Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Kirsty Williams yn ymuno â phobl ifanc yn llyfrgell Glyn-nedd heddiw i ddathlu Her Ddarllen yr Haf gan lansio'r Cyfle Darllen Mawr Direidus – cynllun i annog darllen ar raddfa enfawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn dathlu canmlwyddiant geni hoff storïwr y byd, Roald Dahl yn y Cyfle Darllen Mawr Direidus. Mae llyfrau Roald Dahl, a gafodd ei eni yng Nghymru, wedi rhoi’r thema i Her Ddarllen yr Haf yn 2016. Yn ystod gwyliau'r haf bydd amserlen lawn o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled Cymru er mwyn helpu i annog plant i fwynhau darllen.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

“Mae Her Ddarllen yr Haf wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cymell plant i ddarllen mwy yn ystod gwyliau'r haf. Mae ymchwil wedi dangos bod hyn yn helpu i gynnal eu lefel ddarllen cyn iddyn nhw fynd yn ôl i'r ysgol ym mis Medi.

“I ddyfynnu geiriau doeth Roald Dahl, ‘os ydych chi am lwyddo mewn bywyd, rhaid i chi ddarllen llawer o lyfrau’ a byddwn i'n annog rhieni i wneud y mwyaf o'r amser gyda'u plant dros yr haf, dechrau darllen llyfr a phwy a ŵyr ymhle bydd y stori'n gorffen.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd,

“Rydyn ni'n gwybod bod llyfrgelloedd yn gallu cael effaith gadarnhaol go iawn ar fywydau plant, drwy eu cyflwyno i ddiddordebau newydd di-rif a'u helpu nhw i ddatblygu cariad at ddarllen. Rwy'n falch y gallwn ni barhau i gefnogi Her Ddarllen yr Haf eleni, a gobeithio y bydd yn helpu plant ledled Cymru i gymryd rhan mewn anturiaethau drwy gydol yr haf.”

Mae Her Ddarllen flynyddol yr Haf wedi'i threfnu gan elusen The Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU. Mae'n bosibl ymuno yn yr hwyl yn hawdd ac mae’n rhad ac am ddim. Mae plant 4-11 oed yn cael eu hannog i ddarllen chwe llyfr neu ragor o'u dewis nhw yn ystod gwyliau'r haf gyda chymhellion a gwobrau i'w casglu, yn ogystal â thystysgrif, neu fedal ar gyfer pob plentyn sy'n cwblhau'r her.

Bydd y Cyfle Darllen Mawr Direidus yn annog darllen ar raddfa enfawr ac yn tynnu sylw at chwe thema allweddol - dyfeisgarwch, antur, direidi, chwarae gyda geiriau, campau plant a chyfeillgarwch - sy'n cael eu trafod yn llyfrau enwocaf Roald Dahl. Bydd y cynllun yn annog plant i ymestyn eu darllen eu hunain drwy edrych ar themâu tebyg, ffeithiau anhygoel, cymeriadau a storïau sydd i'w cael yn yr enghreifftiau gorau o ysgrifennu cyfoes i blant.

Cewch chi gymryd rhan yn rhad ac am ddim yn Her Ddarllen yr Haf ac mae'n un enghraifft o'r hyn mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn ei gynnig i helpu plant i ddatblygu cariad at ddarllen, meithrin hyder a dysgu sgiliau newydd. Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn ystod gwyliau'r haf i gadw plant yn brysur ac i wneud bywyd yn haws i rieni! Mae rhai o'r digwyddiadau gwych sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer yr Her yn cynnwys gweithdy siocled, ymweliadau gan awduron, sesiynau celf a chrefft, a grŵp drama a chwarae rhyngweithiol.

Galwch heibio i'ch llyfrgell leol neu ewch i llyfrgelloedd.cymru i gael rhagor o wybodaeth.