Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn galw ar bobl ifanc, rhieni, athrawon ac eraill i helpu i lywio canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad mewn gweithdy yn Ysgol y Grango, Wrecsam, i nodi Wythnos Gwrthfwlio, galwodd Ysgrifennydd y Cabinet ar bobl ifanc yn enwedig, i ddweud eu dweud ar fersiwn ddrafft o Parchu Eraill, canllawiau gwrthfwlio Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Wedi’u llunio trwy drin a thrafod gydag ysgolion; awdurdodau lleol; ymarferwyr addysg; Estyn; Comisiynydd Plant Cymru; a phlant a phobl ifanc, mae’r ddogfen yn egluro beth sy’n gyfystyr â bwlio a beth nad yw’n fwlio; yn cyflwyno rolau a chyfrifoldebau; ac yn amlinellu sut mae polisi ehangach Cymru, y DU ac yn  rhyngwladol yn ategu hynny.

Fe’u cynlluniwyd i fod yn hawdd a hwylus i’w defnyddio o ran cynnwys a diwyg, a bydd pecyn cymorth rhyngweithiol, ar-lein, o adnoddau hygyrch ar gael hefyd.

Bydd y canllawiau a’r pecyn cymorth ar-lein yn cael eu cyhoeddi’r flwyddyn nesaf, ar ôl pwyso a mesur adborth yr ymgynghoriad.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae’n Wythnos Gwrthfwlio. Dyma gyfle inni anfon neges glir a chroyw i ddweud na fyddwn ni’n goddef unrhyw fwlio yn ein system addysg ni. Rhaid inni bwysleisio bod pob math o fwlio yn annerbyniol. Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni fynd i’r afael â hyn.

“Mae angen inni sicrhau bod gwerthoedd parch, goddefgarwch a charedigrwydd yn rhan o gymunedau a diwylliannau ein hysgolion. Bydd yn helpu i greu amgylchedd cynhwysol ac ymgysylltiol, sy’n ystyried lles pawb, a lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw’n cael eu derbyn, eu bod yn ddiogel ac yn barod i ddysgu.

“Er mwyn i’r canllawiau newydd hyn fod yn gwbl effeithiol, mae’n hollbwysig bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r ymgynghoriad – felly hoffwn glywed eich barn chi ar y mater. Mae’ch adborth chi’n bwysig – bydd yn ein helpu i greu’r canllawiau cywir a sicrhau ein bod ni’n herio’r bwlis mewn ysgolion o Fôn i Fynwy yn y ffordd gywir.

“Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni gyrraedd y nod o herio achosion o fwlio yn ein hysgolion.”