Neidio i'r prif gynnwy

Mae yn ein moroedd rai o'r rhywogaethau bywyd gwyllt a'r cynefinoedd mwyaf amrywiol a deinamig yn Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym foroedd:                   

  • glân
  • iach
  • diogel
  • cynhyrchiol a 
  • biolegol amrywiol

Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ffordd bwysig o ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd. Byddant hefyd yn ein helpu i sicrhau bod ein dyfroedd yn ennill Statws Amgylcheddol Da, drwy Strategaeth Forol y DU

Mae gan Gymru 139 Ardal Forol Warchodedig, sy’n cynnwys 69% o’n dyfroedd y glannau (hyd at 12 milltir forol). Mae sawl math o Ardal Forol Warchodedig yn cael eu defnyddio yng Nghymru, sy’n cynnig gwahanol lefelau o amddiffyniad.  

Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:

Mae pob Ardal Forol Warchodedig yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Mae map rhyngweithiol y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn dangos ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Rheoli’r Rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Rydym yn gweithio’n agos gyda grwpiau eraill i reoli ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gan gynnwys:

Rydym yn defnyddio dull pum cam ar gyfer nodi a rheoli Ardal Forol Warchodedig

  • nodi safle
  • nodi bygythiadau ac effeithiau
  • rheoli’r Ardal
  • monitro’r Ardal
  • asesu’r Ardal

Un ffordd o’n helpu ni i sicrhau rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n cael ei reoli’n dda yw drwy’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae’r ddogfen flynyddol hon yn amlinellu’r camau allweddol sy’n cael eu cymryd gan wahanol grwpiau. Mae'r camau gweithredu'n cyflawni:

  • prosiectau ymchwil
  • mentrau, neu
  • gweithredu uniongyrchol

ar lefel safle neu rwydwaith.

Cytunir ar y cynllun gweithredu gan y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig, ac mae’n cael ei gyhoeddi unwaith y flwyddyn ochr yn ochr â’r Adroddiad Blynyddol ar Reoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig, sy’n adolygu’r cynnydd ers y Cynllun Gweithredu diwethaf ar gyfer Rheoli’r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Bydd y ‘cais blynyddol am gamau gweithredu’ yn cael ei agor gan y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Dylai sefydliadau sydd â diddordeb ddarllen y canllawiau.