Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae’r llyfryn hwn yn ganllaw i Broses Apelio Annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig. Mae’r broses yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau swyddogion ynghylch y  cymorthdaliadau a’r grantiau amaethyddol a ddisgrifir yn Adran 2.

1.1    Apeliadau a Chwynion

Mae apeliadau’n ymwneud â phenderfyniadau sy’n effeithio ar y cynlluniau cymhorthdal neu grantiau sydd wedi’u rhestru yn Adran 2. Mae Gweinidogion Cymru o dan rwymedigaeth statudol i gadw at reolau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd a’r DU – felly i fod yn llwyddiannus, rhaid i apelydd ddangos ei fod wedi ateb gofynion y cynllun.

Mae cwynion yn cael eu hystyried o dan bolisi cwynion Llywodraeth Cymru. Er bod y polisi’n cyfeirio at nifer o wahanol fathau o gwynion, mae’r cyfan yn y bôn yn ymwneud â’r hyn y bydd swyddog wedi’i wneud neu heb ei wneud. Gall ‘swyddog’ fod yn unigolyn, grŵp, adran neu isadran o fewn Llywodraeth Cymru.

Nid oes modd defnyddio’r drefn gwyno i newid penderfyniad sy’n gywir o dan y gyfraith –     rhaid bod y rheoliadau wedi’u dilyn cyn y gellir rhoi grant sy’n defnyddio arian yr UE.

Er enghraifft, os bydd cwsmer yn honni bod cais am gymhorthdal yn torri  rheolau Ewropeaidd neu ddomestig o ganlyniad i fethiant gan swyddog, rhaid ystyried yr achos o dan y drefn gwyno.
Lle caiff cwyn ei chadarnhau, ystyrir yr effaith ar y cymhorthdal neu’r grant a hawlir: yr egwyddor gyffredinol yw y dylid dychwelyd yr achwynydd i’r man lle byddai wedi bod pe na bai’r camweinyddu wedi digwydd.

1.2    Diben y Broses Apelio

Diben y broses yw sicrhau bod trefn apelio deg, syml a fforddiadwy ar gael i gwsmeriaid sy’n  credu bod swyddog wedi gwneud penderfyniad anghywir ynghylch ei gais am gymhorthdal neu grant. Caiff penderfyniadau eu hailystyried i weld a yw’r swyddog wedi bod yn wrthrychol a’i fod wedi dehongli’r rheoliadau’n gywir.
 
Mae dau gam i’r broses:

  • adolygiad gan swyddogion yn y grwˆ p sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun, gyda chytundeb uwch swyddog
  • adolygiad gan y Banel Apelio Annibynnol (“y Panel”) sy’n gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd yna’n gwneud y penderfyniad terfynol ac yn dod â’r broses i ben.

Rhaid i adolygiad y swyddogion (Cam 1) ddigwydd cyn i Banel Apelio Annibynnol ystyried y mater (Cam 2).

Ym mhob Cam, adolygir ffeithiau’r achos, y dystiolaeth a gyflwynir a’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd  a domestig berthnasol.

2. Cynlluniau sy’n dod o dan y broses apelio

Bydd y broses yn ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan swyddogion mewn  perthynas â’r cynlluniau isod:

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)
Trawsgydymffurfio 

Cynlluniau Buddsoddi Gwledig

Cynllun Cynefin Cymru
Cynllun Troi'n Organig
Cymorth Organig
Grantiau Bach – Amgylchedd
Tyfu er mwyn yr amgylchedd
Grantiau Bach – Effeithlonrwydd
Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau
Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau
Cynllun Datblygu Garddwriaeth
Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth
Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol 
Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd
Cynllun Cynllunio Creu Coetir 
Grant Creu Coetir
Grantiau Bach – Creu Coetir
Cynllun Adfer Coetir
Cynnal Creu Coetir
Premiwm Creu Coetir
Prosiect Adnoddau Naturiol Integredig

