Argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Argymhellion a wnaed gan y Tasglu a ddefnyddiwyd wrth lunio camau gweithredu a chanlyniadau'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Daeth y Tasglu Hawliau Anabledd, a gyd-gadeiriwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, a'r Athro Debbie Foster, Prifysgol Caerdydd, â phobl â phrofiad bywyd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru, a sefydliadau cynrychioliadol at ei gilydd i gael gwared ar rwystrau a gwella canlyniadau i bobl anabl yng Nghymru.
Gweithiodd y tasglu gyda mwy na 350 o randdeiliaid allanol (a restrir yn Atodiad A) i ddatblygu argymhellion gyda'r nod o wella canlyniadau i bobl anabl. Roedd pobl â phrofiad bywyd yn bartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu mewnwelediadau a phrofiadau bywyd, sydd wedi siapio camau gweithredu i fynd i'r afael â hawliau pobl anabl a chael gwared ar rwystrau presennol.
Roedd gweithgorau thematig yn ystyried gwreiddio a deall y model cymdeithasol o anabledd (ledled Cymru), mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg), byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol, byw'n annibynnol: iechyd, teithio, cyflogaeth ac incwm, tai fforddiadwy a hygyrch, plant a phobl ifanc, mynediad at gyfiawnder, a llesiant (fel gweithdy).
Mae argymhellion y Tasglu wedi cael eu defnyddio i lywio camau gweithredu a chanlyniadau'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, a bydd yr argymhellion hyn yn parhau i fod yn adnodd pwysig y gall Llywodraeth Cymru ddychwelyd ato yn y dyfodol, i nodi ei gofynion tymor canolig i hirdymor i gyflawni'r uchelgais a'r canlyniadau ar gyfer pobl anabl a nodir yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
Ymgyrchoedd Daearffurfio Cymru
- Dylai pob ymgyrch gael ei chydgynhyrchu a'i gwerthuso gyda phobl anabl.
- Hysbysu a grymuso pobl anabl, ymgyrchu am ein hawliau, meithrin hunan-werth a sgiliau hunan-eiriolaeth a gwybod ble i fynd am wybodaeth ac i wneud cwyn.
- Ymgyrch gyhoeddus i ail-lunio anabledd, addysgu am ableddiaeth a'r cydgyfrifoldeb dros gynhwysiant.
- Ymgyrch cyrff cyhoeddus i ganolbwyntio ar fynediad fel hawl ac ymgorffori'r model cymdeithasol a chydgynhyrchu ym mhob gweithgaredd, gan gynnwys gweithwyr anabl a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
- Dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol trwy addysgu am y model cymdeithasol, hawliau sifil a dynol pobl anabl ac annog ymgeiswyr anabl i sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer y Senedd.
- Ymgyrchu yn y sector preifat a'r trydydd sector gydag adnoddau ynghylch cynhwysiant anabledd am eu dyletswyddau cydraddoldeb a gwerth cael gweithwyr anabl yn ogystal â chwsmeriaid anabl.
- Mae'r diwydiant cyfryngau a'r proffesiwn cyfreithiol yn ymgyrchu i addysgu am gynnwys hygyrch, y model cymdeithasol, hawliau sifil a dynol pobl anabl a dylanwad geiriau a delweddau.
Monitro, gorfodi a chasglu data
- Cyrff fel Archwilio Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i ymgorffori cydgynhyrchu a'r model cymdeithasol yn eu prosesau casglu, monitro, craffu a chyfathrebu data a rhannu arfer da.
- Meithrin dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o wybodaeth a'r gwerth y mae profiad bywyd yn ei ychwanegu at hyn.
Tasgau i Lywodraeth Cymru
- Cynhyrchu canllawiau ar gyfathrebu, safoni gweithdrefnau cwyno, datblygu system hygyrch ar gyfer rhoi gwybod am gwynion a monitro'r canlyniadau.
- Addysgu swyddogion y wasg, staff cyfreithiol, gweinidogion a staff Llywodraeth Cymru, fel eu bod yn gymwys o ran deall a gweithredu’r Model Cymdeithasol.
- Cyfieithu deddfwriaeth, canllawiau a chodau ymarfer Llywodraeth Cymru i iaith hawliau anabledd/Model Cymdeithasol.
- Cefnogi ariannu Sefydliadau Pobl Anabl newydd a phresennol ledled Cymru.
- Tynnu sylw at bwysigrwydd cyfleoedd gwirfoddoli hygyrch a dealltwriaeth nad yw pob person anabl yn gallu gweithio.
- Datblygu system nod barcud, annog sefydliadau i benodi "hyrwyddwyr" a nodi a rhannu arfer da.
Safonau mynediad
- Datblygu system nod barcud, annog sefydliadau i benodi "hyrwyddwyr" a nodi a rhannu arfer da.
Byw'n Annibynnol: Gofal Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru i:
- Adnewyddu ymrwymiad i'r cysyniad o Fyw'n Annibynnol fel y'i diffinnir yn y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd 2019 (yn amodol ar ddiwygiadau) a'i hyrwyddo'n weithredol ar draws meysydd polisi ac wrth ddarparu gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys hyfforddiant ac addysg y gweithlu gofal cymdeithasol.
'Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei olygu wrth "Byw'n Annibynnol"?
Gwreiddiol
Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i fynegi dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned barhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.’
Fframwaith ar gyfer Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol (2019)
Gyda gwelliannau a gynigiwyd gan y Gweithgor
Ystyr byw'n annibynnol yw bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill boed yn eu hamgylchedd cartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw'n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth drosoch chi eich hun. Mae'n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail ag eraill, a'r hawl i lais, dewis a rheolaeth dros y ffordd y caiff y cymorth a'r gefnogaeth eu darparu. Mae'n ymwneud â sicrhau y gall pobl o bob oedran ac o bob cymuned fwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan fydd ei angen arnynt ac yn y ffordd briodol.
- Datblygu a lledaenu canllawiau, ar y cyd â phobl anabl, sy'n gysylltiedig â'r gofyniad bod y rhai sy'n arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru yn talu sylw dyledus i CCUHPA (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl) wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn
- Comisiynu’r gwaith o ddatblygu cyfres o adnoddau a gweithredu rhaglen ar gyfer darparu hyfforddiant ac addysg i gefnogi'r amcan o ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'r hawl i Fyw'n Annibynnol mewn arferion Gofal Cymdeithasol gan gynnwys prosesau asesu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru.
- Datblygu a chyflwyno ymgyrch genedlaethol ar hawliau dinasyddion i fyw'n annibynnol a chael gofal cymdeithasol
- Gwella atebolrwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar ddarparu canlyniadau llesiant dinasyddion a byw'n annibynnol y cytunwyd arnynt yn ystod asesiadau trwy brosesau adrodd
- Sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol, sy'n cael ei rhedeg a'i rheoli gan bobl anabl, gyda'r nod o:
- Gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth am yr hawl i Fyw'n Annibynnol
- Cynyddu gwybodaeth a sgiliau ynghylch arfer da wrth gefnogi a chyflawni Byw'n Annibynnol
- Dyfeisio strategaethau i ehangu mynediad a manteisio ar Daliadau Uniongyrchol gan gynnwys datblygu'r farchnad ar gyfer Cynorthwywyr Personol
- Gwneud y mwyaf o rôl Canolfannau Byw'n Annibynnol lleol trwy ddarparu cymorth a mynediad at adnoddau
- Ailystyried ar frys y trefniadau ariannu presennol ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol a datblygu ffrydiau cyllido newydd, i wneud iawn am y golled o ran y gallu i godi arian yn ystod y Pandemig a'r diffyg mynediad cyffredinol at gynlluniau grant Lywodraeth Cymru a chynlluniau grant eraill e.e. cylchoedd ariannu hirach, hygyrchedd prosesau ymgeisio a chefnogaeth i ddatblygu cynigion
- Datblygu Gwasanaeth Eirioli Cenedlaethol (sy'n gysylltiedig ag argymhelliad Drws ar Glo 14: Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cynyddu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau eirioli i bobl anabl yng Nghymru i’w helpu i egluro ac eirioli eu buddiannau wrth ddelio â darparwyr iechyd a gwasanaethau cyhoeddus).
