn gofyn a yw ei anhawster dysgu neu ei anabledd yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Ar gyfer person 3 oed neu hŷn, diffinnir darpariaeth ddysgu ychwanegol fel:

“Darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru.”

Ystyriaethau allweddol

Dylai pob ysgol a lleoliad a gynhelir ddarparu addysgu hygyrch o ansawdd uchel ac arferion cynhwysol sy’n darparu ar gyfer anghenion amrywiol pob dysgwr. Mae hyn yn cynnwys:

  • addysgu o ansawdd uchel
  • strategaethau addysgu gwahaniaethol yn yr ystafell ddosbarth
  • ymyrraeth wedi’i thargedu a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion a sicrhau gwell cynnydd 
  • mabwysiadu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles emosiynol

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gymwys i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion a gynhelir, lleoliadau ac addysg feithrin a ariennir nas cynhelir. Mae’n hyrwyddo cynhwysiant drwy wreiddio:

  • tegwch
  • hygyrchedd
  • ymarfer sy’n canolbwyntio ar y dysgwr

ym mhob rhan o:

  • gynllunio’r cwricwlwm ac asesu
  • addysgu
  • diwylliant yr ysgol gyfan

Wrth ystyried a yw’r ddarpariaeth yn ‘ychwanegol’ neu’n ‘wahanol’ i’r hyn sydd ar gael yn gyffredinol, rydych chi’n cymhwyso prawf cenedlaethol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu dealltwriaeth genedlaethol o’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol ledled Cymru.

Felly, rhaid cymharu unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn erbyn darpariaeth:

  • a wneir yn gyffredinol ledled Cymru
  • sy’n rhan o’r cynnig cyffredinol o addysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth
  • sydd ar gyfer dysgwyr o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir

Nid yw’n gywir cymharu â’r ddarpariaeth mewn un ysgol neu awdurdod lleol, hyd yn oed os yw’r ddarpariaeth honno o ansawdd uchel. 

Mewn llawer o achosion, bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a roddir i ddechrau yn golygu bod anghenion y plentyn neu’r person ifanc yn cael eu diwallu’n llawn. Dim ond pan fydd cynnydd yn parhau i beri pryder y mae’n debygol y bydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol gynyddol neu wahanol. Mae’n bosibl y bydd modd lleihau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn raddol ar gyfer rhai plant neu bobl ifanc os yw’r ymyriadau yn llwyddiant (gweler paragraff 20.24 o’r Cod ADY).

Plant a phobl ifanc anabl 

Pan fo plentyn neu berson ifanc yn berson anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol lle bo’n gymwys. Mae’r ddyletswydd hon ar wahân i’r dyletswyddau o dan y Ddeddf ADY. Mae’n gymwys p’un a oes gan blentyn neu berson ifanc sy’n anabl ADY ai peidio. 

Os nad yw plant a phobl ifanc anabl yn bodloni’r diffiniad o ADY o dan y Ddeddf ADY, rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried pa gamau rhesymol y gallant eu cymryd er mwyn osgoi’r anfantais sylweddol y gall y dysgwyr hyn ei brofi o’i gymharu â’r rhai nad ydynt yn anabl. 

Os yw dysgwr yn bodloni’r diffiniad o ADY, gellir ystyried addasiadau rhesymol fel rhan o’r ystyriaeth gyffredinol o ba darpariaeth ddysgu ychwanegol y dylid ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol a’r ddyletswydd i ddarparu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn deillio o ddyletswyddau ar wahân. 

Mae methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae esboniad manwl o’r hyn sy’n gyfystyr ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r dyletswyddau sy’n ddyledus i bobl anabl o dan y Ddeddf honno y tu hwnt i gwmpas y canllawiau hyn. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig). 