Contractau Creu Coetir Datblygu Gweledig

Glastir – Creu Coetir (Premiwm)
Taliad Cynnal Glastir – Creu Coetir
Taliad Premiwm Glastir – Creu Coetir

Cynlluniau’r Cynllun Datblygu Gwledig UE 2014 i 2020 sydd bellach ar ben

Glastir Sylfaenol/Uwch 
Glastir Comin
Glastir Organig
Glastir – Creu Coetir
Glastir – Adfer Coetir
Glastir Grantiau Bach 
Cynllun Premiwm Tir wedi’i Wella
Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd 
Cynllun Coetir Ffermydd
Y Grant Busnes i Ffermydd
Y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren 
Y Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth 
Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
LEADER 
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig 
Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy 

Os yw hynny’n briodol mae’n bosib y caiff cynlluniau newydd a gyflwynir yn y dyfodol eu hychwanegu at y rhestr hon.

Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW (gweler y manylion yn Adran 8) am gyngor  os yw eich apêl yn ymwneud â grant neu gymhorthdal amaeth neu goedwigaeth arall.

Rheolir y broses gan ddeddfwriaeth ddomestig, Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apeliadau) (Cymru) 2006 [SI 2006/3342 (Cy.303) fel y’u diwygiwyd]. Maent yn berthnasol i’r cynlluniau a restrwyd o ddyddiad eu cyflwyno gan y rheoliad Ewropeaidd perthnasol a rheoliad y DU a gyflwynwyd yn ei le.

3. Penderfyniadau sy’n dod o dan y broses apelio

O dan reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (UE) a’r DU, gellir rhoi cosbau sefydlog ac amrywiol am beidio â chydymffurfio â chynlluniau / contractau a gofynion da byw, ac am dorri’r amodau trawsgydymffurfio (Gofynion Rheoli Statudol ac amodau cadw tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da). O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i weinyddu cynlluniau a grantiau’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol (PAC), a’r cynlluniau a’r grantiau sydd wedi cael eu cyflwyno yn lle PAC,  yn unol â rheolau a rheoliadau  priodol yr UE a’r DU.

Enghreifftiau o’r mathau o benderfyniadau y gellir apelio yn eu herbyn yw:

  • cosbau ariannol sy’n lleihau swm y cymhorthdal, grant neu iawndal a roddir i unigolyn neu fusnes
  • ‘rhybuddion’ a all arwain at gosb ariannol os torrir rheol neu amod eto
  • cosbau sydd wedi arwain at wahardd rhywun o gynllun
  • gwrthod cais i drosglwyddo / lesio hawliau
  • dod â chytundeb amaeth-amgylcheddol i ben yn gynnar
  • peidio â chadw at y drefn profion TB.

Enghreifftiau o’r mathau o benderfyniadau na ellir apelio yn eu herbyn yw:

  • newid cais sy’n cael ei weinyddu gan sefydliad arall
  • penderfyniad i beidio â dewis neu cymeradwyo cais neu ddatganiad o ddiddordeb
  • newid cais am gynllun nad yw wedi’i restru yn Adran 2
  • maint y cymhorthdal a delir trwy gynllun yr UE neu’r DU.

4. Cael rhagor o wybodaeth am benderfyniad

Os nad ydych yn siwˆ r pam cawsoch eich cosbi neu os nad ydych yn deall cynnwys llythyr yn iawn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

5. Cam 1 – adolygiad gan swyddogion

Cyflwyno cais am apêl Cam 1

Er mwyn inni allu delio â’ch cais cyn gynted â phosibl, gofynnir i chi anfon:

  • manylion y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
  • y rhesymau pam y dylai’r penderfyniad gael ei ailystyried
  • unrhyw dystiolaeth ddogfennol neu ffotograffig i gefnogi’ch dadl. Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein.