- Wrth ystyried symud i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o bell a/neu ddychwelyd i wasanaethau wyneb yn wyneb, rhaid bod gofyniad i lunio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar y newidiadau arfaethedig
- Ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu cynllun gweithlu i fynd i'r afael â'r prinder cynyddol o wasanaethau adsefydlu ac arbenigwyr
Byw'n Annibynnol: Iechyd
- Datblygu ymgyrch cydraddoldeb anabledd genedlaethol ym mhob sector o'r system iechyd a gofal, mewn gofal iechyd, rhaid bod dull dan arweinyddiaeth uwch gref i ddeall ac ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd ac i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i'r dull o ofalu.
- Creu fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol - Cydgynhyrchu, gyda phobl anabl, fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol.
- Creu/datblygu canllawiau arfer gorau, Llywodraeth Cymru i archwilio ei holl ganllawiau i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd sy'n effeithio ar fywydau pobl anabl. Rhaid i hyn gynnwys canllawiau staff. Dylai LlC hefyd ddatblygu canllawiau cydgynhyrchu ar gyfer awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd.
- Ailalinio gwerthoedd ac egwyddorion gofal iechyd gydag arferion gwrth-ormesol.
- Rydym yn argymell:
- Parhad/datblygiad y Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19: Cymru (CMEAG), i gynnwys materion cydraddoldeb ynghylch Mesurau Economaidd Iechyd (megis Blwyddyn Fywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd neu QALY a Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Anabledd (DALY), a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn iechyd.
- Llywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau gyda'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol ynghylch pa drefniadau sydd ganddynt ar waith ar gyfer lliniaru anghydraddoldeb wrth gymhwyso mesurau economaidd Iechyd.
- Datblygu cynllun gweithredu gydag amserlen glir ar gyfer adrodd i ddatblygu rhaglen o bolisi a gwaith academaidd i nodi rhai materion allweddol i'w symud ymlaen mewn perthynas ag archwilio'r defnydd o fesurau economaidd iechyd a deallusrwydd artiffisial mewn anabledd.
- Sicrhau bod yr holl wybodaeth gofal iechyd yn hygyrch i bawb, Rhaid i systemau TG y sector cyhoeddus ddal y fformatau cyfathrebu a ffefrir gan bobl anabl, a rhaid gweithredu ar hyn.
- Cadw’r newidiadau gorau i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a ysgogwyd gan Covid, Wrth ystyried symud i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o bell (neu yn ôl eto), yn wir unrhyw newid mawr o ran darparu gwasanaethau, mae gofyniad i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn i'r newidiadau ddigwydd.
- Cefnogi sefydliadau pobl anabl. Mae angen cymorth a chyllid ychwanegol fel y gallant barhau i gefnogi mynediad cleifion at ofal iechyd.
- Gwella'r mynediad ffisegol i leoliadau gofal iechyd. Rhaid i ni sicrhau bod pob lleoliad gofal iechyd yn hygyrch i bobl anabl. Mae'r materion mynediad sy’n bodoli yn cynnwys parcio, toiledau, arwyddion, cymorth i gael mynediad at apwyntiadau a chyfathrebu. Mae angen archwiliad o'r holl leoliadau gofal iechyd i nodi pa welliannau sydd eu hangen a ble.
- Datblygu Safonau Cymru Gyfan ar gyfathrebu. Rhaid i Safonau Cymru Gyfan ar gyfathrebu gynnwys darpariaeth ar gyfer pobl ag amhariadau.
- Datblygu systemau craffu ar ofal iechyd. Rhaid i'r Tasglu Gweinidogol sicrhau bod corff newydd yn cael ei greu i ddiogelu'r gwaith o gydgynhyrchu polisïau yn Llywodraeth Cymru, trefniadau llywodraethu, craffu a herio sy'n ymwneud â darparu, datblygu'r cynllun gweithredu ar hawliau anabledd.
- Senedd o bobl anabl. Bydd fforymau rhanbarthol yn darparu strwythur ffurfiol sy'n sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan yn llawn a dylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant yn ogystal ag agweddau eraill ar fywyd.
Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd
Nododd y Gweithgor yr angen brys i gyflawni newid mewn agweddau, gwerthoedd a diwylliant yn Llywodraeth Cymru, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ymhlith y cyhoedd yng Nghymru:
- Trwy addysg o oedran cynnar ac ychwanegiadau i'r cwricwlwm a gwell dealltwriaeth gyhoeddus o'r model cymdeithasol o anabledd.
- Trwy hyfforddiant eang a gorfodol ar y model cymdeithasol i weision cyhoeddus a sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.
- Trwy newidiadau mewn polisïau, arferion a gweithdrefnau ledled gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
- Trwy fwy o ymchwil ac estyniad o'r sylfaen dystiolaeth o'r angen am newid, yn ogystal â monitro mentrau sy'n anelu at gyflawni'r newid hwnnw.
- Trwy ddeddfwriaeth i gryfhau hawliau pobl anabl a’u mynediad at gyfiawnder
- Trwy wella llwybrau eiriolaeth.
- Trwy orfodi’n well y mecanweithiau presennol sy'n anelu at wella cynhwysiant a thrwy fecanweithiau newydd, lle nodwyd bylchau.
Cynigiwyd y camau gweithredu/argymhellion canlynol gan weithgor Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd:
Addysg
Ysgolion
Nodwyd y gallai addysgu disgyblion oedran ysgol am y model cymdeithasol o anabledd a hanes y mudiad hawliau anabledd fod yn bwerus (roedd hyn yn un o argymhellion yr adroddiad 'Drws ar Glo').
Ar hyn o bryd mae Anabledd Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion yn Abertawe, Powys a Chonwy i ddatblygu a threialu pecyn hyfforddi athrawon i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn. (Cam gweithredu byr dymor)
Ymgyrch gyhoeddus
Argymhellir ymgyrch gyhoeddus ehangach i godi ymwybyddiaeth o'r model cymdeithasol o anabledd yng nghymdeithas Cymru a gellid ei chysylltu â menter i addysgu a hyfforddi personél yn y cyfryngau. Mae newid y ffordd y mae pobl anabl yn cael eu portreadu a'r iaith a ddefnyddir gan newyddiadurwyr yn hanfodol os am herio stereoteipiau a deall y model cymdeithasol yn well. (Cam gweithredu byr dymor/tymor canolig)
Hyfforddiant
Er cydnabod nad yw hyfforddiant model cymdeithasol yn 'fwled arian' a gall newidiadau mewn personél fod yn broblematig, argymhellwyd hyfforddiant model cymdeithasol gorfodol parhaus ar gyfer swyddogion a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Mae gwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd yn gofyn bod personél ar bob lefel o'r sefydliad yn ei ddeall ac yn ei weithredu, ond mae hefyd yn bwysig bod cynrychiolaeth pobl anabl ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, yn parhau i wella. Nodwyd bod cyfleoedd wedi'u colli i ymgorffori'r model cymdeithasol mewn deddfwriaeth (e.e., Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) a gwaith llunio polisïau yn y gorffennol oherwydd nad oedd wedi'i ddeall a'i wreiddio’n ddigonol yng ngwaith Llywodraeth Cymru. (Cam gweithredu byr dymor/ tymor canolig)
Mae angen cynnal trafodaethau pellach ynghylch sut y gellid ymestyn hyfforddiant i bersonél sy'n darparu'r holl wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
- A ellid gwneud hyn trwy ddatblygu ac ariannu modiwl ar-lein?
- A allai Llywodraeth Cymru wneud hyfforddiant model cymdeithasol yn ofyniad o ran cyllid a chaffael yn y dyfodol?
- Sut bydd pobl anabl yn rhan o lunio cynnwys yr hyfforddiant a’i gyflwyno?
