Anghydraddoldebau iechyd y geg yng Nghymru: datganiad sefyllfa
Datganiad sefyllfa gan Bwyllgor Deintyddol Cymru ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dyddiad
7 Tachwedd 2025
Diben
Mae anghydraddoldebau iechyd y geg, gan gynnwys annhegwch o ran mynediad a chanlyniadau gofal deintyddol, yn annheg, yn anghyfiawn ac yn ataliadwy.
Diben y datganiad sefyllfa hwn yw dylanwadu ar bolisi a chynllunio deintyddol, gan gynnwys dyrannu adnoddau, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yng Nghymru.
Dylai'r datganiad sefyllfa hwn hefyd atgoffa cyrff cyhoeddus yng Nghymru bod camau rhagweithiol ar leihau annhegwch iechyd gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd y geg yn ofyniad cyfreithiol.
Cwmpas
Mae'r datganiad sefyllfa hwn mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd y geg sy'n bresennol yng Nghymru.
Prif ffocws y datganiad hwn yw dylanwadu ar ddatblygiad polisi a rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd ac ymyrraeth yn genedlaethol ar ddyrannu adnoddau, i ddileu anghydraddoldebau iechyd y geg.
Mae gan sefydliadau eraill GIG Cymru, yn enwedig byrddau iechyd, rolau allweddol wrth ddyrannu adnoddau i ddileu anghydraddoldebau iechyd y geg.
Mae datganiad sefyllfa ar wahân gan Bwyllgor Deintyddol Cymru ar wasanaethau deintyddol i grwpiau agored i niwed ac felly dylid ystyried y datganiad hwn ochr yn ochr â'r ddogfen honno.
Cefndir
Penderfynyddion cymdeithasol a masnachol iechyd yw achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd y geg. Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn groestoriadol iawn. Gellir meddwl am y croestoriadedd rhwng amddifadedd, nodweddion gwarchodedig a nodweddion eraill fel gwe, lle mae gwahanol feysydd yn cysylltu, gan gymhlethu a gwaethygu ei gilydd.
Mae tystiolaeth ddiamheuol bod anghydraddoldebau iechyd y geg y gellir eu hosgoi yn bodoli yng Nghymru, gyda phobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cario'r baich mwyaf o glefydau deintyddol.
Er bod rhywfaint o dystiolaeth o'r llenyddiaeth bod rhwystrau i ofal iechyd y geg i bobl â nodweddion gwarchodedig ar lefel unigol a sefydliadol, ar hyn o bryd nid oes unrhyw fecanwaith i fonitro anghydraddoldebau iechyd y geg mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig. Gall casglu data ar nodweddion gwarchodedig gan wasanaethau deintyddol fod yn heriol ond mae angen gwella casglu data ar nodweddion gwarchodedig ac yn bwysicach fyth dadansoddiadau i ddeall anghydraddoldebau er mwyn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae gan Gymru sawl deddfwriaeth a strategaeth y llywodraeth (Cymru Iachach) sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fonitro annhegwch a mynd i'r afael yn rhagweithiol ag ef. Mae hyn yn cynnwys anghydraddoldebau iechyd y geg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar mai Cymru fydd y ‘genedl Marmot’ gyntaf yn y byd, gan fynd i'r afael ag annhegwch iechyd yn genedlaethol.
Mae Cyflawni Gwell Iechyd y Geg: pecyn offer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn disgrifio'r ffactorau risg ar gyfer periodontitis, pydredd dannedd, a chanser y geg. Mae llawer o ffactorau risg ar gyfer iechyd y geg gwael hefyd yn ffactorau risg ar gyfer llawer o glefydau cronig eraill gan gynnwys canserau. Mae ffactorau risg cyffredin a'r berthynas rhwng iechyd y geg a chyflyrau iechyd cyffredinol fel a ganlyn:
- Yn ogystal â chronni plac, mae tybaco (smygu neu gnoi), defnyddio alcohol a sawl cyflwr iechyd cyffredinol yn ffactorau risg ar gyfer clefydau periodontol. I'r gwrthwyneb, mae risgiau posibl i iechyd cyffredinol o ganlyniad i gael clefydau periodontol gweithredol.
- Y prif ffactorau risg ar gyfer canserau'r geg yw'r defnydd o dybaco a'r defnydd o alcohol (yn enwedig yn ormodol) ac mewn cyfuniad â'i gilydd. Mae haint â'r feirws papiloma dynol yn risg bwysig ar gyfer canser yr oroffaryncs, o bosibl mewn cyfuniad â thybaco ac alcohol. Mae amlygiad gormodol i oleuni uwchfioled (UV) yn ffactor risg ar gyfer canser y gwefusau allanol.
- Y prif ffactorau risg addasadwy ar gyfer gwell iechyd y geg ac iechyd cyffredinol yw: smygu gan gynnwys defnyddio tybaco, yfed alcohol y tu hwnt i'r terfyn a argymhellir, deiet uchel mewn siwgr a sefydlu arferion hylendid y geg da gan gynnwys defnyddio'r past dannedd fflworid gorau posibl.