Mae’n rhaid i gais am apêl, gan gynnwys y rhesymau am apelio ac unrhyw dystiolaeth, gyrraedd Llywodraeth y Cynulliad cyn pen 60 niwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n rhoi manylion y penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn, gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein. Ni chewch ddefnyddio force majeure / amgylchiadau eithriadol fel y rheswm am fod yn hwyr. Caiff apêl neu dystiolaeth hwyr eu gwrthod.

Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch i ddangos bod eich apêl wedi’n cyrraedd. Os na fyddwch wedi clywed gennym cyn pen saith niwrnod gwaith, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad mewnol a bydd uwch-swyddog yn ystyried a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn un cywir, gan dalu sylw i’r ddeddfwriaeth berthnasol, ffeithiau’r achos ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

Cewch ymateb ysgrifenedig llawn, yn dweud a fu’ch apêl yn llwyddiannus ai peidio, gyda’r rhesymau dros y penderfyniad.

Rhaid i’ch apêl a’r dystiolaeth ategol ein cyrraedd o fewn 60 niwrnod ar ôl dyddiad llythyr y penderfyniad.    

Bydd ambell gwsmer yn cael mwy nag un llythyr penderfyniad (er enghraifft, llythyrau’n nodi canlyniad archwiliad a datganiad talu) ynghylch hawliad. Bydd y dyddiad cau o 60 niwrnod yn dechrau ar ddyddiad y llythyr olaf (fel arfer, taliad olaf y cynllun).

6. Cam 2 – adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol

6.1 Cyflwyno apêl Cam 2

Mae’n rhaid i gais am apêl gyrraedd Llywodraeth y Cynulliad cyn pen 60 niwrnod ar ôl dyddiad y llythyr ymateb i Gam 1 a rhaid nodi manylion y penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.  Ni chewch ddefnyddio force majeure / amgylchiadau eithriadol fel y rheswm am fod yn hwyr. Caiff apêl a / neu dystiolaeth hwyr eu  gwrthod.

Dylid cyflwyno’r cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein.

Bydd gan apelydd ddewis i ofyn i’r Panel Apelio Annibynnol ystyried eu Hapêl Cam 2 mewn gwrandawiad llafar neu mewn gwrandawiad ysgrifenedig.

6.2    Cwblhau’r Ffurflen Gais Ar-lein

Mae’n rhaid ystyried achos o dan Gam 1 y broses cyn y gellir gofyn i’r Panel ei ystyried:

  • dylai’r ymgeisydd lenwi pob adran
  • os ydych am ddefnyddio asiant / cynrychiolydd, rhai bod awdurdodiad wedi’i roi ynghylch hynny
  • gwelwch y canllawiau ‘Sut i gwblhau’ am ragor o wybodaeth 

Nid yw’r Panel yn cael gwneud argymhellion ynghylch cwynion. Byddwn yn anfon Cwynion at y tîm perthnasol iddyn nhw gael eu hystyried o dan bolisi Llywodraeth Cymru ar gwynion.

Rhowch eich rhesymau llawn dros apelio. Dylech amgáu unrhyw dystiolaeth allai fod yn ddefnyddiol i gefnogi’ch apêl e.e. ffotograffau a / neu ddogfennau.

Rydym yn cynghori ymgeiswyr i gadw copi ar gyfer eu ffeiliau.

Dylid talu ffioedd apelio trwy BACS i’r manylion cyfrif canlynol:
Enw Llawn y Cwmni: Llywodraeth Cymru
Enw’r Banc: National Westminster
Rhif y Cyfrif Banc: 10003061
Y Cod Didoli: 60-70-80

(£100 am wrandawiad llafar neu £50 am  wrandawiad ysgrifenedig)

Dylech anfon e-bost at SharedServiceHelpdesk@llyw.cymru ac IndependentAppealsSecretariat@llyw.cymru gadarnhau bod taliad BACS wedi cael ei wneud – dylech gynnwys hefyd eich Cyfeirnod Cwsmer a’ch Enw Masnachu. 

