Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a thri phwyllgor cenedlaethol BMA Cymru Wales sy’n cynrychioli ymgynghorwyr, meddygon SAS a meddygon iau wedi cytuno i gynnal negodiadau ffurfiol ar gyflogau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, bydd y camau gweithredu diwydiannol a oedd wedi’u cynllunio yn cael eu hatal.

Mae mandad yn cael ei ddatblygu ar gyfer y trafodaethau â phob un o dair cangen ymarfer y BMA, a’r nod yw datrys yr anghydfodau ynghylch cyflogau 2023 i 2024. 

Yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol fwyaf heriol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i hwynebu ers datganoli, mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud i glustnodi cyllid i gefnogi’r negodiadau.

Dywedodd Vaughan Gething, y Prif Weinidog:

Rydyn ni’n cydnabod cryfder teimladau aelodau’r BMA ac nad ar chwarae bach y byddan nhw’n penderfynu cymryd camau gweithredu diwydiannol.

Mae hon yn llywodraeth sy’n gwrando ac sy’n ymrwymo i ddod o hyd i atebion. Rhoddais flaenoriaeth i gynnal cyfarfod â’r BMA ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i gadarnhau ein hymrwymiad i’r dull partneriaeth hwnnw.

Heddiw, rydyn ni’n wynebu’r sefyllfa ariannol fwyaf difrifol yn oes datganoli sy’n golygu bod ein tasg gryn dipyn yn anoddach. Er gwaetha’r amgylchiadau hyn, rydyn ni wedi gweithio i ddod o hyd i ffordd ymlaen rydw i’n gobeithio fydd yn arwain at ddatrys yr anghydfod hwn yn llwyddiannus ac yn sicrhau y gall meddygon fynd yn ôl i’w gwaith yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Ychwanegodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:

Hyd yn oed yn yr amgylchiadau hynod heriol hyn, rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r BMA a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gynnal diogelwch cleifion yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.

Ond mae’r streiciau wedi tarfu’n fawr wrth ddarparu gwasanaethau’r gwasanaeth iechyd – does yr un ohonon ni eisiau gweld meddygon ar streic. Rydw i'n falch bod tri phwyllgor y BMA wedi cytuno i oedi camau gweithredu diwydiannol pellach a dechrau trafodaethau ffurfiol â Llywodraeth Cymru. Gobeithio y gallwn ni ddod â'r anghydfod hwn i ben.