Rolau eiriolwyr anabledd/ Swyddogion Mynediad mewn gwasanaethau cyhoeddus
Argymhellwyd bod eiriolwyr anabledd hyfforddedig sy’n cael eu talu’n briodol yn cael eu sefydlu mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Byddai eiriolwyr yn darparu pwynt cyfeirio i ddefnyddwyr gwasanaeth anabl, y mae llawer ohonynt wedi'u llethu wrth orfod esbonio eu gwahanol ofynion yn gyson. Byddai'r deiliaid swydd hyn hefyd yn darparu addysg a chynrychiolaeth yn ogystal â chraffu parhaus i sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus. Yn y byr dymor, mae angen ystyried:
- Sut olwg fyddai ar y rolau swydd hyn?
- Sut fyddai'r penodeion yn cael eu hyfforddi?
- Sut fyddai'r swyddi hyn yn cael eu hariannu?
- I bwy fyddai'r penodeion hyn yn atebol?
Yn y gorffennol, mae Swyddogion Mynediad wedi cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ond dim ond un sy’n weddill y mae’r grŵp yn ymwybodol ohono, yn Sir Benfro. Eu rôl oedd cynghori a gwerthuso'n feirniadol unrhyw gynigion amgylchedd adeiledig, mewnol ac allanol, a phrosesau cynllunio trafnidiaeth yn lleol, gan gynnwys cysylltedd dulliau trafnidiaeth. Roedden nhw'n gyfrwng rhwng pobl anabl leol, a'u sefydliadau, gan alluogi deialog adeiladol rhwng swyddogion, ymgynghorwyr allanol, a thrigolion.
Roedd angen bod yn gyfarwydd iawn â rheoliadau adeiladu, yn enwedig mewn perthynas â hygyrchedd, ond hefyd gallu i adeiladu rhwydweithiau sy'n casglu barn pobl anabl a'u bwydo mewn i ymgynghoriadau a chynigion. Roedden nhw hefyd yn cefnogi Grwpiau Mynediad lleol, (rhai ohonynt yn dal i fodoli), ac yn Lloegr roedden nhw’n perthyn i'r Gymdeithas Mynediad genedlaethol, gan ddod â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn ynghyd ar gyfer datblygiad proffesiynol a rhwydweithio. Gan fod y rolau hyn wedi diflannu, mae'r berthynas rhwng pobl anabl ac awdurdodau lleol, mewn sawl ardal, wedi chwalu. Nid yw Grwpiau Mynediad yn cael llawer o gefnogaeth, os ydynt yn bodoli o gwbl, ac nid yw awdurdodau lleol yn cael eu dal i gyfrif am eu methiant i ymgysylltu oherwydd bod herio eu penderfyniadau yn rhy anodd ac yn gofyn am ddealltwriaeth o gynlluniau technegol cymhleth.
Mae'r argymhelliad hwn yn gofyn am drafodaeth bellach o fewn Llywodraeth Cymru ac adroddiad yn ôl i'r grŵp. (Cam gweithredu byr dymor).
Cryfhau rôl ac effeithiolrwydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Llywodraeth Cymru adroddiad o'r enw ‘Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio?’
Fel dull presennol o sicrhau newid ac atebolrwydd, gellid defnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn fwy effeithiol i wreiddio’r model cymdeithasol o anabledd a'r egwyddor o gydgynhyrchu.
Un awgrym yw y gallai fod gofyniad mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, lle mae effeithiau posibl ar bobl anabl yn cael eu nodi, bod yn rhaid ymgynghori â Sefydliadau Pobl Anabl sydd ag ymwybyddiaeth o'r model cymdeithasol a’u cynnwys wrth gydgynhyrchu atebion posibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â newidiadau i bolisi neu ddeddfwriaeth.
Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd ei bod yn bwysig bod pobl anabl yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o nodi 'effeithiau posibl' fel pobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, nid ymgynghori â hwy yn ôl-weithredol yn unig. Ar ben hynny, credwyd ei bod yn hanfodol bod asiantaethau sydd â'r dasg o asesu gweithrediad asesiadau effaith yn cynnal hyfforddiant model cymdeithasol rheolaidd fel bod swyddogion cyhoeddus yn gwbl ymwybodol o oblygiadau'r model cymdeithasol, yn gwreiddio’r egwyddorion hynny yn eu gwaith eu hunain, ac felly yn gallu arwain trwy esiampl.
Lle mae dyletswyddau deddfwriaethol eisoes yn bodoli sy'n nodi bod yn rhaid talu 'sylw dyledus' i farn grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, credwyd bod hyn yn rhy wan. Byddai cyflwyno dyletswydd gryfach i ymgynghori a chydgynhyrchu atebion (yr olaf yn gyfrifoldeb gweithredol y tu hwnt i ymgynghori yn unig), yn helpu i sicrhau bod cynrychiolwyr o sefydliadau sydd â dealltwriaeth drylwyr o'r model cymdeithasol a chydgynhyrchu yn cael eu hintegreiddio'n well i'r broses. Mae gan hyn y potensial i gryfhau darpariaethau presennol a chynyddu cynrychiolaeth a chyfranogiad. (cam gweithredu byr dymor/tymor canolig).
Mae angen i'r Gweithgor a'r Tasglu ddeall yn well sut y bydd y tîm cydraddoldebau yn Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Swyddfa Archwilio ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a sut mae'n bwriadu cydgynhyrchu Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb integredig (cam gweithredu byr dymor).
Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
Nododd gweithgor Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd bod adroddiad 'Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol' a gyhoeddwyd ym mis Awst 2021, a'r gwaith sy'n cael ei ddatblygu o hyn ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, yn berthnasol i'r Tasglu Cydraddoldeb Anabledd. Argymhelliad canolog a wnaed gan yr adroddiad oedd yr angen am gydnabyddiaeth gryfach o hawliau ac atebolrwydd yn y maes polisi.
Mae'n bosibl bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori CCUHPA yn neddfwriaeth Cymru yn rhoi cyfle, drwy Erthygl 1, i wreiddio rhwymedigaethau rhyngwladol a'r model cymdeithasol o anabledd mewn deddfwriaeth hawliau dynol a sefydlu cysylltiadau cliriach rhwng cydraddoldeb, hawliau dynol, a llesiant mewn polisi cyhoeddus. Argymhellodd y grŵp ei bod yn hanfodol, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn sefydlu mecanwaith clir i ymgorffori gwaith y Tasglu Cydraddoldeb Anabledd yn ei gwaith parhaus ar hawliau dynol. (Nod byr dymor a thymor canolig).
Esboniwyd perthnasedd y cysyniad o anabledd yn Erthygl 1 o'r CRPD yn y cyfarfod:
Pwrpas y Confensiwn hwn yw hyrwyddo, diogelu a sicrhau mwynhad llawn a chyfartal o'r holl hawliau dynol a’r rhyddid sylfaenol gan unigolion ag anableddau, ac i hyrwyddo parch at eu hurddas cynhenid.
Mae pobl ag anableddau yn cynnwys y rhai sydd ag amhariadau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd hirdymor a allai, wrth ryngweithio â rhwystrau amrywiol, rwystro eu cyfranogiad llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.
Mae CCUHPA yn cynrychioli symudiad i ffwrdd o fodel meddygol o anabledd tuag at ddull sy'n seiliedig ar hawliau yn y gyfraith sy'n cydnabod pobl anabl fel aelodau galluog a gweithgar o'r gymdeithas sy'n gallu cymryd rhan a chydsynio yn y broses o wneud penderfyniadau.
