Neidio i'r prif gynnwy

Llwyfan i blant rannu eu profiadau o'r system ADY i helpu i wella cymorth ADY.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY): rhaglen llysgenhadon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 842 KB

PDF
842 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rhaglen llysgenhadon anghenion dysgu ychwanegol: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Fel rhan o werthusiad o weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, fe wnaethom gomisiynu Plant yng Nghymru i weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i greu grŵp Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc ag ADY ar gyfer Cymru gyfan.

Sefydlwyd y grŵp i:

  • greu cyfrwng i blant a phobl ifanc rannu eu profiadau o'r system AAA ac ADY wrth i Ddeddf ADY gael ei rhoi ar waith
  • grymuso dysgwyr ag ADY i ddylanwadu ar benderfyniadau am eu haddysg
  • cryfhau hawliau plant i gael cyfrannu fel y nodir yn y Cod ADY
  • sicrhau bod barn plant yn llywio polisi a'r gwasanaethau a ddarperir

Mae prosiect llysgenhadon ADY wedi darparu mewnwelediad gwerthfawr i brofiad unigolion ag ADY mewn addysg, mae wedi tynnu sylw at enghreifftiau gwerthfawr o arferion effeithiol ar draws y sector, ac mae wedi nodi meysydd i'w datblygu.

Mae'r gwaith hwn yn sicrhau:

  • bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn ffordd ystyrlon wrth lywio polisi a gwasanaethau
  • bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael lle canolog wrth gynllunio a gweithredu ar ran ADY
  • bod llwybrau yn cael eu nodi i rannu llais a safbwyntiau plant a phobl ifanc gydag ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau