Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth wedi llongyfarch Vernon Everitt, Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru, ar gael ei benodi'n CBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i drafnidiaeth gyhoeddus.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r anrhydedd ar amser cyffrous i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae buddsoddiad £800m Llywodraeth Cymru mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn trawsnewid ein rheilffyrdd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr. Law yn llaw â hyn, bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau yn ail-lunio’r ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu, gan roi teithwyr yn gyntaf trwy gynnig un rhwydwaith integredig gydag un amserlen ac un tocyn ledled Cymru. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cyhoeddi gweledigaeth newydd ar gyfer rheilffyrdd, wedi ei harwain gan y diwydiant, sy'n nodi cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol y rhwydwaith.

Dechreuodd Vernon Everitt yn ei rôl fel Cadeirydd ym mis Gorffennaf 2025, gan ddod â phrofiad helaeth gydag ef o rolau arweinyddiaeth uwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus ym Manceinion a Llundain. Yn ystod ei yrfa, mae wedi arwain gwelliannau sylweddol mewn gwasanaeth cwsmeriaid ac wedi helpu i gynyddu nifer y teithwyr ar draws rhwydweithiau trafnidiaeth mawr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Rwy’n falch o longyfarch Vernon ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon o’i gyfraniad eithriadol, ei bragmatiaeth a'i weledigaeth arloesol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Roeddwn i wrth fy modd gyda’i benodiad fel Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’i arweinyddiaeth, ei ddoethineb a'i brofiad wrth inni drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn 2026.