Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn barnu’n annilys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Apeliadau yn erbyn barnu’n annilys

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau am geisiadau cynllunio.

Gall yr awdurdod cynllunio lleol ystyried bod cais am ganiatâd cynllunio (neu unrhyw beth sy’n cyd-fynd ag ef) yn annilys. Os bydd yn gwneud hyn, mae’n rhaid iddo roi gwybod i’r ymgeisydd gan esbonio pam mae’r cais yn annilys.

Gallwch apelio yn erbyn barnu bod cais yn annilys o fewn pythefnos o ddyddiad yr hysbysiad.

Ni chodir ffi am apelio.

Dim ond y sawl a gyflwynodd y cais sy’n gallu apelio.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi cael ei dilysu, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 21 diwrnod fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.  

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un hysbysiad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Anfonwch gopi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd y canllaw i apelio yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

  • Copi o’r hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol
  • Copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol
  • Yr holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau a anfonoch at yr awdurdod cynllunio lleol
  • Copi o’r hysbysiad o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio (ar gyfer rhai apeliadau)

Gallwch eu hanfon at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk 

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad dechrau fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.