Neidio i'r prif gynnwy

Mae platfform ar-lein poblogaidd ar gyfer cerddoriaeth fyw Gymraeg yn ehangu, gyda lansiad ap symudol newydd Awni?

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Awni? ei lansio gyntaf fel gwefan ym mis Ionawr 2025, ac roedd yn dwyn gigs Cymraeg a dwyieithog at ei gilydd ar un map rhyngweithiol am y tro cyntaf. Mae'r wefan, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Recordiau Sain, eisoes wedi denu dros 35,000 o ymweliadau, 17,000 o ddefnyddwyr, ac yn cael ei defnyddio’n helaeth gan artistiaid, hyrwyddwyr a lleoliadau i hysbysebu gigs sydd i ddod.

Nawr, mae'r ap newydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan roi gwybodaeth am gigs Cymraeg ym mhocedi pobl.

Gall defnyddwyr ddilyn eu hoff artistiaid, gweld pa ddigwyddiadau sy'n boblogaidd yn eu hardal nhw a chael gwybodaeth am gyhoeddiadau newydd a phan fydd tocynnau'n cael eu rhyddhau. Y nod yw ei gwneud hi'n haws darganfod cerddoriaeth Gymraeg fyw a throi diddordeb yn bresenoldeb.

Fe wnaeth y prosiect, a sefydlwyd gan y brawd a chwaer Jona a Martha Owen o'r Felinheli, dyfu o'u profiad eu hunain o golli gigs oherwydd bod gwybodaeth wedi'i gwasgaru ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Martha Owen:

"Roedden ni o hyd yn clywed pobl yn dweud - 'Doeddwn i ddim yn gwybod am y gig yna'. Mae’r wefan wedi profi fod galw gwirioneddol am un lle clir i ddod o hyd i ddigwyddiadau Cymraeg. Yr ap yw'r cam nesaf naturiol, gan ei gwneud hi'n haws fyth i bobl ddarganfod gigs a chefnogi eu lleoliadau lleol."

 Mae cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd gartref ac yn rhyngwladol, tra bod lleoliadau cerddoriaeth fyw yn parhau i fod yn bwysig i gymunedau ledled Cymru.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd tua 4,400 o fusnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth fyw, yn gymwys i gael rhyddhad o 15% ar eu biliau ardrethi i helpu gyda chostau cynyddol mewn cyfnod lle mae arferion defnyddwyr yn newid.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i'w defnyddio a mwynhau diwylliant Cymraeg. Rwy'n falch o gefnogi ap Awni? sy'n ei gwneud hi'n haws darganfod bywiogrwydd y sîn gerddoriaeth Gymraeg."

Mae'r ap Awni? newydd, a ddatblygwyd gan y cwmni digidol Moilin o Gaerfyrddin, ar gael yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau iOS ac Android.