Penderfyniadau a chyfathrebu tryloyw

Mae’r adran hon yn nodi disgwyliadau ynghylch:

  • hysbysu plant, eu rhieni a phobl ifanc am benderfyniadau yn glir
  • esbonio’r rhesymeg
  • yr hyn sy’n cael ei gynnig
  • y ffordd ymlaen mewn golwg
  • llwybrau i ailystyried
  • hawliau i apelio

Cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol

Mae cyfathrebu effeithiol yn:

  • adeiladu ymddiriedaeth
  • sicrhau cysondeb rhwng y cartref a’r ysgol
  • cefnogi dull cydweithredol o ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc

Y pecyn cymorth ADY i rieni a gofalwyr

Mae Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ar gael i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y:

  • system ADY yng Nghymru
  •  cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc

Dylai dolenni i’r pecyn cymorth fod ar gael ar wefannau ysgolion ac awdurdodau lleol a dylid ei ddefnyddio i gefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu. 

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Dylid cefnogi’r plentyn, ei rieni neu’r person ifanc i gymryd rhan mor llawn â phosibl yn y prosesau gwneud penderfyniadau. 

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gyfathrebu’n agored, yn glir ac yn rheolaidd â rhieni. Mae hyn yn cynnwys: 

  • defnyddio iaith hygyrch heb jargon
  • darparu diweddariadau amserol ar gynnydd a chymorth eu plentyn

Dylai rhieni gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau a chael eu gwahodd i gyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fel y gallant rannu eu barn a’u pryderon. 

Mae offer i gefnogi ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gael ar-lein yn:

Gwneud penderfyniadau tryloyw 

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswyddau allweddol ar ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff iechyd i sicrhau penderfyniadau tryloyw ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag ADY. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo tegwch ac atebolrwydd. Mae’n rhoi’r hawl i blant, eu rhieni a phobl ifanc i herio penderfyniadau drwy:

  • ailystyriaeth gan yr awdurdod lleol cyfrifol
  • apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC)

Mae hyn yn atgyfnerthu eu hawlogaeth i gymorth priodol.

Rhaid cyfathrebu pob penderfyniad ynghylch adnabod ADY a chymorth a darpariaeth i ddysgwyr sydd ag ADY mewn ffordd glir a hygyrch i’r unigolyn a’i deulu. Mae’r tryloywder hwn yn cynnwys:

  • amlinellu’r rhesymeg y tu ôl i bob penderfyniad
  • y dystiolaeth a’i llywiodd
  • y canlyniadau bwriedig

Mae hyn yn sicrhau bod teuluoedd yn cael eu hysbysu’n llawn ac yn gallu cymryd rhan ystyrlon yn y broses.

Mae gan blant a phobl ifanc hefyd yr hawl i ofyn a chael gwybodaeth am:

  • sut y gwnaed penderfyniadau
  • pa gymorth sydd ar gael

Rhaid i awdurdodau lleol ymateb i’r ceisiadau hyn yn brydlon ac mewn fformat hygyrch. Mae hyn yn atgyfnerthu tryloywder ac ymddiriedaeth. 

Mae’n bwysig bod penderfyniadau a wneir gan yr ysgol a’r awdurdod lleol ynghylch ADY yn glir, yn gyson ac yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys:

  • meini prawf clir: dylai’r corff cyfrifol gymhwyso meini prawf y cytunwyd arnynt i sicrhau tegwch a chysondeb. Dylent fod yn dryloyw ynghylch natur ac aelodaeth paneli gwneud penderfyniadau
  • rhesymeg wedi’i dogfennu: dylai pob penderfyniad gynnwys esboniad ysgrifenedig sy’n amlinellu’r dystiolaeth a ystyriwyd a’r rhesymeg y tu ôl i’r canlyniad
  • cyfathrebu hygyrch: dylai penderfyniadau gael eu cyfathrebu’n brydlon ac mewn fformat dealladwy i ddysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol
  • atebolrwydd ac adolygu: sefydlu mecanweithiau ar gyfer apelio ac adolygu i gynnal ymddiriedaeth a hyder yn y broses

Cyfathrebu penderfyniadau pan nad yw ADY wedi’u hadnabod 

Os yw’r ysgol a gynhelir neu’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu berson ifanc ADY, rhaid iddi neu iddo roi gwybod i’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc am y canlynol:

  • y penderfyniad
  • y rhesymau am y penderfyniad hwnnw

Gellir trafod hyn drwy gyfarfod sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y rhiant hefyd yn derbyn y penderfyniad mewn fformat ysgrifenedig hygyrch.

