Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ymchwil archwiliadol yw hwn sy’n ceisio bwrw goleuni ar ymatebion banciau bwyd i gleientiaid a allai fod yn dioddef tlodi mislif.

Canfyddiadau allweddol

  • Yn gyffredinol, roedd yr holl ymatebwyr yn cyflenwi cynhyrchion hylendid merched i’w gwsmeriaid banc bwyd, a gan mwyaf, chynigwyd y rhain i bobl sy'n ymweld â’r banc bwyd.  
  • Adroddwyd bob un o’r 28 ymatebwyr bod ganddynt roddion cynhyrchion hylendid merched, gyda'r mwyafrif yn dod gan roddion oddi wrth y cyhoedd.  
  • Disgrifiodd 21 banc bwyd fod ganddynt alw "uchel" neu "rhannol" ar gyfer cynhyrchion hylendid merched.   
  • Mi oedd 22 banc bwyd yn dweud bod pobl yn gofyn am gynhyrchion hylendid merched ar ran eu partneriaid neu aelodau eraill o'r teulu.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys arolwg byr ar-lein a ddosbarthwyd i sampl o blith 37 banc bwyd y Trussell Trust a 5 elusen arall sy’n cynnal banciau bwyd yng Nghymru.

Adroddiadau

Archwilio ymatebion banciau bwyd Cymru i dlodi mislif: canlyniadau arolwg ar-lein a gynhaliwyd ar raddfa fechan , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 748 KB

PDF
748 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.