Os bydd yr apêl yn llwyddiannus, neu’n rhannol lwyddiannus, byddwn yn talu’r ffi yn ôl  yn llawn ichi.

Rhaid i’ch cais a’r dystiolaeth ategol ein cyrraedd o fewn 60 niwrnod ar ôl dyddiad llythyr penderfyniad Cam 1. 

6.3    Cefndir Cyfreithiol y Panel Apelio Annibynnol

Mae’r adran hon yn esbonio cefndir cyfreithiol y broses apelio a beth y gall yr apelydd ei ddisgwyl trwyddi. Nid yw’n ddogfen gyfreithiol ac efallai na chaiff y trefniadau eu cynnal yn union fel y’u disgrifir.

Cafodd elfen annibynnol y broses ei sefydlu o dan reoliad 3 Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apeliadau) (Cymru) 2006 [Wales SI 2006/3342 (W.303)]

Mae gan y Panel Apelio Annibynnol hyd at dri aelod, wedi’u dewis o grwˆ p a benodir yn unol â’r rheolau ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Rôl aelodau’r Panel yw:

  • eistedd ar y Panel Apelio Annibynnol yn ôl y galw
  • clywed ffeithiau’r achos ac ystyried yr hyn sydd gan yr Apelydd i’w ddweud, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth berthnasol
  • llunio adroddiad o’u casgliadau ynghylch yr apêl sydd ger eu bron
  • gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch yr apêl honno.

Rhaid i’r Panel ystyried pob apêl yn unol â rheolau’r cynllun perthnasol a deddfwriaeth y Gymuned. Diffinnir ‘deddfwriaeth y Gymuned’ at y dibenion hyn yn Rheoliadau 2006 uchod.

Mae gwrandawiad felly’n gyfle i esbonio wrth y Panel sut rydych wedi bodloni gofynion y cynllun a pham y dylid newid penderfyniad gwreiddiol y swyddogion. Ni chaiff y Panel gynnig argymhelliad ar faterion ynghylch yr hyn yr honnir i’r swyddogion ei wneud. Caiff materion o’r fath eu hystyried o dan bolisi cwynion Llywodraeth Cymru.

6.4 Cyn gwrandawiad y Panel

Cofrestrir eich apêl gan yr Ysgrifenyddiaeth Apelio Annibynnol (‘yr Ysgrifenyddiaeth’) a rhoddir cydnabyddiaeth ichi bod eich apêl wedi cyrraedd. Cynhelir y gwrandawiad yn un o swyddfeydd lleol Llywodraeth Cymru pryd bynnag y bo modd.

Bydd swyddogion yr Uned Apeliadau yn archwilio pob cais am apêl Cam 2 cyn gwrandawiad y Panel. Byddan nhw’n chwilio am ffactorau a allai ddatrys y mater heb orfod cynnal gwrandawiad.

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn paratoi ‘Pecyn Apêl’ o’r holl wybodaeth berthnasol ynghylch yr apêl. Ar sail y Pecyn hwn, a’r wybodaeth a roddir yn y gwrandawiad, y bydd y Panel yn ystyried yr apêl ac yn llunio’i adroddiad a’i argymhellion. 

Bydd Pecyn yr Apêl yn cynnwys:

  • manylion y cais am apêl Cam 1 a’r canlyniad
  • manylion y rheolau a’r rheoliadau a oedd yn sail dros wrthod yr apêl Cam 1
  • dogfennau Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â’r achos ac
  • unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i gefnogi’r apêl.

Caiff copïau o’r Pecyn eu hanfon at bob aelod o’r Panel ac at yr apelydd a / neu’i gynrychiolydd. 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn ysgrifennu atoch i gadarnhau dyddiad a lleoliad y gwrandawiad. Cysylltwch â’r Ysgrifenyddiaeth ar unwaith os oes unrhyw broblem o ran bod yn bresennol er mwyn gwneud trefniadau eraill.