Fodd bynnag, cododd y grŵp Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd broblemau gyda'r iaith a ddefnyddir yn CCUHPA (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel CCUHPA) ac Erthygl 1, yn benodol mewn perthynas â'r term 'pobl ag anableddau.' Mae'r iaith hon sy’n rhoi’r person yn gyntaf yn awgrymu bod anabledd wedi'i leoli yn bennaf yn yr unigolyn, yn hytrach na chymdeithas ac mae'n anghyson â'r derminoleg a ddefnyddir gan sefydliadau hawliau anabledd yn y DU. Byddai'n hanfodol, felly, diwygio'r iaith hon i adlewyrchu hyn pe bai Erthygl 1 yn cael ei hymgorffori mewn deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Cyfleoedd a gollwyd a mentrau polisi cymdeithasol yn y gorffennol
Nododd y grŵp gyfleoedd a gollwyd yn y gorffennol i ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd mewn deddfwriaeth. Un enghraifft a drafodwyd oedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er gwaethaf trafod y model cymdeithasol yn y cam drafftio, roedd wedi ymgorffori'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 mewn deddfwriaeth. Rhesymau pam y gallai hyn fod wedi digwydd:
- Ffafrio cysondeb mewn deddfwriaeth
- Canfyddiadau o ofal cymdeithasol fel diben ynddo'i hun yn trechu, yn hytrach na modd o hwyluso byw'n annibynnol/y model cymdeithasol.
- Cymhlethdod
- Cyni a chyfyngiadau cyllidol
Nododd y grŵp fod Deddf Cydraddoldeb y DU 2010 yn ffynhonnell sylweddol o ddryswch oherwydd ei bod yn dibynnu ar fodel meddygol o anabledd yn hytrach na model cymdeithasol. Er cydnabod bod cysondeb yn y gyfraith yn tueddu i fod yn beth da, pe bai Erthygl 1 o'r CCUHPA yn cael ei hymgorffori yng nghyfraith Cymru, gellid creu anghysondebau cyfreithiol â deddfwriaeth bresennol. Un ateb posibl i fynd i'r afael â hyn yn achos deddfwriaeth bresennol fyddai diwygio'r canllawiau cysylltiedig. Er enghraifft, gellid diwygio'r canllawiau sy'n cyd-fynd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a byddai’n haws gwneud hynny na newid deddfwriaeth. Gofynnir am gyngor gan Lywodraeth Cymru ar sut y gellid hyrwyddo'r argymhelliad hwn a sut y gellid mynd i'r afael ag anghysondebau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol. (Camau gweithredu byr dymor a thymor canolig).
Mae argymhellion ychwanegol yn cynnwys datblygu cyfres o gwestiynau/gofynion allweddol i sicrhau bod y model cymdeithasol wedi'i wreiddio mewn ystyriaethau llunio polisïau ac yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Gellid ymgorffori'r rhain mewn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (gweler y drafodaeth gynharach am ymgynghori a chydgynhyrchu fel rhan o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb).
Comisiynydd ar gyfer Pobl Anabl yng Nghymru
Argymhellodd yr adroddiad 'Drws ar Glo’ y dylid creu’r rôl newydd hon o fewn Llywodraeth Cymru ac atgyfnerthodd trafodaethau a gynhaliwyd gan weithgor Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd yr achos dros yr argymhelliad hwn. Mae gwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn amcan cymhleth ac amlochrog, sy'n gofyn am oruchwylio amrywiaeth o'i gweithgareddau craidd. Er mwyn cyflawni hyn, byddai angen newid diwylliannol a sefydliadol sylweddol a rhaid sicrhau craffu ac atebolrwydd parhaus er mwyn i hynny fod yn effeithiol.
Mae tystiolaeth gan y grŵp hwn yn awgrymu bod dealltwriaeth wael o'r model cymdeithasol nid yn unig o fewn Llywodraeth Cymru ond mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ymhlith poblogaeth gyffredinol Cymru. Nid yw'n helpu bod deddfwriaeth y DU a Chymru yn atgyfnerthu ac yn cyfreithloni'r defnydd o fodel meddygol. Mae'r dasg o gyflawni newid a mynd i'r afael ag anghysondebau presennol yn un sylweddol ac mae pobl anabl yn parhau i fod wedi'u tangynrychioli mewn swyddi sy’n gwneud penderfyniadau (sefyllfa na ellir ei datrys yn gyflym). Credwn fod yr achos dros Gomisiynydd ymroddedig i gynrychioli buddiannau pobl anabl yn un cryf, ac yr un mor gryf â'r sail y mae Comisiynwyr wedi'u creu arni yn y gorffennol. Rydym yn argymell cychwyn trafodaethau i fynd i'r afael â'r awgrym hwn cyn gynted â phosibl (cam gweithredu byr dymor, gyda goblygiadau tymor canolig).
Rôl bosibl rheoleiddio
Mae'r grŵp Gwreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ymwybodol o'r potensial i ddefnyddio rheoleiddio fel offeryn i geisio gwreiddio’r model cymdeithasol o anabledd yng ngwaith Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Fodd bynnag, mae angen mwy o drafodaeth ynglŷn â sut y byddai'r math hwn o reoleiddio yn cael ei gymhwyso a'i weithredu.
Gallai enghreifftiau o ddefnyddio rôl Llywodraeth Cymru fel rheoleiddiwr fod i arolygwyr gyflwyno gofynion fel eu bod yn dangos pa gamau maen nhw'n eu cymryd i ymgorffori'r model cymdeithasol o anabledd yn eu sefydliadau. Gallai hyn fod yn berthnasol i'r sector Gofal (Arolygiaeth Gofal Cymru); awdurdodau lleol; y gwasanaeth iechyd; Arolygiaeth Ysgolion etc.
Mae'r grŵp yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal astudiaeth gwmpasu sy'n archwilio'r rôl y gallai rheoleiddio ei chwarae wrth wreiddio’r model cymdeithasol o anabledd mewn llunio a chyflawni polisïau. Gallai hyn hefyd archwilio rôl Llywodraeth Cymru fel caffaelwr nwyddau a gwasanaethau. (cam gweithredu byr dymor, gyda goblygiadau tymor canolig).
Cyflogaeth ac Incwm
Argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru gynnal Uwchgynhadledd Cyflogaeth i Gymru. Byddai hyn yn ymgysylltu â chyflogwyr Cymru, Sefydliadau Pobl Anabl Cymru a'r cyhoedd, i godi ymwybyddiaeth o hawliau cyflogaeth pobl anabl, herio stereoteipiau sy’n cyfyngu, a meithrin perthnasoedd cadarnhaol â chyflogwyr.
Nid yw cael cyfraith i amddiffyn pobl anabl pan fyddant yn chwilio am waith neu mewn gwaith, yn ddigon. Yn rhy aml nid yw'r rhai y bwriedir i'r gyfraith eu hamddiffyn yn ymwybodol bod ganddynt hawliau neu nid ydynt yn gallu cael mynediad at gymorth i'w harfer. Mae profiadau hefyd yn awgrymu bod rhy ychydig o gyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol yn iawn a'r ystod o addasiadau (llawer ohonynt yn syml ac yn rhad), a allai wneud cyflogi neu gadw pobl anabl yn bosibl. Mae angen sgwrs gyhoeddus ar Gymru. Mae angen herio stereoteipiau negyddol a deall y model cymdeithasol o anabledd yn well. Mae llawer o bobl anabl ag amhariadau cronig hirdymor yn gadael y farchnad lafur oherwydd nad ydynt yn sylweddoli y gallant gael mynediad at addasiadau rhesymol. Mae colli’r fath dalent, profiad a sgiliau yn fethiant o ran gweithrediad y gyfraith. Nid yw o fudd i sefydliadau, gweithwyr, nac economi Cymru.
