Mae seren Cymru Max Boyce MBE a phêl-droediwr sydd a'r nifer mwyaf o gapiau dros Gymru, Jess Fishlock MBE, wedi cael eu dathlu yng Ngwobrau Dewi Sant eleni.
Derbyniodd Max y wobr Diwylliant i gydnabod ei gyfraniad dros ddegawdau at fywyd Cymru. O'i albymau a gyrhaeddodd frig y siartiau i'w anthem eiconig "Hymns and Arias", mae'r perfformiwr a anwyd yng Nglyn-nedd wedi cyflwyno hiwmor a chynhesrwydd Cymreig i gynulleidfaoedd ledled y byd.
Anrhydeddwyd Jess Fishlock gyda'r wobr Chwaraeon. Jess yw'r pêl-droediwr cyntaf i ennill 100 o gapiau rhyngwladol dros Gymru, a bu'n allweddol wrth arwain Tîm Cenedlaethol Merched Cymru i'w rowndiau terfynol ym Mhencampwriaeth EURO UEFA am y tro cyntaf erioed y llynedd.
Mae Gwobrau Dewi Sant, a gynhelir gan y Prif Weinidog, wedi dathlu cyflawniadau dros 300 o bobl o bob cwr o Gymru dros y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf.
Ymhlith yr enillwyr eraill mae Brian Jones o Benmaenmawr, a dderbyniodd y wobr Gwirfoddoli am dros 40 mlynedd o wasanaeth gyda Chŵn Chwilio ac Achub Rhyngwladol Prydain.
Aeth Gwobr Arbennig Eluned Morgan i Henry Engelhardt CBE a'i wraig Diane Briere de l'Isle Engelhardt OBE, gan gydnabod y ffaith eu bod wedi creu miloedd o swyddi yn Admiral Insurance a'u gwaith dyngarol drwy Sefydliad Moondance, yn enwedig wrth gefnogi ymchwil canser yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Rwy'n falch iawn o ddathlu cyflawniadau anhygoel Max Boyce. Ers cenedlaethau, mae ei ganeuon wedi ennyn balchder Cymreig, gan gipio calon y genedl gyda'i gerddoriaeth, ei hiwmor a'i gynhesrwydd. Mae'n drysor cenedlaethol, ac rydym yn hynod falch ohono.
"Mae Jess Fishlock yn eicon chwaraeon Cymreig, sy'n ysbrydoli cenhedlaeth o bêl-droedwyr ifanc. Mae Henry a Diane yn enghreifftiau disglair o'r hyn y mae'n ei olygu i fuddsoddi mewn cenedl.
"Mae wedi bod yn fraint anrhydeddu pob un o'r enillwyr eleni sy'n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy balch o fod yn Gymro. Mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd."
Yr enillwyr yw:
- Cian Evans – Gwobr Person Ifanc
- Liz Hopkin, Darrel Campbell, Fiona Elias – Gwobr Dewrder
- de Novo Solutions – Gwobr Busnes
- Grŵp Dysgu Rhieni, Ysgol Uwchradd Cathays – Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol
- Deorfa Cynrig Hatchery - Gwobr Hyrwyddwr yr Amgylchedd
- Yr Athro Joanne Davies – Gwobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Arloesi
- Dr Tipswalo Day – Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus
- Brian Jones – Gwobr Gwirfoddoli
- Jess Fishlock MBE – Gwobr Chwaraeon
- Max Boyce MBE – Gwobr Diwylliant
