Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mewn Ardal Gwella Busnes, mae busnesau lleol yn arwain ac yn cydweithio â phartneriaid er mwyn ffurfio grŵp i fuddsoddi arian a gwella ardal. Maen nhw'n rhan o fframwaith cyfreithiol.

Nod Ardaloedd Gwella Busnes yw gwella ardal benodol fel canol trefi, drwy ddarparu gwasanaethau sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael eisoes. Gall Ardaloedd Gwella Busnes fod yn thematig, e.e., cefnogi'r sector digidol neu gallan nhw gynnwys Ystadau Diwydiannol.

Mae Ardal Gwella Busnes yn cael ei sefydlu drwy broses bleidleisio gyfreithiol. Mae hynny'n golygu bod pob busnes sy'n talu ardrethi busnes yn yr ardal yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn dogfen gynigion. Mae'r ddogfen honno’n sôn am y gweithgareddau a fydd yn rhan o'r prosiect ac am y nod o sbarduno adfywiad economaidd yn yr ardal dan sylw.

Os yw'r bleidlais yn llwyddiannus, bydd pob busnes yn talu swm ychwanegol sy'n cael ei alw'n 'ardoll' yn ogystal â'u hardrethi busnes. Mae'r ardoll yn cael ei defnyddio wedyn i gyllido'r prosiectau yn y ddogfen gynigion. 

Gellir sefydlu Ardaloedd Gwella Busnes a fydd yn rhedeg am hyd at 5 mlynedd. Rhaid cynnal pleidlais ar ôl 5 mlynedd i adnewyddu'r trefniadau.