Nid yw anabledd yn fater lleiafrifol ac mae'r tebygolrwydd o gael amhariad yn cynyddu gydag oedran. Mae angen dull cynaliadwy o weithio ar Gymru sy'n ystyried newidiadau drwy gydol oes. Gall gwaith ddarparu annibyniaeth economaidd, lleihau ynysigrwydd cymdeithasol, a gwella llesiant, ond dim ond os yw amodau gwaith da yn cyd-fynd â hynny. Mae ymchwiliad y Cenhedloedd Unedig (CU) i achosion o dorri’r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) gan Lywodraeth y DU yn dangos pwysigrwydd mynediad at waith o ansawdd da i bobl anabl fel hawl ddynol. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfleoedd sylweddol i wneud gwell defnydd o'r rheoliadau presennol drwy gryfhau addysg ac atebolrwydd a gwella'r ddarpariaeth wael o gyngor cyfreithiol yng Nghymru i alluogi pobl anabl i gael mynediad at eu hawliau (Erthyglau 12 a 13 o CCUHPA). Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i "Sefydlu gwasanaeth cyfreithiol cydraddoldeb i ddarparu cefnogaeth ar arferion cyflogaeth annheg neu wahaniaethol" ac mae angen i'r Cynllun Gweithredu Anabledd hyrwyddo'r amcan hwn.
Cymru sy'n Hyderus o ran Anabledd+
Nid oes gan gynllun presennol Hyderus o ran Anabledd y DU ddigon o uchelgais ac yn bwysicach fyth, nid oes gan bobl anabl fawr o hyder ynddo. Gan adeiladu ar waith y Tasglu Hawliau Anabledd, argymhellir bod ychwanegiad a wnaed yng Nghymru i'r cynllun neu farc barcud yn cael ei gydgynhyrchu gyda Sefydliadau Pobl Anabl, cyflogwyr yng Nghymru sydd wedi ennill statws arweinyddiaeth yn y cynllun presennol, Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, ac Undebau Llafur. Yn ddelfrydol byddai Cymru sy'n Hyderus o ran Anabledd+ yn adeiladu ar gynllun presennol Hyderus o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau, fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r opsiwn i ymgorffori fframweithiau eraill fel Fframwaith Clyfar o ran Anabledd y Fforwm Anabledd Busnes. Byddai'r cynllun yn ymgorffori ac yn dathlu gwerthoedd Cymreig nodedig o bartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a gweddus (Erthygl 27 CCUHPA), ymrwymiad i gyflog byw gwirioneddol, a llesiant. Yn gyfrwng ar gyfer darparu addysg, hyfforddiant, a datblygu arferion cyflogaeth da, byddai'r cynllun hefyd yn cysylltu ag amcan canolog Llywodraeth Cymru: caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Ar hyn o bryd, dim ond 40 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi ennill statws Arweinyddiaeth Hyderus o ran Anabledd, a dim ond 12 yn y sector preifat. Cynigiwyd nod barcud cyflogwyr o dan y Cynllun Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol blaenorol ond ni chafodd hyn ei wireddu er gwaethaf ymgysylltiad Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2020 to 2021.
Yr angen am gynrychioli buddiannau pobl anabl yn well yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Cymru
Argymhellir bod Llywodraeth Cymru, yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a gynhelir yn gynnar yn 2024, yn cynnig sefydlu is-grŵp cydraddoldeb i sicrhau bod pobl anabl ac eraill â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cynrychioli’n briodol.
Defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i gydgynhyrchu canllawiau i hyrwyddo ac ymgorffori arferion cyflogaeth cadarnhaol ar gyfer pobl anabl ac eraill sydd â nodweddion gwarchodedig ym mhob contract Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gofynion bod contractwyr:
- Yn dangos bod ganddynt weithdrefnau effeithiol i ddelio â cheisiadau am addasiadau rhesymol a dealltwriaeth glir o'r holl rwymedigaethau cydraddoldeb.
- Yn casglu data cyflogaeth anabledd ac yn adrodd ar y data, i helpu i ysgogi contractwyr i gyflogi pobl anabl; creu amgylchedd lle mae datgeliad yn cael ei ystyried yn gadarnhaol; ac i gynorthwyo cadw gweithwyr anabl.
- Mae hefyd yn bwysig bod contractwyr yn dangos bod ganddynt weithdrefnau datrys anghydfodau digonol ar waith i fynd i'r afael â chwynion pobl anabl, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau am addasiadau rhesymol. Mae gormod o sefydliadau yn methu â dysgu yn adeiladol o wrthdaro yn y maes hwn ac yn hytrach yn defnyddio cytundebau peidio â datgelu yn amodol ar weithwyr anabl yn gadael sefydliadau, i ddatrys anghydfodau. Ni ddylai setliad fyth fod yn amodol ar berson anabl yn rhoi'r gorau i'w gyflogaeth, oni bai bod digon o dystiolaeth bod yr holl opsiynau eraill wedi'u harchwilio'n helaeth.
Cynnal a chydgynhyrchu Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn rhagweithiol ar benderfyniadau caffael. Cwestiynodd Archwilio Cymru a oedd Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb wedi dod yn ymarferion 'blwch ticio'. Rhaid defnyddio Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus nid yn unig i 'ddileu gwahaniaethu' ond i fynd i'r afael â'r nodau ehangach o 'hyrwyddo cydraddoldeb' a 'meithrin perthnasoedd da' (gweler isod). Mae angen i brif ffrydio canlyniadau cydraddoldeb mewn caffael ddod yn rhan annatod o'r broses hon.
Sicrhau bod pobl anabl yn cael eu blaenoriaethu mewn perthynas â threfniadau gweithio hyblyg fel addasiadau rhesymol sylfaenol
Er croesawu Bil y DU a allai ymestyn hawliau pob gweithiwr i ofyn am weithio hyblyg, mae pryder y gallai pobl anabl wynebu cystadleuaeth wrth wneud ceisiadau tebyg am addasiadau rhesymol. Prin yw'r ddealltwriaeth fod gan bobl anabl statws gwahanol mewn cyfraith cyflogaeth. Dylai gweithwyr anabl bob amser gael eu trin yn wahanol ac yn aml mae'n gyfreithlon trin person anabl yn fwy ffafriol na pherson nad yw'n anabl.
Mae gan Lywodraeth Cymru rolau addysgol, strategol ac arweinyddol pwysig i'w chwarae trwy ddefnyddio polisïau a rhaglenni gwaith teg i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o gyfraith anabledd. Gallai deunyddiau addysgol a hyfforddi a gydgynhyrchir â phobl anabl gael eu defnyddio gan Hyrwyddwyr Cyflogaeth, Busnes Cymru (gweler isod), a chynllun newydd Cymru Hyderus o ran Anabledd + i gefnogi cyflogwyr. Mae ail-ddylunio swyddi mewn modd dyfeisgar yn ganolog, fel bod trefniadau gweithio hyblyg yn cael eu hystyried yn gadarnhaol, yn hytrach na ffordd o ddarparu ar gyfer gweithwyr ansafonol mewn rolau swyddi safonedig. Mae'r dull 'diffyg' eang presennol o ymdrin ag addasiadau rhesymol yn cael ei siapio gan normau ableddol.
Mae cyfleoedd i weithio gartref ar ôl y pandemig o bosibl yn darparu cyfleoedd cyflogaeth newydd i bobl anabl, er bod pryder bod y rhain dan fygythiad. Mae'n hanfodol bod gweithio gartref yn dod yn addasiad rhesymol derbyniol, lle bo hynny’n briodol. Fodd bynnag, rhaid cefnogi gweithio gartref a rhaid iddo fod yn ddiogel ac addas. Mae'n bwysig bod gan weithwyr y dewis i beidio â gweithio gartref ac mae'n bryder bod asesiadau gallu i weithio diwygiedig yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bygwth hyn. Ni ddylid byth defnyddio gweithio gartref fel cyfiawnhad dros fethu â gwella hygyrchedd gweithleoedd cyhoeddus, systemau trafnidiaeth, neu seilwaith ehangach.
Argymhellir bod Llywodraeth Cymru, sydd mewn sefyllfa unigryw ar ôl cofleidio gweithio gartref yn dilyn y pandemig, yn gweithio gyda Sefydliadau Pobl Anabl a phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu arfer da mewn 'Siarter Gweithio Gartref a Hybrid Cymru.' Mae angen data brys i ddeall yn well heriau gweithio gartref a gweithio hybrid i bobl anabl. Mae angen datblygu cyfleoedd hybrid i gymryd rhan yn holl ddigwyddiadau a gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i drefniadau gweithio, er mwyn meithrin dinasyddiaeth gynhwysol yng Nghymru.
