Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn helpu i gynnal gwaith cadwraeth ar eitemau bregus ac sydd wedi'u difrodi yn eu casgliadau, bydd gwasanaethau archifau Caerdydd a Cheredigion yn derbyn dros £12,000

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu i ddiogelu eitemau sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd. Ychydig sy’n cael eu trafod oherwydd eu cyflwr bregus, ond bydd y gwaith yn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i fyfyrwyr, ymchwilwyr a defnyddwyr lleol. 

Mae oddeutu £2900 yn cael ei ddyrannu i Brifysgol Caerdydd i ddiogelu ysgrifau Edward Thomas (1878-1917), un o feirdd Prydeinig mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd yr arian yn caniatáu i set o lawysgrifau a nodiaduron personol iawn, sy'n disgrifio dull artistig Edward Thomas, gael eu diogelu.

Bydd y gwaith yn caniatáu i'r llawysgrifau a’r nodiaduron hyn gael eu rhannu â chynulleidfaoedd ac ymchwilwyr trwy’r byd. Mae'n cyd-fynd â chynhadledd sy'n cael ei chynnal eleni gan Brifysgol Caerdydd i gofio canmlwyddiant marw Edward Thomas.

Bydd oddeutu £9200 yn cael ei ddyrannu i Archifau Ceredigion i ddiogelu'r 'Florrie Hamer Papers'. 

Mae'r casgliad yn cynnwys dogfennau, cofiannau, llythyrau, ffotograffau ac effemera Flora Hamer (1903 - 1994) a oedd yn ferch i weithwyr ystâd ac yn gymdeithes. 

Gweithiodd Flora â thri theulu mawr lleol, gan gynnwys Yr Arglwydd Ystwyth o Danybwlch, y teulu Pryse o Ogerddan a'r teulu Powell o Nanteos. Roedd ei pherthynas unigryw gyda'r bonedd Seisnigaidd yn yr ardal mor Gymreig hon yn ddrws iddi at ffordd o fyw a oedd eisoes wedi dechrau ei ddirywiad anochel.

Mae'r casgliad yn arwyddocaol gan ei fod mor brin. Mae'n ficrocosm o ryfeddod cenedlaethol, yn fyfyrdod ar ddiwrnodau olaf ffordd o fyw a oedd wedi parhau am gannoedd o flynyddoedd.  Bydd y gwaith cadwraeth yn cynnal ac yn diogelu'r eitemau, gan gadw cymaint o'u cymeriad gwreiddiol â phosib.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Rwy'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i brosiectau cadwraeth archifau Cymru. Ers 2008 rydym wedi ail-ddarganfod casgliadau ardderchog ac wedi caniatáu mynediad atynt. Nid yw eleni'n eithriad gan y byddwn yn dechrau gwaith cadwraeth ar ddau gasgliad; nodiaduron Edward Thomas, un o feirdd mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r casgliad unigryw o ddeunydd a gasglwyd gan Florrie Hamer sydd yng ngofal Archifau Ceredigion ac sy'n darparu cipolwg hyfryd o oes a fu.”  

Ers 2008, mae'r NMCT, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 37 o brosiectau ac wedi gwneud gwaith cadwraeth ar eitemau a chasgliadau sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol mewn archifau ledled Cymru. Mae'r eitemau'n cynnwys llythyrau o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, Achau Teuluol a mapiau hanesyddol.

Bydd y gwaith cadwraeth yn gwella mynediad at yr eitemau unwaith y byddant mewn cyflwr sefydlog, gallant gael eu hastudio, eu trin a'u digideiddio'n ddiogel, ac o ganlyniad, eu darparu i gynulleidfaoedd ehangach dros y we. 

Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol:  

"Rydym yn falch bod gwaith NMCT ar y cyd â Llywodraeth Cymru wedi arwain at gefnogi mwy o brosiectau cadwraeth o safon yng Nghymru.  Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Colwinston am eu cefnogaeth gyda'r prosiectau hyn.  Diolch i bartneriaeth NMCT â Llywodraeth Cymru, rydym wedi dyfarnu dros £200,000 o grantiau ers 2008. Mae'r grantiau hyn yn sicrhau bod cannoedd o fapiau, llawysgrifau, papurau a chasgliadau arwyddocaol yn cael eu cadw a'u gwneud yn hygyrch - cyfraniad pwysig at ddiogelu hanes Cymru."