Neidio i'r prif gynnwy

Bydd chwe chwmni o Gymru’n dangos y gorau sydd gan ddiwydiant awyrofod Cymru i’w gynnig yn MRO Europe fis Hydref eleni – y digwyddiad mwyaf o’i fath y tu allan i ogledd America.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae 20% o fusnes cynnal a chadw a thrwsio (MRO - Maintenance, repair and overhaul) y Deyrnas Unedig yn digwydd yng Nghymru. Caiff MRO Europe ei gynnal eleni yn RAI Amsterdam o 18-20 Hydref.  Hwn yw uchafbwynt diwydiant trwsio a chynnal awyrennau masnachol a dyma’r lle i fod i ddatblygu partneriaethau newydd.  

O ganlyniad i gymryd rhan yn 2015, cipiodd y busnesau Cymreig oedd yn bresennol rhyngddyn nhw gytundebau gwerth £2.9 miliwn.  Gyda chwmnïau fel Airbus, Boeing, BA a Bombardier yn arddangos yno, cafodd y gynhadledd llynedd dros 6400 o ymwelwyr – y mwyaf erioed yn ei hanes.   

Ar gyfer y bumed flwyddyn o’r bron, bydd enwau blaenllaw yn niwydiant awyrofod Cymru yn dod ynghyd ar stondin Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’u harbenigeddau a’u gwasanaethau gan ganmol Cymru fel lle gwych i wneud busnes ynddo. 

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi;

“Mae gan Gymru safle cryf yn y sector MRO ac mae helpu busnesau i arddangos o dan faner Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau fel MRO Europe yn dod â buddiannau mawr.  Mae’n cynnig cyfle i gwmnïau rwydweithio, i gwrdd â chleientiaid, i gael busnes newydd ac i gynyddu allforion i farchnadoedd hen a newydd.  Mae’n llwyfan berffaith hefyd inni farchnata Cymru fel lleoliad gwych ar gyfer busnesau rhyngwladol.” 

Bydd Mike Corne, Cyfarwyddwr Masnachol eCube Solutions, yn ymuno â dirprwyaeth Cymru.  Meddai: 

"MRO Europe yw’r un digwyddiad mawr y mae eCube Solution yn gorfod mynd iddo, hynny ers ein sefydlu yn 2012.  Mae’n dod â bron holl gwsmeriaid a chyflenwyr y sector ynghyd mewn un lle. 

“Cafodd eCube ei lansio yn Ne Cymru ar ôl inni ystyried yr holl opsiynau posibl ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.  Daethon ni i’r casgliad bod y seilwaith o ansawdd uchel ac adnoddau awyrofod lleol, ynghyd ag economeg weithredu ragorol yn Sain Tathan, i gyd gyda’i gilydd wedi creu dadl gref iawn dros ddechrau’n busnes.

“Rydyn ni bellach wedi ennill ein plwyf fel aelod Ewropeaidd blaenllaw o sector ‘diwedd oes awyrennau’ ond rydyn ni wedi ehangu’n busnes hefyd i gynnwys gweithgareddau eraill fel parcio awyrennau, storio a logisteg trydydd parti.  Gwnaethon ni hynny gyda’r hyder mai’r lle gorau ar gyfer darparu gwasanaethau i’r diwydiant awyrennau yw yn Ne Cymru.”

Roedd Steve Edmunds, Rheolwr Gyfarwyddwr Cottam and Brooks Engineering o Gaerffili, hefyd yn bresennol a meddai: 

“Mae Cwmnïau Trwsio a Cynnal a Chadw yn bwysig iawn i Gymru.  Nhw sy’n gwneud y gwaith i awyrennau y mae garejis yn ei wneud i geir. 

“Rydyn ni wedi cael help a chefnogaeth aruthrol gan dîm Llywodraeth Cymru.  Fydden ni ddim yn mynd i MRO Europe oni bai amdanyn nhw.  Mae’r stondin wedi graddol dyfu dros y blynyddoedd diwethaf gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i awyrofod yng Nghymru.  Mae’r stondin, a gobeithio ninnau, wedi creu argraff ryfeddol ar ein cwsmeriaid a’n cystadleuwyr.  MRO Europe yw’r sioe fwyaf ar gyfer ein cwsmeriaid MRO yn Ewrop ac mae’n denu llawer o gwsmeriaid eraill o bob rhan o’r byd."

Y cwmnïau o Gymru sy’n arddangos yn MRO Europe yw: Wall Colmonoy, Spectrum Technologies, PPA Ltd, eCube Solutions, Air Covers, Cottam & Brookes a Fforwm Awyrofod Cymru yw’r cyd-drefnwyr.