Mae cadw pobl mewn cyflogaeth yn ddimensiwn o'r bwlch cyflogaeth anabledd sy'n aml yn cael ei anwybyddu. Mae angen mwy o ddata ar ba gamau y mae cyflogwyr yn eu cymryd i gadw pobl anabl yn eu gweithluoedd. Yn ogystal, mae angen hyrwyddo mesurau rhagweithiol fel trefniadau gweithio hyblyg; adleoli; ailhyfforddiant; mentora; ail-ddylunio swyddi/cerfio swyddi yn greadigol ac astudiaethau achos o ble mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus. Yn rhy aml nid yw pobl anabl yn derbyn addasiadau rhesymol priodol ac maent yn cael eu gorfodi i adael cyflogaeth neu gymryd rolau rhan-amser, a all eu gadael mewn tlodi. Argymhellir bod Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn chwarae rôl arweiniol wrth ddatblygu'r ffrwd waith hon.
Pan fydd gwasanaethau Mynediad at Waith yn darparu cyngor amserol, mae pobl anabl yn darparu adborth cadarnhaol yn gyson. Fodd bynnag, mae oedi diweddar mewn gwerthusiadau, biwrocratiaeth, galw cynyddol, a phwysau ar gyllid ar ôl y pandemig, wedi achosi problemau difrifol. Mae papur gwyn y DWP "Transforming Support: The Health and Disability White paper" yn cynnig gwelliannau i'r gwasanaeth, gan gynnwys datblygu system ddigidol a chyflwyno pasbortau. Nododd ein trafodaethau hefyd yr angen am fwy o gynghorwyr â phrofiad o’r materion hyn, yn enwedig gan grwpiau ag amhariadau sy’n cael eu camddeall (e.e. pobl fyddar/dall); angen i gynyddu hyrwyddo gwasanaethau i bobl anabl sydd, neu a allai fod, yn ystyried hunangyflogaeth; ac o ystyried pwysigrwydd rolau gwirfoddol wrth ddarparu porth i gyflogaeth â thâl, cefnogaeth i'r grŵp hwn. Fel cyfranogwyr gweithredol yn Fforwm Rhanddeiliaid Cymru dan arweiniad Mynediad at Waith, argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn codi'r materion hyn i'w trafod ymhellach, ochr yn ochr â'r posibilrwydd o ddolen adborth estynedig gyda Sefydliadau Pobl Anabl, a chynrychiolwyr anabl mewn gwasanaethau datganoledig fel addysg ac iechyd.
Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn dangos drwy esiampl, ddealltwriaeth ac ymrwymiad mwy eglur i ddefnyddio gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol lle mae'r gyfraith yn caniatáu, yn eu harferion cyflogaeth a'u perthnasoedd â chontractwyr. Mae cyfraith cyflogaeth yn aml yn aneffeithiol oherwydd nad yw cyflogwyr ac awdurdodau cyhoeddus yn rhagweithiol mewn amgylchiadau sy'n caniatáu iddynt fod.
Mae enghreifftiau o weithredu cadarnhaol yn cynnwys datgan yn rhagweithiol mewn hysbysebion swyddi bod gweithio rhan-amser, hyblyg, hybrid ac o bell ar gael. Cynnwys datganiadau sy'n annog pobl anabl i wneud cais am swyddi lle maent yn cael eu tangynrychioli: yn arbennig o bwysig mewn perthynas â rolau uwch. Cyfeiriadau clir a chadarnhaol at bolisïau a gweithdrefnau. Trafodaethau cefnogol ynghylch addasiadau rhesymol adeg cyfweld, penodi, gwerthuso, a dyrchafu.
Nid yw'n bosibl i berson nad yw'n anabl hawlio gwahaniaethu ar sail anabledd o dan y gyfraith. Mae hyn yn golygu y gallwch drin person anabl yn fwy ffafriol o'i gymharu â pherson nad yw'n anabl. Gallwch hysbysebu’n benodol am berson anabl a’i recriwtio heb y risg o wahaniaethu ar sail anabledd.
Nid yw’r agwedd hon ar gyfraith cyflogaeth yn cael ei deall yn dda, ac mae hynny’n atal sefydliadau rhag dysgu o brofiadau bywyd pobl anabl. Er mwyn gwella polisi, gwasanaethau, a phrofiad defnyddwyr, mae angen cynrychioli pobl anabl yn well ledled y gweithlu. Rhaid i gyflogwyr a sefydliadau cyhoeddus fod yn fwy parod i ddefnyddio darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb sy'n caniatáu recriwtio pobl anabl fel gofyniad galwedigaethol gwirioneddol. Mae angen gwneud gwaith i helpu cyrff cyhoeddus i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio darpariaethau gweithredu cadarnhaol ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol i'w chwarae. Mae angen gwreiddio egwyddorion gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol, pan fo'n berthnasol i gyfraith cyflogaeth anabledd, yn arferion Llywodraeth Cymru a’r disgwyliadau o gontractwyr a'r holl sefydliadau y maent yn eu hariannu.
Symud o Addysg i Gyflogaeth
Cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ddogfen arloesol: ‘Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018 i 2021’. Roedd hyn yn cydnabod nad oedd digon o bobl anabl yn cael mynediad at brentisiaethau a nodwyd nad oedd cyflogwyr yn ddigon ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt pe baent yn cyflogi prentis anabl. Mae angen gwerthusiad trylwyr o amcanion ac effaith y Cynllun Gweithredu hwn, a sefydlu grŵp newydd i adeiladu ar ei gyflawniadau a chydgynhyrchu strategaeth gyda phobl anabl am y 10 mlynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o fentrau sy'n ymwneud â phobl ifanc sydd eisiau cael mynediad at waith, fel 'Engage to Change', a oedd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu. Mae gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr wedi'u hennill drwy gymryd rhan mewn prosiectau, ond oherwydd bod cyllid yn fyrdymor mae perygl y bydd arbenigedd cronedig yng Nghymru yn cael ei golli. Argymhellir y dylid darparu mwy o hirhoedledd a sicrwydd o ran cyllid i gefnogi arbenigedd mewnol yn y maes hwn o fewn Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod rhaglenni presennol yn cael eu cynnal a mentrau yn y dyfodol fel rhaglen Mentoriaid a Llysgenhadon a model Hyfforddi Swyddi Cenedlaethol, yn cael eu datblygu.
Mae'r cynllun 'Go Wales' wedi helpu i hwyluso lleoliadau gwaith cadarnhaol i raddedigion anabl ac wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Anabledd Cymru. Gan ddarparu profiad gwaith gwerthfawr, mae'n hwyluso llwybrau clir i'r farchnad lafur a gellid ei ddefnyddio fel model ar gyfer datblygiad pellach. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y cyfyngiadau oedran presennol yn cael eu codi yn y cynllun ac argymhellir llwybr pwrpasol i bobl anabl sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n bwysig pan fydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, a fydd yn cael goruchwyliaeth ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru, yn dod yn fyw o fis Ebrill 2024, ei fod yn ymwybodol o waith y Tasglu Hawliau Anabledd a'i argymhellion. Dwy brif flaenoriaeth y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil fydd hyrwyddo cydraddoldeb a gwella mynediad at addysg. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn dynodi person a enwir er mwyn sicrhau bod buddiannau pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n ddigonol o ddechrau'r corff newydd pwysig hwn.
Mae angen mwy o gefnogaeth wedi'i deilwra ar gyfer pobl anabl sydd eisiau dychwelyd i addysg a hyfforddiant, y gallai llawer ohonynt fod â hanes tameidiog o addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae angen datblygu 'llwybr dychwelyd i bobl anabl' sy’n unigryw i ganiatáu meithrin hyder, llunio CV ac ailgyflwyno addysg a gwaith â chymorth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i sefydlu llwybrau priodol i ailsgilio ac uwchsgilio pobl anabl. Mae angen ymyrraeth benodol yng Nghymru. Ni ddylid ystyried hyn fel cyfrifoldeb Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol y DU yn unig.