Os mai gwrandawiad ysgrifenedig rydych wedi gofyn amdano, bydd y Panel yn ystyried yn unig yr wybodaeth fydd ym Mhecyn yr Apêl.

6.5    Bod yn bresennol yn yr adolygiadau

Yng Ngham 1 y broses apelio, bydd swyddogion yn cynnal adolygiad mewnol o’r wybodaeth ysgrifenedig fydd wedi’i chyflwyno. Ni chaiff yr apelydd fod yn rhan o’r adolygiad hwn.

Yng Ngham 2, gall apelydd ddewis a yw am gyflwyno’i achos yn ysgrifenedig neu a yw am fod yn bresennol yn y gwrandawiad a chyflwyno’i achos i’r Panel ei hun:

  • mewn apêl ysgrifenedig, bydd y Panel yn ystyried dogfennau Pecyn yr Apêl ac yn trafod yr achos heb i’r apelydd fod yn bresennol. Wedyn caiff copïau o’r dogfennau perthnasol eu hanfon at yr apelydd a rhoddir gwybod iddo’r canlyniad a’r rhesymau dros argymhellion y Panel
  • mewn apêl lafar, bydd yr apelydd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol am ran o’r gwrandawiad. Bydd yr apelydd (a / neu ei gynrychiolydd) yn cael cyflwyno’i achos i’r Panel a gofyn ac ateb unrhyw gwestiynau.

Dylai’r apelydd nodi pa iaith mae’n dymuno i’r gwrandawiad gael ei gynnal ynddi ar y ffurflen gais yn Adran 3.
 
Caiff yr apelydd ddod â rhywun gydag ef i wrandawiad llafar neu ddewis cael ei gynrychioli.  Bwriedir i’r broses fod mor anffurfiol â phosibl ac er ei bod yn annhebygol y bydd angen cyfreithiwr i gynrychioli’r apelydd, mae’r dewis hwnnw ar gael iddo. Gofynnir i’r apelydd roi gwybod i’r Ysgrifenyddiaeth os yw am ddod â chynrychiolydd gan y gallai effeithio ar ba swyddogion ddylai fod yn bresennol ac ar hyd y gwrandawiad.

6.6    Costau

Nid oes ffi am gynnal apêl Cam 1.

Ar gyfer apêl Cam 2, bydd angen talu ffi o £100 os ydych am gael gwrandawiad llafar neu £50 os ydych am wrandawiad ysgrifenedig. Cewch yr arian yn ôl os bydd yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

6.7 Gwrandawiad y Panel

Cynhelir gwrandawiadau mewn awyrgylch anffurfiol ac fel arfer maen nhw’n dilyn y patrwm isod:

  • cyflwyniad gan Gadeirydd y Panel
  • mae swyddog Llywodraeth Cymru’n esbonio manylion y penderfyniad
  • mae’r apelydd (neu’r cynrychiolydd) yn cyflwyno’r apêl i’r Panel ac yn ateb unrhyw gwestiynau
  • unrhyw gwestiynau pellach gan y Panel i swyddogion Llywodraeth Cymru
  • crynodeb Cadeirydd y Panel a sylwadau cloi.

Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru a’r apelydd yn bresennol gydol y gwrandawiad ond yn gadael cyn trafodaethau’r Panel ar ôl y gwrandawiad. Fel arfer, bydd aelod o’r Ysgrifenyddiaeth yn cofnodi prif bwyntiau’r gwrandawiad ond ni fydd yn cymryd rhan yn y gwrandawiad ei hun. Caiff copi o’r cofnod ei anfon at bawb sy’n bresennol iddynt gael cynnig eu sylwadau a chytuno arno cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.

Bydd y Panel yn ystyried yr apêl, gan ystyried yr wybodaeth a ddarperir ac adroddiadau’r swyddogion. Bydd y Panel yn adolygu deddfwriaeth berthnasol Ewrop a’r DU, ffeithiau’r achos ac yn ystyried a yw’r penderfyniad yn gyson â’r rheolau. 