Rhaid i’r ohebiaeth ysgrifenedig gan ysgolion ac awdurdodau lleol gynnwys:

  • manylion cyswllt yr ysgol neu’r awdurdod lleol, gan gynnwys manylion cyswllt y swyddog dynodedig
  • gwybodaeth am sut i weld trefniadau’r awdurdod lleol cyfrifol ar gyfer rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl am ADY a’r system ADY
  • manylion trefniadau’r awdurdod lleol cyfrifol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau a’i wasanaethau eirioli annibynnol
  • gwybodaeth am yr hawl i wneud cais i’r awdurdod lleol cyfrifol ailystyried y mater a’r cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol cyfrifol

Yn ogystal, rhaid i benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod lleol gynnwys:

  • gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r TAC 

Mae’n cael ei ystyried yn arfer da i ddangos ac esbonio:

  • y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i wneud y penderfyniad
  • sut mae hyn yn cyd-fynd â’r prawf 2 gam ar gyfer ADY

Dylid cynnwys y dull a ddefnyddiwyd a manylion rolau unrhyw aelodau panel a fu’n rhan o’r broses. 

Dylai’r hysbysiad hefyd esbonio’r camau y bydd yr ysgol yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion unrhyw blentyn neu berson ifanc (y nodwyd nad oes ganddo ADY) yn cael eu diwallu. Gallai hyn gynnwys disgrifio a rhoi sicrwydd i deuluoedd o’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol yn yr ysgol a sut y bydd hyn yn cefnogi eu plentyn. 

Cyfathrebu’r camau nesaf 

Mae’n hollbwysig bod y cymorth y mae plentyn neu berson ifanc yn ei gael yn yr ysgol yn cael ei ddeall a’i esbonio mewn ffordd y gall plant, eu rhieni neu bobl ifanc ei ddeall. 

Dylai pob ymarferydd:

  • ffurfio perthynas gadarnhaol a pharchus â dysgwyr
  • ymgysylltu’n weithredol â rhieni a’r gymuned ehangach fel partneriaid dysgu

Gall ymarferwyr egluro bod y Cwricwlwm i Gymru wedi’i ategu gan egwyddorion sy’n:

  • arwain addysgu a dysgu effeithiol
  • sicrhau y gall pob dysgwr gyrraedd ei botensial drwy addasu strategaethau addysgu i gefnogi dysgu orau

Mae’r disgwyliadau o addysgu a dysgu da yn cynnwys:

  • cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
  • defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu
  • hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a meddwl beirniadol
  • adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol i ennyn diddordeb

Dylai ymarferwyr hefyd bwysleisio y bydd anghenion y plentyn neu’r person ifanc a’i gynnydd yn parhau i gael eu monitro’n agos. Bydd hyn yn cael ei adolygu, ei adrodd a’i drafod wrth adrodd ar gynnydd ac yn ystod ymgynghoriadau wedi’u trefnu â rhieni drwy gydol y flwyddyn.

Llunio, cynnal a chyhoeddi cynllun datblygu unigol (CDU)

Pan fydd ADY yn cael eu hadnabod, rhaid llunio CDU. 

Mae CDU yn ddogfen sy’n cynnwys:

  • disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc
  • y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen oherwydd anhawster dysgu ac anabledd y plentyn neu’r person ifanc

Yn ogystal, mae’n gofnod y gellir ei ddefnyddio i fonitro ac adolygu cynnydd plentyn neu berson ifanc. 

Mae gan CDU werth dim ond os yw’n arwain at gymorth effeithiol go iawn sy’n:

  • diwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc
  • gwella ei ganlyniadau 

Dylai pawb sy’n ymwneud â chreu a chynnal CDU gadw hyn mewn cof.