Cynigir sefydlu 'Rhwydwaith Gwrth-Ableddiaeth' ar draws sectorau addysg bellach ac uwch Cymru. Mae angen i hyn herio stereoteipiau a monitro anghenion addysgol, darpariaeth a chyflawniadau pobl anabl a mynd i'r afael â'u tangynrychiolaeth ymhlith staff yn y sectorau hyn. Gallai'r Rhwydwaith hefyd fod yn gyfrwng ar gyfer rhannu arfer da, casglu data ar y bwlch cyflog anabledd a bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant gwrth-ableddol yn y sector addysg ôl-16. Gyda'r ddyletswydd i adrodd i Lywodraeth Cymru a mesur ei gynnydd yn flynyddol, argymhellir bod y Rhwydwaith hefyd yn datblygu'r Nod Siarter Cydraddoldeb Anabledd cyntaf yn addysg bellach ac uwch y DU (mae'r rhain eisoes yn bodoli y maes AU ar gyfer rhywedd a hil a rhywioldeb). Rhaid cydgynhyrchu’r safonau sydd i'w bodloni yn y Nod Siarter gyda Sefydliadau Pobl Anabl a grwpiau/sefydliadau sy'n cynrychioli staff a myfyrwyr.
Hunangyflogaeth, Entrepreneuriaeth a Gweithwyr Llawrydd
Gall gwahaniaethu orfodi pobl anabl allan o'r farchnad lafur i hunangyflogaeth, fodd bynnag, mae eraill yn gwneud dewis cadarnhaol i ddod yn hunangyflogedig neu ddod yn weithwyr llawrydd. Gall y ddwy sefyllfa gynnwys heriau.
Mae angen gwell ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru ymhlith pobl anabl sy'n ystyried hunangyflogaeth, neu sydd eisoes yn hunangyflogedig. Mae Busnes Cymru wedi datblygu gwasanaethau sy'n anelu at fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl anabl, ond er gwaethaf ei gyrhaeddiad sylweddol ymhlith busnesau, mae ymgysylltu â phobl anabl yn parhau i fod yn anodd.
- Argymhellir y dylai Busnes Cymru gydgynhyrchu gyda Sefydliadau Pobl Anabl Cymru ddarn o ymchwil i sefydlu'r rhesymau pam nad yw pobl anabl yn manteisio ar wasanaethau Busnes Cymru a pha ddulliau amgen y gellir eu rhoi ar waith.
- Argymhellir bod Busnes Cymru yn ymgynghori â Sefydliadau Pobl Anabl i adolygu gweithdai sydd eisoes yn cael eu cynnig gan y gwasanaeth ac y gallai fod angen eu haddasu neu, os nodir bod angen, cydgynhyrchu gweithdy newydd ar hunangyflogaeth a gwaith llawrydd i bobl anabl.
- Mae gan Reolwyr Perthnasoedd Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae wrth annog a hyrwyddo sgyrsiau rhwng busnesau a Hyrwyddwyr Pobl Anabl, ar sut i fabwysiadu a hyrwyddo'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn eu sefydliadau a'u harferion cyflogaeth. Argymhellir bod Busnes Cymru yn annog busnesau i ymgymryd â'r hyfforddiant Model Cymdeithasol o Anabledd sydd ar gael ar blatfform BOSS ac ymgysylltu â Sefydliadau Pobl Anabl a all ddarparu cyngor a hyfforddiant pellach wedi'i deilwra sy'n cynnwys pobl ag ystod o brofiadau bywyd, yn y maes hwn.
- Argymhellir bod Busnes Cymru yn ystyried datblygu Hwb Cyflogwyr Anabledd, gan ddarparu porth canolog o gyngor, canllawiau, adnoddau ac enghreifftiau i gefnogi cyflogwyr i gyflogi pobl anabl. Dylai'r Hwb hefyd gyfeirio at raglenni cymorth a chynlluniau cyllido eraill, a dylai adlewyrchu'r llwybr llawn o brosesau recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr anabl o bob oedran, gan gynnwys y rhai sy'n dod yn anabl tra yn y gweithlu. Dylai cynnwys yr hwb hwn gael ei gydgynhyrchu â phobl anabl a'i adolygu/diweddaru'n rheolaidd.
Nid yw gweithwyr llawrydd fel grŵp unigryw yn cael eu deall yn dda ac mae eu hanghenion penodol yn aml yn cael eu hanwybyddu. Er enghraifft, mae pobl anabl yn y diwydiannau creadigol sy'n chwarae rhan bwysig wrth herio stereoteipiau, yn aml yn adrodd am rwystrau gan gynnwys lleoliadau anhygyrch, absenoldeb gweithdrefnau i sicrhau addasiadau rhesymol a system fudd-daliadau nad yw'n cefnogi cyfnodau gwaith byr dymor, anrhagweladwy. Nid yw llawer o fannau cyhoeddus, fel theatrau a lleoliadau cerddoriaeth, yn ddigon hygyrch ac mae statws gweithwyr llawrydd anabl fel gweithwyr hunangyflogedig, yn aml yn golygu bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu a’u bod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at hawliau cyfreithiol a gwaith. Argymhellir y canlynol:
- Mae gweithio'n llawrydd fel statws cyflogaeth yn cael ei gydnabod a'i ystyried yn well o fewn egwyddorion 'Gwaith Teg' a gydgynhyrchir (gydag undebau, gweithwyr a phobl anabl).
- Mae angen casglu data er mwyn cael gwell dealltwriaeth o weithgarwch llawrydd fel statws cyflogaeth, yn enwedig i ddeall nifer y bobl anabl yn y grŵp hwn a sut mae gweithgarwch llawrydd yn cyd-fynd â thrafodaethau am ein dealltwriaeth o fylchau tâl a thlodi anabledd.
- Mae angen cydnabod llawrydd fel dewis cadarnhaol gan rai ac nid bob amser yn negyddol fel math o waith achlysurol. Felly, ni ddylid gorfodi gweithwyr llawrydd i dderbyn contractau na PAYE ac argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn lobïo i ddiwygio'r system fudd-daliadau fel bod gweithwyr llawrydd yn cael eu cefnogi'n well fel grŵp unigryw.
- Argymhellir bod Cymru Greadigol yn gweithio gyda phobl anabl, Llywodraeth Cymru ac undebau i wella ymwybyddiaeth o Ddogfennau Hygyrchedd a'r angen i weithfannau gweithwyr llawrydd fod yn hygyrch; ac annog cyllid grant sy'n cynnwys llinellau cyllideb wedi'u neilltuo i ganiatáu i gostau mynediad gael eu talu i weithwyr, gweithwyr llawrydd a chynulleidfaoedd.
Incwm
Cydnabyddir mai cyfyngedig yw gallu Llywodraeth Cymru i weithredu ym meysydd nawdd cymdeithasol. Fodd bynnag, mae wedi cyflwyno polisïau a thaliadau disgresiwn i liniaru anfantais, mae ganddi rôl bwysig i'w chwarae wrth gasglu data a gwerthuso amgylchiadau economaidd-gymdeithasol dinasyddion Cymru, a lobïo dros newid ym mholisi y DU.
Mae angen mwy a gwell data i ddeall sut mae adrodd ar y bwlch cyflog rhywedd wedi effeithio ar ymddygiad cyflogwyr yng Nghymru, fel y gellir ymestyn buddion cadarnhaol i gynnwys adrodd ar fwlch cyflog ar anabledd ac ethnigrwydd.
