Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut y gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi draenio cynaliadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Gall eich corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy lleol anfon hysbysiad gorfodi atoch os ydych wedi adeiladu neu newid rhywbeth heb ganiatâd systemau draenio cynaliadwy.

Dim ond y datblygwr sydd wedi cael yr hysbysiad gorfodi all apelio yn erbyn y penderfyniad i'w gyflwyno.

Does dim ffi am apelio.

Dyddiad cau ar gyfer apelio

Rhaid i apêl gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad gorfodi i ddatblygwr.

Sut i apelio

Llenwch ffurflen apêl gorfodaeth systemau draenio cynaliadwy.  

E-bostiwch neu postiwch y ffurflen apêl a dogfennaeth ategol yr Arolygiaeth Gynllunio. Sicrhewch fod copi o'r ffurflen apêl hefyd yn cael ei anfon at y corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy lleol.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

cymru@planninginspectorate.gov.uk