Adroddiad ymchwil yn edrych ar effeithiau economaidd ac effeithiau ehangach prosiectau a ariannwyd gan Cymru Greadigol, gan gynnwys effeithiau ar dwristiaeth a datblygu sgiliau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2025, dyfarnwyd £23.7 miliwn i 45 o brosiectau sgrin a phrosiectau digidol (o fewn cwmpas yr astudiaeth hon). Disgwylir i'r buddsoddiad hwn fod wedi sbarduno tua £263.9 miliwn o wariant ym maes cynhyrchu yng Nghymru.
Mae dadansoddiad o wariant cynhyrchu wedi cadarnhau bod ystod eang o feysydd ar draws yr economi sylfaenol wedi elwa o hyn, gan gynnwys llety, adeiladu, logisteg, a thrafnidiaeth.
Cynhyrchu ffilmiau, fideo a rhaglenni teledu yw’r diwydiant sy'n cyfrif am y rhan fwyaf (62%) o wariant cynhyrchu uniongyrchol, gyda £177.23 miliwn mewn gwariant gwirioneddol a gwariant a ragwelir.
Daeth twristiaeth sgrin i’r amlwg fel ffactor pwysig o ran cyfraniad economaidd eilaidd. Ymhlith y ffactorau eraill mae cyfraniadau anuniongyrchol o waith datblygu gan stiwdios, sinemâu yn arddangos ffilmiau, gwyliau ffilm, sgiliau, addysg a gweithgareddau allgymorth yn ogystal â digwyddiadau diwylliannol ar gyfer y cyhoedd.
Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2025, buddsoddodd Cymru Greadigol £2 filiwn mewn 10 cynhyrchiad Cymraeg, sy'n cynrychioli tua 8% o’r cyllid cynhyrchu cyffredinol ac yn cyfateb i fwy nag un ym mhob pump o'r rhai o fewn y cwmpas.
Cafodd mwy na 425 o hyfforddeion eu cefnogi trwy gynyrchiadau a ariennir.
Fe wnaeth sawl cwmni cynhyrchu adrodd eu bod wedi ehangu eu gallu mewnol, wedi cadw eiddo deallusol, neu wedi gwella eu gweithrediadau o ganlyniad i gymorth Cymru Greadigol.
Adroddiadau
Adroddiad llawn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
