Canllaw i helpwch chi i gadw at y gyfraith wrth profi offer chwistrellu plaladdwyr.
Yn ôl y gyfraith, rhaid profi offer taenu plaladdwyr newydd, fel chwistrellwyr bŵm a ‘weed wipers’, o dan y Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr (NSTS) cyn eu bod yn 5 oed.
Ar ôl 5 mlynedd, dylid cynnal profion yn rheolaidd, naill ai bob 3 neu 6 blynedd, yn dibynnu ar y math o offer. Rhaid gwirio sachau cefn, chwistrellwyr llaw ac offer cerdded gyda llai na 3 olwyn yn rheolaidd hefyd. Cofiwch gadw cofnodion cyfredol o arolygiadau, gwiriadau ac atgyweiriadau.
Cylch ail-brofi
Bob 3 blynedd
- pob chwistrellwr bŵm dros 3m o led
- chwistrellwyr aer
- chwistrellwyr trên ac
- offer wedi'i osod ar awyrennau
Bob 6 blynedd
- bŵms 3 metr neu lai
- offer taenu pelenni lladd gwlithod ac offer micro-gronynnog
- ‘weed wipers’
- triniaeth hadau
- offer troli wedi'i yrru â llaw neu sy'n hunan-yrru gyda 3 neu fwy o olwynion a phwmp modur ac
- offer arbenigol arall
Mae'r dolenni isod yn nodi'r gofynion ar gyfer profi offer, megis:
- profi chwistrellwyr (ar nsts.org.uk)
- profi offer micro-gronynnog (ar nsts.org.uk)
- profi offer gwasgaru pelenni gwlithod (ar nsts.org.uk)
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan Cynllun Cenedlaethol Profi Chwistrellwyr. Mae yna hefyd ddetholiad o restrau gwirio defnyddiol ar gyfer y gwahanol fathau o offer.
Nid oes angen cynnal prawf ar offer segur nac offer nad yw’n cael ei ddefnyddio i wasgaru plaladdwyr.