Elfennau allweddol a strwythur CDU

Mae’n bwysig bod pob CDU yn cynnwys elfennau allweddol penodol ac yn cadw at yr un strwythur sylfaenol. Mae hyn yn helpu i sicrhau:

  • cysondeb a thegwch yn y ffordd mae dysgwyr yn cael eu cefnogi
  • tegwch ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol
  • system ADY gydlynol 
  • cludadwyedd CDUau pan fydd dysgwyr yn symud rhwng ysgolion neu leoliadau

Defnyddio’r ffurflen CDU safonol

Rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio’r ffurflen safonol a nodir yn Atodiad A o’r Cod ADY (mae ffurflen wahanol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal). Er bod rhaid iddynt ddefnyddio’r ffurflen safonol, mae hyblygrwydd. Gallant addasu:

  • hyd
  • arddull
  • ymddangosiad gweledol (er enghraifft ychwanegu logo ysgol neu awdurdod lleol)
  • nodweddion hygyrchedd megis ffontiau mwy neu amgen

Er enghraifft, mae plentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion llai difrifol neu gymhleth yn debygol o fod â CDU symlach a byrrach. 

Bydd plentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion difrifol neu gymhleth yn aml angen mewnbwn a chyngor arbenigol. Mae ei CDU yn debygol o gynnwys cyfraniadau gan ystod eang o asiantaethau a manylu ar ystod lawer ehangach o ymyriadau.

Pa wybodaeth ddylai’r CDU ei chynnwys

Cael ei greu drwy gydweithio

Dylai’r wybodaeth mewn CDU gael ei chreu drwy gynnwys, lle bo’n briodol, asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’i gilydd i adnabod:

  • ADY y plentyn neu’r person ifanc
  • y ddarpariaeth i ddiwallu’r ADY hynny

Dylid ei greu drwy gydweithio â’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc.

Canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyblyg

Dylai’r CDU:

  • ganolbwyntio ar ganlyniadau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • bod wedi’i gynllunio i sicrhau cymorth
  • teilwra darpariaeth ddysgu ychwanegol i’r unigolyn, fel y gall gyflawni’r canlyniadau hynny
Cael ei ysgrifennu ar gyfer y dysgwr

Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ysgrifennu’r CDU:

  • mewn arddull sy’n dangos ei fod yn perthyn i’r plentyn neu’r person ifanc ac nad dim ond rhan o broses weinyddol ydyw
  • defnyddio arddull a, lle bo’n bosibl iaith, i adlewyrchu oedran y plentyn neu’r person ifanc
  • fel ei fod yn gwahaniaethu’n glir rhwng yr hyn a ddywedwyd gan y plentyn neu’r person ifanc a’r hyn nas dywedwyd ganddo
  • mewn iaith blaen (boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg neu’r ddau), gan osgoi defnyddio jargon
  • esbonio perthnasedd unrhyw derminoleg dechnegol y mae angen ei chynnwys, fel bod pawb sy’n darllen y CDU yn gallu ei ddeall, gan gynnwys, lle bo’n bosibl, y plentyn neu’r person ifanc 

Pan fo’n briodol, caiff y CDU ei lunio, ei adolygu a’i ddiwygio ar yr un pryd ag yr eir ati i lunio, adolygu neu ddiwygio dogfen neu gynllun arall sy’n ymwneud â’r plentyn neu’r person ifanc. 

Mae rhagor o wybodaeth am ysgrifennu’r CDU ym mhennod 23 o’r Cod ADY.

Datrys anghydfodau, ailystyriaethau a hawliau i apelio

Mae’r adran hon yn nodi’r disgwyliadau ynghylch hysbysu plant, eu rhieni a phobl ifanc am:

  • fynediad at gymorth i osgoi a datrys anghydfodau
  • llwybrau at ailystyriaeth gan awdurdod lleol
  • hawliau i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC)

Osgoi a datrys anghydfodau

Gall anghytundebau godi pan fydd plant, eu rhieni neu bobl ifanc yn anfodlon â phenderfyniad ynghylch ADY neu ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 

Yr hyn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i osgoi neu ddatrys anghytundebau cyn gynted â phosibl

