Neidio i'r prif gynnwy

Mae canlyniadau diweddaraf Rhaglen Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 10,000 o swyddi wedi'u cefnogi

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y ffigurau heddiw mewn datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates ynghylch cynnydd a dyfodol Rhaglen Ardaloedd Menter Cymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyd-fynd â chyhoeddi adroddiad blynyddol dangosyddion perfformiad yr Ardaloedd Menter ar gyfer 2016/17. 


Cafodd targedau allweddol ar gyfer yr wyth Ardal Fenter yn 2016/17 un ai eu bodloni neu llwyddwyd i ragori arnynt: 

  • Cafodd 1,744 o swyddi eu creu, eu gwarchod neu eu cefnogi;
  • Sicrhawyd gwerth £123.2 miliwn o fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
  • Cafodd 159 o fentrau eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru;
  • Cafodd 7000 m2  o dir ei adfer/ei ddarparu ar gyfer datblygu/cafodd gofod llawr ei greu neu ei adnewyddu.

Croesawodd Ken Skates y ffigurau allweddol sy'n tystio i lwyddiant y rhaglen dros ei phum mlynedd cyntaf a dywedodd: 

"Mae'r Ardaloedd Menter wedi cyflawni llawer iawn dros y pum mlynedd diwethaf a gwych yw nodi llwyddiannau pob Ardal ers iddynt gael eu sefydlu. Mae pob Ardal yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd gwahanol ond mae pob un wedi cyflawni llwyddiannau sylweddol. 


"Ers sefydlu'r rhaglen ar ddiwedd mis Mawrth 2017 mae wedi cyfrannu at economi Cymru drwy gefnogi dros 10,000 o swyddi, gan gynnig pecyn cystadleuol o fentrau ariannol a mentrau eraill gan gynnwys cymorth ag ardrethi busnes, cymorth wedi'i deilwra ar gyfer sgiliau, cynlluniau prentisiaeth a phrosiectau seilwaith pwrpasol." 

Dywedodd ei fod yn bwysig sicrhau bod rhaglen yr Ardaloedd Menter yn parhau i ysgogi gwelliannau o fewn economi Cymru, ac yn arbennig o ystyried yr ansicrwydd sydd wedi deillio o'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. 

Gall Ardaloedd Menter gyfrannu llawer iawn at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig y rhai ar gyfer creu swyddi newydd, lleihau biliau ardrethi busnes a chreu prentisiaethau. 

Pwysleisiodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i'r wyth Ardal Fenter sydd wedi'u lleoli ar draws Cymru a dywedodd: 

"Credaf fod dulliau penodol sy'n cael eu teilwra i anghenion ac amgylchiadau gwahanol ardaloedd lleol yn hollbwysig. Bwriadaf yn awr adolygu'r posibiliadau sydd ynghlwm wrth yr Ardaloedd Menter er mwyn sicrhau y byddant yn parhau i gyflawni datblygiad economaidd ar lefel ranbarthol. Mae'r cyhoeddiad diweddar ynghylch Parc Technoleg ar gyfer Glynebwy yn tystio i'r ymrwymiad hwn."