Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad ar orchymyn diogelu coed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae eich cyngor yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â gwaith ar goed sy’n cael eu gwarchod gan orchmynion diogelu.

Gallwch apelio os cyflwynoch gais i dorri neu wneud gwaith ar goeden a warchodir ac:

  • rydych yn anghytuno â’r penderfyniad
  • ni wnaed penderfyniad o fewn 8 wythnos

Gallwch hefyd apelio os ydych yn anghytuno â hysbysiad amnewid coed a roddwyd i chi.

Ni chodir ffi am apelio.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Mae’n rhaid i chi apelio:

  • o fewn 28 niwrnod o’r dyddiad ar hysbysiad o benderfyniad y cyngor
  • cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad amnewid coed i rym

Nid oes terfyn amser os ydych yn apelio oherwydd ni phenderfynwyd ar eich cais o fewn 8 wythnos.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi cael ei dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos fel arfer.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Llenwch ffurflen apelio yn erbyn gorchymyn diogelu coed neu ffurflen apelio yn erbyn hysbysiad amnewid coed.

Bydd hefyd angen i chi gyflwyno:

  • copi o benderfyniad neu hysbysiad y cyngor
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol

Anfonwch y dogfennau hyn drwy’r post neu’r e-bost gyda’ch ffurflen apelio wedi’i llenwi at yr Arolygiaeth Gynllunio a’r cyngor a wnaeth y penderfyniad.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl gynllunio. Dewch o hyd i’r achos ar y porth gwaith achos apeliadau.

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.  

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais gwreiddiol (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno.

Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth yw’r dyddiad dechrau, beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos fel arfer pan fydd eich apêl wedi dechrau, ond fe all gymryd mwy o amser.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ‘ddyfarnu costau’ os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.