  • Hyrwyddo a chyfathrebu’n glir y trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno am ddim.
  • Cyhoeddi gwybodaeth glir a hygyrch am y trefniadau ar eu gwefannau. Dylai hyn helpu plant, eu rhieni a phobl ifanc i ddeall y trefniant, er enghraifft drwy ddefnyddio iaith blaen. 
  • Dylai gwybodaeth gyhoeddedig gynnwys sut i ddefnyddio’r trefniadau hyn, er enghraifft drwy ddarparu pwynt cyswllt, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.
  • Darparu hyfforddiant a datblygiad priodol fel bod staff sy’n cyflawni’r trefniadau yn deall yn llawn y system ADY a’u rôl ddiduedd yn y broses.
  • Galluogi plant i gael mynediad at drefniadau datrys anghydfodau ar wahân i’w rhieni, os ydynt yn gofyn am hynny.
  • Darparu i gynrychiolydd gymryd rhan ar ran rhiant y plentyn neu berson ifanc sydd heb alluedd ar yr adeg berthnasol. 
  • Pryderon sy’n ymwneud â gofal neu driniaeth y GIG 

Os oes gan blentyn, ei riant neu berson ifanc bryderon am ei ofal neu ei driniaeth, dylid ei annog i siarad â’r staff gofal iechyd dan sylw. Bydd staff yn ceisio datrys ei bryderon cyn gynted â phosibl. Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad yw eisiau siarad â’r staff, gall gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd neu’r ymddiriedolaeth iechyd. 

Os yw am wneud cwyn ffurfiol am ofal, triniaeth neu anfodlonrwydd â GIG Cymru, dylai ddefnyddio’r weithdrefn gwyno ffurfiol ‘Gweithio i Wella’ ar gyfer gwasanaethau’r GIG yng Nghymru.

Ailystyriaethau awdurdodau lleol a hawliau i apelio 

Os yw plentyn, ei rieni neu berson ifanc yn:

  • anfodlon neu’n anghytuno â phenderfyniad ysgol a gynhelir ynghylch a oes gan y plentyn neu’r person ifanc (sydd wedi’i gofrestru yn yr ysgol) ADY
  • anfodlon â CDU a gynhelir gan ysgol

bydd adegau pan na fydd hyn yn cael ei ddatrys gyda’r ysgol.

Pan fydd hyn yn digwydd, gall y plentyn, ei rieni neu’r person ifanc ofyn i’r awdurdod lleol cyfrifol ailystyried penderfyniadau sy’n ymwneud â:

  • phenderfyniad yr ysgol ynghylch a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY
  • cynnwys CDU a gynhelir gan ysgol gyda’r bwriad o’i ddiwygio
  • yr awdurdod lleol yn cymryd cyfrifoldeb am CDU a gynhelir gan yr ysgol ar hyn o bryd

O dan yr amgylchiadau hyn, dylai ysgolion:

  • gynghori plant, eu rhieni a phobl ifanc y dylid gwneud unrhyw gais am ailystyriaeth yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol cyfrifol
  • darparu gwybodaeth am sut i gysylltu â’r awdurdod lleol

Gall teuluoedd ddod o hyd i dudalennau gwe ADY yr awdurdod lleol perthnasol drwy ddefnyddio’r offeryn chwilio. Yna gallant gysylltu â’r awdurdod lleol yn uniongyrchol i gyflwyno eu cais am ailystyriaeth.

Dylai ysgolion:

  • gynghori teuluoedd i gynnwys yr holl ohebiaeth a llythyrau penderfyniad perthnasol fel rhan o’u cais
  • darparu copïau o ddogfennau i gefnogi’r cais

Yn dilyn y cais, rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r:

  • plentyn (neu ei riant) neu’r person ifanc am y cais a gwahodd sylwadau (os mai’r ysgol sydd wedi gwneud y cais)
  • ysgol am y cais a gwahodd sylwadau (os mai’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc sydd wedi gwneud y cais)

Dylai’r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad yn brydlon. Rhaid iddo wneud hyn o fewn 7 wythnos o dderbyn y cais, oni bai bod amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth yn atal hyn.

