Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, y bydd mwy o ardaloedd ar draws Cymru'n treialu cynnig gofal plant newydd Llywodraeth Cymru, sy'n torri tir newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan fydd yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru, bydd y cynnig yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn.

Ym mis Medi eleni, dechreuodd Llywodraeth Cymru dreialu'r cynnig yn Sir Fôn, Gwynedd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.Mae'r cynnig ar gael mewn ardaloedd penodol yn yr awdurdodau lleol hyn, ac ar draws Blaenau Gwent i gyd, er mwyn i'r llywodraeth allu profi amrywiaeth o elfennau a phroblemau sy'n cael effaith ar y gwaith o gyflwyno'r cynllun ac ar y nifer sy'n ei ddefnyddio.

Fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, mae'r cyllid i gefnogi’r cynnig gofal plant yn cynyddu i £25m yn 2018-19, a £45m yn 2019-20. Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ehangu a phrofi rhai agweddau ar ddarparu’r cynnig mewn awdurdodau lleol eraill o fis Medi 2018 ymlaen.  

Mae'n bwysig dysgu gan y gweithredwyr cynnar er mwyn mireinio'r polisïau a'r systemau i wneud yn siŵr bod y cynnig yn gweithio i rieni a darparwyr, a hefyd er mwyn paratoi'r awdurdodau lleol cyn cyflwyno’r cynnig yn ehangach.  

Yn ogystal, aeth y Gweinidog ati'n gynharach heddiw i amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ehangu'r sector gofal plant er mwyn helpu i ddarparu'r cynnig gofal plant.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Ym mis Medi 2017, dechreuodd y broses o gyflwyno ein Cynnig Gofal Plant uchelgeisiol mewn saith awdurdod lleol ar draws Cymru sy'n weithredwyr cynnar, er mwyn paratoi ar gyfer ei gyflwyno'n llawn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

"Rwy'n falch iawn â'r diddordeb mawr yn y cynnig ymhlith rhieni hyd yn hyn. Maen nhw eisoes yn dweud wrthym ei fod yn gwneud gwahaniaeth i'w bywyd, gan leihau'r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag cael cyflogaeth neu gynyddu eu horiau.

"Rwy'n hynod falch o gyhoeddi fy mod wedi rhoi sêl bendith i ehangu'r cynlluniau peilot i ardaloedd newydd ar draws Cymru."

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar am eu gwaith caled hyd yma. Maen nhw wedi gweithio â ni i ddatblygu a gweithredu'r polisi, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd i rieni, y broses ymgeisio a’r dulliau o dalu darparwyr gofal plant.  

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r sector gofal plant am eu cefnogaeth ac am gydweithio â ni mewn ffordd mor gadarnhaol i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r cynnig gofal plant. Diolch iddynt hefyd am eu hadborth ar eu profiad hyd yma o gyflwyno'r cynnig. Yn ail gam ein hymgyrch lwyddiannus #TrafodGofalPlant, byddwn yn ymgysylltu ymhellach â darparwyr gofal plant drwy holiaduron ar-lein, grwpiau ffocws ac ymgynghori uniongyrchol.  

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio wrth i ni roi’r cynnig hwn ar waith a’i roi i rieni a phlant ledled Cymru.”