Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffin Ardal Fenter Glyn Ebwy wedi cael ei hymestyn i gynnwys tri safle diwydiannol ychwanegol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r safleoedd newydd - Ystâd Ddiwydiannol Tafarnau-bach, Ystâd Ddiwydiannol Waun-y-pound a Pharc Victoria/Parc yr ŵyl - eisoes yn gartref i glwstwr cyflogaeth mawr gyda, erw o dir preifat a chyhoeddus y gellir ei ddatblygu ac yn barod i lenwi unedau sydd yn wag .


Maent bellach yn ymuno â phum safle strategol newydd yn yr Ardal sy'n cynnwys Bryn Serth, Ystâd Ddiwydiannol Rassau, Y Gweithfeydd, Parc Busnes Tredegar a Rhyd-y-Blew sy’n cael manteisio ar Lwfansau Cyfalaf Uwch.


Mae gan y pum safle hyn 83.5 erw o dir preifat a chyhoeddus y gellir ei ddatblygu yn ogystal ag unedau sy'n barod i gael eu llogi.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Bydd gwella statws y safleoedd hyn sy'n ymuno â'r Ardal Fenter yn helpu i godi'u proffil, yn eu gwneud yn lleoliadau mwy deniadol i fuddsoddwyr posib ac yn cynnig lleoliadau strategol gwych ar gyfer busnesau newydd a busnesau sydd am ehangu.

"Mae Glyn Ebwy eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu mwyaf blaenllaw'r byd. Mae rhai ohonynt ar y safleoedd hynny sydd â'r lle a'r gallu i letya amrywiaeth eang o gwmnïau gweithgynhyrchu eraill sy’n chwilio am safleoedd datblygu newydd neu unedau sy'n barod i'w defnyddio'n syth."

Ymhlith y prif gwmnïau ar y safleoedd newydd hyn y mae PCI Pharma Services, cwmni angori Llywodraeth Cymru, a Tenneco Walker.