Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn ymateb heddiw i'r adolygiad annibynnol o'r broses ar gyfer Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae proses IPFR GIG Cymru yn cael ei defnyddio gan holl fyrddau iechyd y wlad wrth benderfynu p'un a ddylid cynnig triniaethau nad ydynt ar gael fel arfer i glaf unigol ai peidio.

Sefydlwyd yr adolygiad ym mis Gorffennaf 2016 gan ganolbwyntio'n benodol ar ystyried y meini prawf sy'n cael eu defnyddio i bennu amgylchiadau clinigol eithriadol ar gyfer IPFR a'r cyfle i leihau nifer y paneli IPFR yng Nghymru. Roedd safbwynt y claf yn rhan amlwg o'r adolygiad.

Cyhoeddwyd canfyddiadau cynhwysfawr yr adolygiad ym mis Ionawr, ac mae modd gweld yr adroddiad yma.

Cyn ei Ddatganiad Llafar yn y Senedd y prynhawn yma, dywedodd Vaughan Gething:

“Rydw i wedi trin yr adolygiad hwn o'r cychwyn mewn ffordd agored, gynhwysol a thryloyw, gan gynnwys yr holl bleidiau gwleidyddol, y cyhoedd a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.  

"Rwy'n falch o weld consensws bod y darn hwn o waith yn un defnyddiol iawn, sy'n cynnig argymhellion ystyriol ac ymarferol i helpu byrddau iechyd i wneud penderfyniadau sy'n gallu bod yn rhai sensitif a chymhleth iawn.  Rwy'n arbennig o falch gweld llais y claf yn cael lle amlwg yn yr adroddiad.  

"Y newyddion da sy'n codi o'r adroddiad yw bod sawl agwedd o'r system yn gweithio'n dda, ac mae'r grŵp adolygu wedi gwneud argymhellion defnyddiol i gryfhau'r rheiny a gwella agweddau eraill o'r broses.

"Daeth yr adolygiad i'r casgliad y dylai penderfyniadau ynghylch mynediad at driniaeth i gleifion unigol gael eu seilio ar lefel y manteision clinigol disgwyliedig ac a yw'r driniaeth yn cynnig gwerth rhesymol am arian.

"O ran lleihau nifer y paneli IPFR, mae'r grŵp adolygu wedi argymell nad dyna'r ffordd orau ymlaen.  

"Mae'r adolygiad wedi awgrymu gwelliannau i'r broses yn gyffredinol i helpu'r byrddau iechyd i wneud y penderfyniadau cymhleth a sensitif iawn hyn.  Mae hyn yn cynnwys egluro pryd y mae'n briodol defnyddio'r broses IPFR, a chryfau sicrwydd ansawdd.

“Hoffwn i ddiolch i'r grŵp adolygu, unwaith eto am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i gwblhau'r darn cymhleth hwn o  waith. Hefyd hoffwn ddiolch i'r holl gleifion sydd wedi bod yn rhan o'r broses adolygu. Mae'r dystiolaeth a gafodd ei darparu yn y gweithdai a gynhaliwyd ar draws Cymru wedi bod yn werthfawr tu hwnt.

“Rydw i wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd i gyd i gadarnhau y bydd yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith erbyn mis Medi.

"Rwy'n credu y bydd argymhellion yr adroddiad hwn, o'u rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar y broses IPFR. Bydd hyn yn golygu bod y system yn haws ei deall ac yn llai tebygol o gael ei cham-ddefnyddio.  Rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru'n croesawu hynny."