Anna Heslop Dirprwy Asesydd Interim
Adolygu pryderon ynghylch sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru.
Mae Anna yn ymgyfreithiwr cyfraith gyhoeddus ac amgylcheddol profiadol.
Mae wedi gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd, ac wedi cynghori cyrff cyhoeddus yn y DU ar weithredu cyfraith amgylcheddol a chynllunio. Hefyd, mae wedi gweithio i nifer o gyrff anllywodraethol amgylcheddol, gan gynnwys amser yn ClientEarth, lle bu’n arwain tîm rhyngwladol sy’n arbenigo mewn camau cyfreithiol yn ymwneud â’r amgylchedd naturiol ar lefelau cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol a lle bu’n weithgar wrth gyflwyno ymgyfreitha arloesol ar ansawdd aer.
A hithau wedi’i magu ar Ynys Môn, mae Anna bellach wedi’i lleoli ym Mrwsel, Gwlad Belg.