Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Swyddogion Milfeddygol ledled y DU yn annog pawb sy’n cadw dofednod i weithredu’n syth er mwyn lleihau’r perygl o glefyd dros y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers mis Mehefin 2017, nid oes unrhyw achos wedi’i nodi o’r ffliw adar ymysg dofednod neu adar anwes yn y DU, ac mae’r DU wedi cadw ei statws OIE fel gwlad sy’n rhydd o’r clefyd ers mis Medi 2017.  

Dylai pawb sy’n cadw adar, waeth a ydynt yn rhedeg fferm fasnachol fawr, yn cadw ambell i aderyn yn yr ardd gefn, neu’n magu adar hela, roi nifer o fesurau syml ar waith i ddiogelu eu hanifeiliaid yn erbyn y bygythiad o’r ffliw adar dros fisoedd y gaeaf. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:   

  • cadw’r ardal lle mae adar yn cael eu cadw yn lân ac yn daclus, rheoli llygod mawr a llygod a diheintio unrhyw arwyneb caled yn rheolaidd. Glanhau esgidiau cyn ac ar ôl ymweld â’r ardal. 
  • gosod bwyd a dŵr adar mewn ardaloedd  caeedig sydd wedi’u diogelu yn erbyn adar gwyllt, a chael gwared yn rheolaidd ag unrhyw fwyd sy’n cael ei ollwng.   
  • codi ffensys o gwmpas mannau awyr agored sy’n gartref i’r adar, a chyfyngu ar eu mynediad i byllau dŵr neu fannau sy’n denu adar dŵr gwyllt.
  • os oes modd, osgoi cadw hwyaid a gwyddau gyda rhywogaethau dofednod eraill.
  • dylai pawb sy’n cadw dofednod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gofrestru ar gyfer gwasanaeth APHA di-dâl i dderbyn rhybuddion testun neu e-bost yn ymwneud ag unrhyw achosion o’r ffliw adar yn y DU. Yng Ngogledd Iwerddon, mae pawb sy’n cadw adar yn cael eu hannog i danysgrifio i  wasanaeth rhybuddio testun di-dâl  trwy decstio’r gair ‘ADAR’ i 67300. 

Mae’r mesurau hyn yn bwysig iawn os ydych chi’n byw yn un o Ardaloedd Risg Uwch Prydain, neu’n agos at un o’r ardaloedd hyn. Gallwch ddefnyddio un o’n mapiau rhyngweithiol i weld a ydych chi’n byw mewn Ardal Risg Uchel. 

Dyma ddatganiad ar y cyd gan bob un o bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU: 

“Mae’r ffliw adar yn parhau i ledaenu mewn sawl rhan o’r byd, ac ar drothwy misoedd oer y gaeaf, mae perygl y clefyd o adar mudol yn cynyddu. Mae’n hanfodol bwysig bod pawb sy’n cadw dofednod, gan gynnwys adar hela ac adar anwes, yn gweithredu’n syth i leihau’r perygl o drosglwyddo’r ffliw adar i’w heidiau. 

“Mae’n bwysig sicrhau bioddiogelwch da bob amser, gan gynnwys glanhau a diheintio’r ardal lle mae adar yn cael eu cadw yn rheolaidd, a’u cadw ar wahân i adar gwyllt os oes modd.  

“Hefyd, dylai ceidwaid sicrhau eu bod yn cofrestru ar Gofrestr Dofednod Prydain, ac mae’n dda gweld bod ffurflenni newydd ar gael bellach i symleiddio’r broses hon. Mae’n rhaid i geidwaid yng Ngogledd Iwerddon gofrestru eu hadar ar Gofrestr Adar DAERA. Mae modd cwblhau a chyflwyno hyn ar-lein bellach.”

Hefyd, dylai pawb sy’n cadw adar ledled Prydain gofrestru eu hadar ar Cofrestr Dofednod Prydain (GBPR). Os oes gennych chi 50 o adar neu fwy, mae hwn yn ofyniad cyfreithiol, ond mae pobl sy’n cadw llai na 50 o adar yn cael eu hannog i gofrestru hefyd. Bydd ffurflenni newydd sy’n hawdd i’w defnyddio yn cyflymu’r broses eleni. 

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n ofyniad cyfreithiol i bawb sy’n cadw adar gofrestru pob aderyn ar Cofrestr Adar DAERA, ac eithrio adar anwes sy’n cael eu cadw yng nghartref y perchennog.  

Trwy gofrestru’ch adar, bydd y llywodraeth yn gallu cysylltu â chi os oes achos o’r ffliw adar yn cael ei nodi, gan ddarparu gwybodaeth am y camau sydd i’w cymryd er mwyn lleihau’r perygl i’ch adar.  

Y gaeaf diwethaf, fe gafodd math H5N6 HPAI o’r ffliw adar ei ganfod mewn adar gwyllt yn unig, ac ni chafwyd unrhyw achosion ymysg adar domestig, naill ai ar lefel fasnachol neu mewn mân-ddaliadau. Er nad oes unrhyw achos wedi’i nodi yn y DU ers mis Mehefin 2018, mae’r firws yn parhau i ledaenu ymysg adar gwyllt yng ngogledd Ewrop (gan gynnwys Denmarc a’r Almaen) ac mae wedi heintio dofednod.  Yn ogystal, mae’r firws H5N8 HPAI yn parhau i ledaenu yn nwyrain Ewrop, gan amlygu’r angen i fod yn wyliadwrus. 

Mae’r Llywodraeth yn parhau i fonitro ar gyfer achosion o’r ffliw adar, ac mae’n gweithio gyda’r diwydiannau dofednod ac adar hela, rhanddeiliaid ailgartrefu ieir a rhanddeiliaid rhywogaethau dofednod pur a thraddodiadol er mwyn helpu i atal achosion o’r clefyd.