- Nid oes cynllun fflworideiddio dŵr yng Nghymru. Rhaglen Cynllun Gwên yw'r unig ymyrraeth iechyd y geg ar lefel poblogaeth yng Nghymru. Mae'n cael ei dargedu at blant ifanc yn y tri chwintel mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Nid yw'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan fyrddau iechyd wedi cadw i fyny â chwyddiant ac mae'r gyfradd mynediad at wasanaethau deintyddol plant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llawer is na'r boblogaeth plant sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal).
Datganiadau sefyllfa
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn gefnogol i fwriad deddfwriaethol a strategol Llywodraeth Cymru i leihau annhegwch iechyd yng Nghymru. Mae'r pwyllgor yn cefnogi mesurau deddfwriaethol a mesurau eraill i leihau effaith penderfynyddion masnachol a chymdeithasol ar iechyd, iechyd y geg ac anghydraddoldebau.
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn rhannu pryder pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU am effaith pydredd dannedd ar y boblogaeth plant ac mae'n cefnogi eu datganiad sefyllfa ar y cyd ar fflworideiddio dŵr (Medi 2021).
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn bryderus iawn am anghydraddoldebau iechyd y geg parhaus ac effaith hyn ar fywydau pobl. Mae anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal deintyddol yn cael eu gwaethygu gan y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal, lle mae pobl sydd fwyaf angen gofal iechyd yn lleiaf tebygol o'i dderbyn.
Nid yw monitro adweithiol anghydraddoldebau iechyd y geg yn ddigon da ac mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru gael cynllun rhagweithiol ac wedi'i ariannu i leihau ac yn y pen draw dileu anghydraddoldebau iechyd y geg yng Nghymru.
Dylid cynnwys iechyd y geg mewn polisïau a rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol ehangach perthnasol i leihau anghydraddoldebau iechyd y geg yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd y geg yn y blynyddoedd cynnar, ymhlith grwpiau a chymunedau difreintiedig gan gynnwys y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Argymhellion
Mae'n ofyniad moesegol a chyfreithiol i ddileu anghydraddoldebau iechyd y geg annheg ac ataliadwy. Gwneir yr argymhellion canlynol:
Mae angen gwelliant mewn data a mewnwelediadau o werthuso ac ymchwil
Dylid dadansoddi data iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol i ddeall anghydraddoldebau iechyd y geg a'r graddau y mae'r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal yn effeithio ar fynediad at wasanaethau deintyddol a chanlyniadau. Dylai data meintiol gael eu hategu gan wybodaeth am brofiad bywyd grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt gan anghydraddoldebau.
Dylid gwella casglu data ar nodweddion gwarchodedig gyda rhywfaint o frys.
Dylai dadansoddiadau gynnwys monitro dyraniad cymesur o adnoddau yn seiliedig ar angen.
Dylai Llywodraeth Cymru a GIG Cymru gydweithio â sefydliadau academaidd ar gyfer ymchwil a gwerthuso er mwyn deall yn fanylach unrhyw annhegwch mewn canlyniadau gofal deintyddol ac anghydraddoldebau iechyd y geg. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad manwl o groestoriadedd mewn ymchwil iechyd y geg yng Nghymru.
Camau gweithredu rhagweithiol a pharhaus sydd eu hangen i leihau anghydraddoldebau iechyd y geg
Rhaid dileu tlodi plant yng Nghymru. Mae angen i Gynllun Gwên gael ei ariannu'n ddigonol fel bod mwyafrif sylweddol o'r boblogaeth blant wedi'i thargedu yn cael budd o'r ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gynigir gan Gynllun Gwên.
Rhaid dileu annhegwch mewn mynediad deintyddol a chanlyniadau gofal deintyddol. Mae angen cynllun wedi'i ariannu i gynyddu cyfraddau mynediad deintyddol mewn ardaloedd difreintiedig a'r cymunedau y mae gwasanaethau yn methu cyrraedd. Mae angen i brofiad a chanlyniadau gofal deintyddol fod yn deg ar draws cwintelau amddifadedd, ffiniau daearyddol, cymunedau a grwpiau â nodweddion gwarchodedig.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio'r refeniw taliadau cleifion a gynhyrchir o wasanaethau deintyddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg ac annhegwch mewn mynediad deintyddol. Rhaid i bolisi deintyddol, strategaethau, cynllunio a chomisiynu gwasanaethau ddangos sut y byddant hefyd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg.
Dylai'r gweithlu deintyddol, ymchwil, datblygu digidol, datblygu arweinyddiaeth a galluogwyr eraill yn y system iechyd a gofal bob amser ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiad adolygu
Bydd Pwyllgor Deintyddol Cymru yn adolygu'r datganiad hwn yn flynyddol a fydd yn cynnwys trafodaeth ar y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion y pwyllgor.
Gwybodaeth gyswllt
Ysgrifennydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: committeesecretariat1@gov.wales
