Anna Brychan AS Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Cynnwys
Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Cynnwys
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb yn y Cabinet am addysg, y Gymraeg, sgiliau ac addysg drydyddol.
- Safonau ysgolion, gwella a chyrhaeddiad disgyblion
- Llywodraethiant ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
- Polisi cyllido ysgolion gan gynnwys Grant Addysg Awdurdodau Lleol
- Trefniadau ar gyfer y cwricwlwm ac asesu
- Dysgu digidol gan gynnwys Hwb a diogelwch ar-lein
- Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Addysg plentyndod cynnar
- Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl
- Cymorth i bobl â Dyslecsia
- Tegwch mewn Addysg gan gynnwys y dull 'ysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl, presenoldeb a diogelu, ymddygiad a chynhwysiant ac ysgolion bro
- Bwyd a diod mewn ysgolion gan gynnwys Prydau Ysgol, Brecwast a Llaeth am Ddim a Bwyta'n Iach
- Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
- Cyflawni a rheoli'r rhaglen gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
- Cymwysterau Cymru
- Rhaglen, cylch gwaith a chyllid Estyn
- Adnodd
- Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol athrawon
- Ymgysylltu â'r Gweithlu Addysg gan gynnwys Cyflog ac Amodau (Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru), Llwyth Gwaith a Llesiant
- Gwaith Ieuenctid
- Llwybrau Dysgwyr 14-19
- Polisïau i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg
- Diogelu mewn lleoliadau addysg
Bywgraffiad
Hanes personol
Un o Geredigion yw Anna Brychan, ond mae’n byw yn Grangetown, Caerdydd ers dros 25 mlynedd. Ei thad oedd yr hanesydd John Davies, awdur Hanes Cymru. Mae hi’n briod a chanddi dri mab.
Cefndir proffesiynol
Mae hi wedi gweithio mewn nifer o swyddi yn y byd addysg, gan wasanaethu am 10 mlynedd fel Cyfarwyddwr NAHT Cymru (undeb llafur a chymdeithas broffesiynol ar gyfer penaethiaid yng Nghymru) cyn ei rôl fwyaf diweddar fel Deon Cynorthwyol Addysg a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Hanes gwleidyddol
Roedd ganddi amryw o rolau o fewn Plaid Cymru ym mlynyddoedd cynnar datganoli (2000-2004), gan gynnwys gwasanaethu fel arweinydd cyfathrebu a chyfnod yn Brif Weithredwr y blaid.
Ym mis Mehefin 2025, cafodd ei dewis i sefyll yn etholaeth Caerdydd Penarth yn etholiad y Senedd yn 2026, yn gyntaf ar restr y blaid.
Ar 13 Mai 2026, penodwyd Anna Brychan yn Weinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg.