6.8 Pwyntiau cyffredinol

  • mae’r Panel wedi’i benodi i gynnig argymhellion i Weinidogion Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol
  • mae’r Panel wedi’i rwymo gan reolau’r cynlluniau a’r ddeddfwriaeth berthnasol ac ni chaiff wneud argymhellion i’r Gweinidogion oni bai eu bod yn gyson â nhw
  • nid yw’r gwrandawiad yn gyfle i’r apelydd godi materion manwl yn uniongyrchol â swyddogion nac i’w holi am y modd y cafodd yr achos ei drin na hanfod yr achos. (Os oes ganddo gwestiynau, dylai holi’r Ysgrifenyddiaeth cyn y gwrandawiad er mwyn iddo allu cael ateb cyn y gwrandawiad. Bydd hynny’n osgoi’r angen i ohirio’r gwrandawiad i ystyried materion cymhleth).
  • rhaid cyfeirio pob sylw neu wybodaeth a gyflwynir fel rhan o’r drefn at Gadeirydd y Panel
  • bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y drefn (uchod yn Adran 6.7) yn cael ei dilyn a bod pob ochr yn cael cyfle i gyflwyno’i achos heb ymyrraeth
  • bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn effeithlon a gall osod cyfyngiadau amser os oes angen
  • ni fydd y Panel yn rhoi unrhyw arwydd o ganlyniad tebygol ei adroddiad na’i argymhellion.

6.9 Ar ôl y gwrandawiad

Anfonir copi o’r nodiadau a wnaed yn y gwrandawiad at bob parti er gwybodaeth, fel arfer cyn pen 20 diwrnod ar ôl y gwrandawiad. Pwysig: nid yw’n gofnod llawn, cofnod bras yn unig ydyw o’r prif bwyntiau a drafodwyd yn y gwrandawiad.

Bydd y Panel yn paratoi adroddiad o’i ganfyddiadau a’i argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol. Penderfyniad y Gweinidogion sy’n dod â’r broses apelio i ben.

Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod am y penderfyniad terfynol yn ysgrifenedig a chaiff copi o nodiadau llawn y gwrandawiad, gan gynnwys argymhelliad y Panel, ei anfon at yr apelydd (ac unrhyw gynrychiolydd).

6.10 Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: Hysbysiad Preifatrwydd

1    Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: Hysbysiad Preifatrwydd

1.1    Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r wybodaeth a rowch yn eich cais am adolygiad o dan y ‘Broses Apelio Annibynnol i Grantiau a Thaliadau Gwledig’. Mae’n esbonio hefyd sut bydd Llywodraeth Cymru’n proses ac yn defynddio eich data  personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar  Ddiogelu Data. Rheolydd data’r wybodaeth yw Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Swyddog diogelu data yr wybodaeth honno yw’r Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
 
1.2    Bydd Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn rheoli’r wybodaeth yn unol â’i hymrwymiadau a’i dyletswyddau o dan y Rheoliadau Ewropeaidd (fel y’u dargedwir gan Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p.2) a Rheoliadau (y DU) 2020/90 a 2020/91.
Caif yr wybodaeth ei defnyddio’n bennaf at bwrpas ymchwilio i’ch cais am apêl. Ond, caiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r wybodaeth hefyd at bwrpasau eraill, gan gynnwys y rheini sy’n  gysylltiedig â’i swyddogaethau a’i dyletswyddau o dan Bolisi Taliad Uniongyrchol y DU a Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd – yn ogystal â’i hymrwymiadau amgylcheddol statudol.

1.3    Sail cyfreithiol y prosesu yw bod ei angen i gyflawni tasg a gynhelir wrth arfer yr awdurdod  swyddogol a roddir i Llywodraeth Cymru.