Cyfathrebu penderfyniadau a hawliau i apelio 

Rhaid i awdurdodau lleol esbonio eu penderfyniadau yn glir i’r plentyn, ei riant neu’r person ifanc. Rhaid darparu pob penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniadau yn ysgrifenedig. Rhaid i’r ohebiaeth ysgrifenedig gan awdurdod lleol gynnwys:

  • manylion cyswllt yr awdurdod lleol
  • gwybodaeth am sut i gael gafael ar gyngor am ADY a’r system ADY, gan gynnwys manylion gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yr awdurdod lleol
  • manylion trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau, gan gynnwys sut i gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol
  • gwybodaeth am yr hawliau i apelio i’r TAC

Gall plentyn, ei riant neu berson ifanc apelio i’r TAC. Gall apelio os yw’n anghytuno â’r canlynol:

  • canlyniad ailystyriaeth awdurdod lleol o benderfyniad ysgol ynghylch ADY
  • cynnwys CDU
  • cymryd cyfrifoldeb am gynnal CDU ysgol 

Rhaid cynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i’r TAC yn yr ohebiaeth ysgrifenedig.

Penderfyniadau y gellir apelio yn eu herbyn i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC)

Mae’r TAC yn gwrando ac yn penderfynu ar apeliadau ynghylch penderfyniadau awdurdod lleol yng Nghymru. 

Mae’r TAC yn gwrando ac yn penderfynu ar apeliadau a cheisiadau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd ag ADY neu a allai fod ag ADY. Mae’r TAC yn annibynnol ar:

  • y llywodraeth
  • awdurdodau lleol
  • ysgolion
  • sefydliadau addysg bellach 

Mae ei benderfyniadau yn rhwymo mewn cyfraith.

Mae pennod 33 o’r Cod ADY yn esbonio apeliadau a cheisiadau i’r TAC. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan TAC. Mae hyn yn cynnwys:

  •  cyngor ac arweiniad ar y broses apelio
  •  y gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn
Materion y gellir eu hapelio

Caiff plentyn, ei riant neu berson ifanc apelio i’r TAC ynghylch:

  • penderfyniad awdurdod lleol ynghylch a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY
  • yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol ynghylch a oes angen llunio a chynnal CDU
  • disgrifiad o ADY person mewn CDU
  • y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn CDU, neu’r ffaith nad oes darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn CDU, gan gynnwys a yw’r CDU yn nodi y dylid darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg 
  • y ddarpariaeth a gynhwysir mewn CDU gan awdurdod lleol o dan adrannau 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf ADY neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny mewn CDU
  • yr ysgol a enwir mewn CDU at ddiben derbyn plentyn neu berson ifanc mewn sefydliad a enwir, neu os na enwir ysgol mewn CDU at ddiben derbyn
  • penderfyniad gan yr awdurdod lleol i beidio â diwygio CDU pan ofynnwyd i’r awdurdod lleol gan blentyn, ei riant neu berson ifanc i ailystyried CDU sy’n cael ei gynnal gan ysgol a gynhelir
  • penderfyniad gan awdurdod lleol i beidio ag ysgwyddo cyfrifoldeb am CDU, a gynhelir gan ysgol, lle y gofynnwyd iddo wneud hynny gan blentyn, ei riant, person ifanc neu gorff llywodraethu’r ysgol honno
  • penderfyniad i roi’r gorau i gynnal CDU
  • gwrthod penderfynu ar fater ar y sail nad yw’r anghenion wedi newid yn sylweddol neu nad oes unrhyw wybodaeth newydd wedi’i chyflwyno sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad

Amserlenni gwneud penderfyniadau ADY

Mae’r tabl yn darparu crynodeb lefel uchel o’r dyletswyddau a’r disgwyliadau a nodir yn y Cod ADY.

Manylion cyswllt

Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymorth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: YGangenAnghenionDysguYchwanegol@llyw.cymru