Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar y nifer o anheddau sy'n gorfod talu'r dreth gyngor, bandio, gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer yr anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 20234-25 wedi cynyddu fesul 5,766 neu 0.4%, ar y flwyddyn flaenorol i 1,416,847. Ar gyfer dibenion cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw mae’r cyfanswm hwn yn cyfateb i 1,275,829 o anheddau band D. Gwynedd sy’n dangos y cynnydd mwyaf mewn anheddau band D cyfatebol sef 1.0%.
  • Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o anheddau band A (45,046).  Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o anheddau ym mand A (58%), Sir Fynwy sydd â'r isaf (1%).
  • Mae 36% o anheddau yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, fel arfer oherwydd eu bod yn cael eu meddiannu gan un person cymwys yn unig.
  • Mae 64,309 o anheddau yng Nghymru wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor, sef 4.3% o’r holl anheddau. Y categori mwyaf sydd wedi’i eithrio yw anheddau i fyfyrwyr gydag 19,641, ac ar ôl hynny anheddau gwag a heb eu dodrefnu gydag 14,311, a 9,183 o anheddau wedi’u heithrio o ganlyniad i fod yn wag adeg marwolaeth.
  • Mae 17 awdurdod yn codi premiwm cartref gwag hirdymor, ac mae 15 yn codi premiwm ail gartref.  Nid yw'r mwyafrif o awdurdodau bellach yn rhoi unrhyw ostyngiadau i gartrefi gwag neu ail gartref tymor hir.
  • Disgwylir i nifer yr ail gartrefi y gellir eu codi ar gyfer treth y cyngor ostwng 2,240 neu 9.3%.

Adroddiadau

Anheddau’r Dreth Gyngor: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 443 KB

PDF
Saesneg yn unig
443 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.