Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut y gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch trwydded tynnu a chronni dŵr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch trwyddedau tynnu a chronni dŵr. Gellir cyflwyno apeliadau yn erbyn:

  • trwyddedau tynnu a chronni,
  • trwyddedau tynnu trosiannol,
  • prosiectau perthnasol sydd ag asesiadau o’r effaith ar yr amgylchedd.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch trwydded tynnu neu gronni dŵr os gwnaethoch chi’r cais gwreiddiol i CNC. Gallwch apelio naill ai:

  • os ydych yn anghytuno ag ef,
  • os na wnaed y penderfyniad o fewn 3 mis

Nid oes ffi ar gyfer apelio.

Y terfyn amser ar gyfer apelio

Mae’n rhaid i’ch apêl gyrraedd o fewn 28 niwrnod o gael penderfyniad CNC.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi dechrau, dylech gael penderfyniad o fewn 14 wythnos, ond fe all gymryd mwy o amser.

Sut i apelio

Llenwch y ffurflen apêl

Bydd angen i chi hefyd gyflwyno copïau o’r dogfennau canlynol:

  • y cais perthnasol,
  • unrhyw ddogfennau ategol a gyflwynwyd i CNC,
  • hysbysiad o benderfyniad CNC,
  • unrhyw ohebiaeth berthnasol â’r awdurdod cynllunio lleol,
  • unrhyw ddogfennau eraill, gan gynnwys mapiau a chynlluniau, sy’n berthnasol i’r apêl.

Gallwch gyflwyno’ch apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Wales@planninginspectorate.gov.uk

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Anfonwch gopi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at CNC.

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio’ch apêl i sicrhau ei bod yn ddilys. Bydd yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd. Mae’r canllaw apelio yn cynnwys mwy o fanylion am y gweithdrefnau apelio.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad ar yr apêl

Gallwch gwyno ynglŷn â’r ffordd yr ymdriniodd yr Arolygiaeth Gynllunio â’ch apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwynion.

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych yn credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Ceisiwch gyngor gan gyfreithiwr os ydych yn ansicr ynglŷn â hyn.