Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Wrth i Wythnos Gofalwyr ddechrau, mae ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru am helpu pobl ifanc sy’n gofalu i sylweddoli eu bod yn ofalwyr, a’u cysylltu â’r cymorth sydd ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tua 30,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru yn darparu cymorth corfforol ac emosiynol i aelodau o’r teulu sy’n anabl neu sydd ag anghenion iechyd hirdymor.

Ond mae rhai yn ei chael yn anodd cydbwyso cyfrifoldebau gofalu â’u haddysg, eu bywyd cymdeithasol a’u hobïau, ac yn aml nid yw eu sefyllfa yn dod yn hysbys, sy’n golygu eu bod yn colli cymorth hanfodol.

Mae ymgyrch y cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys fideos byr o ofalwyr ifanc yn rhannu eu cyfrifoldebau, ac yn cyfeirio gwylwyr at wasanaethau cymorth.

Mae Tamanna o Abertawe yn gofalu am ei mam, gan gynnwys adeg dathliadau pwysig fel Eid al-Adha.

Dywedodd Tamanna:

Dw i’n 23 oed ac yn Brydeinwraig o dras Bangladeshaidd. Dw i, ynghyd â ‘mrodyr a’m chwiorydd, yn gofalu am fy mam sydd ag ystod o gyflyrau meddygol. Dw i ddim yn cael tâl.

Gan fy mod i’n byw gyda hi, fi yw ei phrif ofalwr. Dw i ddim yn ystyried y gwaith yn ofal, gan mai fy mam yw hi, a ‘mod i’n ei charu’n fawr ac eisiau’r gorau iddi.

Fodd bynnag, mae’n gallu mynd yn anodd pan na alla’ i gymryd amser o’r gwaith. Mae’n ymdrech, ond rydyn ni’n ymdopi drwy weithio gyda’n gilydd fel teulu. Yn nhŷ fy mam y byddwn ni’n dathlu Eid bob amser, lle mae pawb yn dod ynghyd i fwynhau amser sydd ei angen arnon ni fel teulu.

Mae hyn hefyd yn rhoi rhyw fath o hoe imi pan nad oes rhaid imi boeni bod fy mam yn mynd i gwympo neu fod angen rhywbeth arni, gan fod eraill yn y tŷ. Dyma wir ystyr Eid i ni. Mae’n amser i gofio a bod yno i’n gilydd.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Wrth inni nodi Wythnos Gofalwyr, mae clywed lleisiau fel Tamanna yn ein hatgoffa nad oes gwyliau oddi wrth gyfrifoldebau gofalu. Mae’r ymgyrch hon yn helpu pobl ifanc sy’n gofalu i sylweddoli eu bod yn ofalwyr, ac yn eu cysylltu â chymorth hollbwysig.

Rydyn ni am sicrhau nad yw gofalwyr ifanc yn colli cyfleoedd addysgol nac yn mynd i drafferthion o ran eu lles. Drwy weld eu hunain yn y straeon hyn, rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc yn estyn allan am y gefnogaeth y maen nhw’n ei haeddu.