1.4    Mae Llywodraeth Cymru’n casglu data personol er mwyn gallu nodi’ch lleoliad chi a busnes eich fferm. Nid yw Llywodraeth Cymru’n casglu data categori arbennig.

1.5    Caiff eich gwybodaeth ei storio yn unol â Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn rhif 908/2014, ‘Conservation of Accounting Information’.

2    Rhesymau dros rannu data personol

2.1    Wrth adolygu’ch cais am apêl, gallai Llywodraeth Cymru rannu’r wybodaeth â:

  • Panel Apelio Annibynnol aelodau
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau  Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, yr
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd, a’r Heddlu.

2.2    Gallai’r wybodaeth gael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • ymchwilio i gais am apêl a pharatoi dogfennau i’w hystyried gan aelodau y Panel Apelio Annibynnol
  • croeswirio gwybodaeth a Thrawsgydymffurfio rhwng sefydliadau’r
  •  Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes neb yn torri rheolau cynlluniau’r Polisi Amaethyddol  Cyffredin
  • cynhyrchu a chyhoeddi mapiau sy’n dangos y tir sydd wedi cael cymorth o dan gynlluniau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin diogelu budd ymgeiswyr mewn cadwraeth tir a materion a all godi yn sigl ymholiadau am ariannu
  • cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth.

3 Hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

3.1 Mae’r GDPR yn rhoi hawliau i unigolion mewn perthynas â’r data personol a gedwir amdanynt. Mae’r hawliau hynny’n cynnwys:

  • yr hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
  • yr hawl i ofyn a chael copïau o’r data personol sydd gan Llywodraeth Cymru amdanynt, er y gall Llywodraeth Cymru gadw peth data weithiau neu wrthod rhoi copïau
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i rwystro neu gyfyngu Llywodraeth Cymru rhag prosesu data personol
  • yr hawl o dan rai amgylchiadau i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir
  • yr hawl o dan rai amgylchiadau i gael data wedi’u dileu (eu hanghofio).

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau GDPR hyn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad ar ddechrau’r hysbysiad hwn.

3.2    Bydd hawl gan unigolion hefyd i ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n gorfodi ac yn cadw golwg ar y GDPR, farnu a fyddwn, wrth brosesu’ch gwybodaeth bersonol, yn debygol o gadw at  amodau’r GDPR. Cysylltwch â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner’s Office Wycliffe House
Water Lane 
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffon: 01625 545745 or 0303 123 1113
Wefan: www.ico.gov.uk

7. Cwynion

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bolisi cwynion sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer trin cwynion. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn. Ceir copïau llawn o’r polisi a’r ffurflen gwyno safonol yn: https://llyw.cymru/cwyn-am-lywodraeth-cymru

neu oddi wrth y Tîm Cyngor ar Gwynion

Ffôn: 0300 025 1378

E-bost: complaints@gov.wales

Ni chewch ddefnyddio’r drefn gwyno i ailystyried apêl sydd wedi’i chynnal yn briodol.

Os nad yw’r achwynydd yn fodlon â’r modd y mae’r broblem wedi’i datrys, yna caiff gyfeirio’r mater at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk

Ffôn: 0300 790 0203

E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk

Gellir cyflwyno cwyn yn uniongyrchol i’r Ombwdsmon unrhyw bryd. Caiff yr Ombwdsmon ddewis ymchwilio iddi ei hun, ond fel arfer, caiff y mater ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru gyntaf.

8. Cysylltiadau

Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Taliadau Gwledig Cymru

Ffôn: 0300 062 5004

Cyfeiriad post Taliadau Gwledig Cymru
RPW
Blwch Postio 251
 Caernarfon
L55 9DA

Ysgrifenyddiaeth Apelio Annibynnol Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir

Spa Road East
Llandrindod Wells Powys
LD1 5LG

Ffôn: 03000 256226 / 257355

E-bost: independentappealssecretariat@llyw.cymru