Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad sy'n archwilio canlyniadau diweithdra o Gyfrifiad Poblogaeth 2011. Cymharu patrymau diweithdra yn yr Ardal Gynnyrch, sy’n llai, a’r Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, sy’n fwy.

Mae'r canlyniadau wedi'u crynhoi yn ôl math o anheddiad er mwyn rhoi cipolwg ar y gwahaniaethau rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol.

Ymgymerwyd â'r gwaith er mwyn ymchwilio i rai o'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, o ran dadansoddi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig. Mae'n cael ei gyhoeddi fel rhan o becyn lledaenu ehangach ar gyfer rhifyn 2014 o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Canfyddiadau allweddol

Ar gyfer dadansoddi data diweithdra yn ôl math o anheddiad, nid yw'n glir bod data ar lefel OA yn well o reidrwydd na data ar lefel LSOA.

  • Mae’n bosibl fod materion yn codi o ran ansawdd y data ar gyfer ardaloedd bach iawn (Ardaloedd Cynnyrch).
  • Gall nifer y bobl ddi-waith ar lefel OA fod yn fach iawn, ac o bosibl yn annibynadwy.

Yn gyffredinol nid oes llawer o wahaniaeth systematig yn y darlun o ddiweithdra yn ôl maint yr anheddiad a chyd-destun os bydd graddfa'r dadansoddiad yn cael ei newid o LSOA i OA.

Y darlun eang ar lefel LSOA ac OA yw:

  • mae'r ardaloedd mwy gwledig yn tueddu i fod â chyfraddau diweithdra is
  • mae nifer sylweddol o bobl ddi-waith mewn ardaloedd gwledig o hyd.

Adroddiadau

Archwiliad o ddiweithdra mewn ardaloedd bychain yng Nghymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 896 KB

PDF
Saesneg yn unig
896 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Archwiliad o ddiweithdra mewn ardaloedd bychain yng Nghymru: crynodeb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 147 KB

PDF
Saesneg yn unig
147 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.