Mae angen data sydd ar gael i'r cyhoedd ar recriwtio, cadw a dilyniant pobl anabl mewn sefydliadau yng Nghymru. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno dyletswydd gadarnhaol sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy’n cyflogi olrhain data o'r fath ac adrodd arno fel rhan o'i hadolygiad o ddyletswyddau penodol i Gymru. Byddai hyn yn cynnwys gofyniad i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi eu dadansoddiad o pam mae bylchau yn bodoli a’i gwneud yn ofynnol iddynt sefydlu cynlluniau gweithredu i'w lleihau. Trwy ddarparu goruchwyliaeth ffurfiol o'r broses hon, byddai Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rôl arweinyddol, un sy'n gydnaws â'i nod i roi anfantais economaidd-gymdeithasol yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau strategol.
Byddai cyflwyno Incwm Sylfaenol (Cynhwysol) yn cael buddion clir i bobl anabl. Byddai'n gwella mynediad at addysg a hyfforddiant ac yn cefnogi pobl anabl sydd angen gwaith neu brofiadau gwirfoddoli fel llwybrau magu hyder i gyflogaeth. Trwy ddarparu rhwyd ddiogelwch yn ystod cyfnodau o darfu mewn cyflogaeth a achosir gan salwch, triniaeth, adsefydlu, neu'r angen i weithredu addasiadau rhesymol, gallai incwm sylfaenol gyfrannu at gadw swyddi a lleihau'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â budd-daliadau prawf modd. I'r bobl anabl niferus mewn mathau ansicr o gyflogaeth, byddai incwm sylfaenol gwarantedig yn eu rhyddhau rhag system nawdd cymdeithasol rhwystredig sy’n aml yn gosbol ac sy’n aml yn eu cosbi pan fyddant yn gweithio. Ar ben hynny, byddai gan bobl anabl nad ydynt yn gallu gweithio o gwbl sicrwydd incwm i'w helpu i fyw'n fwy annibynnol a gydag urddas. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i gymhwyso dysgu o'i Chynllun Peilot Incwm Sylfaenol presennol i bobl anabl ac felly, argymhellir ei bod yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb a dadansoddiad cost-budd o'i gymhwyso i'r grŵp hwn wrth adolygu tystiolaeth (mae gwerthusiad wedi'i drefnu ar hyn o bryd ar gyfer 2026).
Ym mis Gorffennaf 2023, lansiodd Anabledd Cymru ei adroddiad 'Prin yn Goroesi: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru. Argymhellir, wrth gyflwyno polisïau sy'n darparu cymorth ariannol i fynd i'r afael ag anfanteision economaidd-gymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio 'premiwm anabledd' yn awtomatig, sy'n cydnabod y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â bod yn anabl, er enghraifft, yr angen am wresogi, pŵer, offer, neu dreuliau sy'n gysylltiedig ag anabledd. Mae hefyd yn hanfodol cydnabod bod rhai cynlluniau a ariennir i liniaru anfantais wedi profi'n anhygyrch i rai pobl anabl.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd 370,000 yn llai o bobl anabl neu bobl â phroblemau iechyd yn derbyn taliad ychwanegol yn eu Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth oherwydd newidiadau diweddar Llywodraeth y DU yn y meini prawf cymhwysedd ond mae'n amcangyfrif y bydd diwygiadau ond yn cynyddu cyflogaeth tua 10,000 erbyn 2028 i 2029. Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn mynegi pryderon am hyn a lobïo am bwerau llawn dros fudd-daliadau lles pobl anabl. Un o fanteision sylweddol datganoli yn y maes hwn yw y byddai'n caniatáu i feini prawf cymhwysedd ac asesu budd-daliadau gael eu seilio ar fodel cymdeithasol o anabledd ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion yn well o dan Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol Cymru.
Clywodd y grŵp Cyflogaeth ac Incwm gan Sefydliad Bevan am gynigion ar gyfer Siarter Budd-daliadau i Gymru, y mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio tuag ato. Mae'r ymrwymiad i ddefnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd wrth ddylunio a chyflwyno Budd-daliadau yng Nghymru yn cael ei groesawu'n fawr iawn a deallir y bydd grŵp llywio allanol yn cael ei sefydlu i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen, datblygu cynllun gweithredu ac adrodd yn ôl i Gyngor Partneriaeth Cymru ar gynnydd. Argymhellir, yn ogystal â gwahodd Anabledd Cymru i ymuno â'r Grŵp Llywio hwn, y dylid ystyried y cymorth sydd ei angen gan grwpiau amhariad penodol a materion croestoriadol, o ystyried rhai o'r canfyddiadau economaidd-gymdeithasol a fanylir yn yr adroddiad 'Drws ar Glo'.
Teithio
Argymhellion ar draws pob dull trafnidiaeth a theithio
Comisiynu ymgyrch cyfryngau cyhoeddus ar ganfyddiad y cyhoedd o anabledd, sy'n gorfod cynnwys amhariadau nad ydynt yn weledol, yn enwedig mewn perthynas â parcio bathodyn glas, a chymorth a allai fod ei angen ar drafnidiaeth. Bydd gweld y problemau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd yn helpu'r cyhoedd i ddeall y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Gallai hyn fwydo i mewn i ymgyrch gyhoeddus gyffredinol, sy'n siarad ar draws yr holl weithgorau, gan wneud y cyhoedd yn ymwybodol o hawliau pobl anabl i fynediad teg. Mae'n hanfodol bod delweddau yn wirioneddol gynhwysol ac yn cynnwys amrywiaeth o bobl sy'n defnyddio amrywiaeth o gymhorthion symudedd.
Dylai gwefannau cynllunio teithiau gynnwys gofynion hygyrchedd pobl anabl, o'r dechrau i'r diwedd. Mae hyn yn ofynnol i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cynllunio eu teithiau ymlaen llaw, gan ystyried problemau fel cyrbiau isel, uchder safleoedd bws, a mannau newid.
Rhaid profi gwefannau trafnidiaeth ar gyfer hygyrchedd a dylent gael eu datblygu gyda chyfranogiad pobl anabl. Dylai gwefannau trafnidiaeth hefyd gynnwys gwybodaeth am barcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.
Sicrhau bod modd prynu tocynnau yn bersonol yn yr orsaf ac ar y trên, gan y gallai rhai unigolion gael eu heithrio'n ddigidol. Rhaid i docynnau clyfar fod yn hygyrch i bob person anabl ac ni ddylent, ynddynt eu hun, greu rhwystr ychwanegol.
Sefydlu Pwyllgor Cynghori ar Drafnidiaeth Pobl Anabl aml-ddull annibynnol (DPTAC), sy'n adrodd i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth, ac sy'n cael ei gynrychioli gan bobl â phrofiad bywyd. Cymru yw'r unig genedl sydd heb Bwyllgor Cynghori ar Drafnidiaeth Pobl Anabl yn y DU ar hyn o bryd. Rhaid i hyn newid os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i wella canlyniadau i bobl anabl a'r rhwystrau dyddiol y maent yn eu profi wrth ddefnyddio trafnidiaeth.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad yw'r addasiadau rhesymol sydd eu hangen, fel cynorthwyydd personol neu gydymaith wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn arwain at gostau ychwanegol i'r person anabl. Rhaid cydnabod bod effaith costau ychwanegol i bobl anabl wrth deithio yn rhwystr i gymryd rhan yng nghymdeithas Cymru ar bob lefel. Ni ddylid cosbi pobl anabl am eu hamhariadau a'u gadael ar ôl. Ymhellach, mae canslo gwasanaethau trafnidiaeth yn cael llawer mwy o effaith ar bobl anabl, ac felly dylai'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer teithio rhatach, p'un a oes angen cydymaith ai peidio, fod yr un system ar draws pob dull trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i asesu effaith toriadau ar drafnidiaeth yn dilyn pandemig Covid-19 ac i asesu i ba raddau y mae'r toriadau hynny wedi effeithio ar ynysigrwydd ac unigrwydd a brofir gan bobl anabl.
Gofynnwn i Gabinet y Senedd ymgymryd â 'diwrnod ym mywyd person anabl' gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r argymhelliad hwn wedi'i wneud i godi ymwybyddiaeth mewn arweinwyr a rhai sy'n gwneud penderfyniadau o'r rhwystrau a'r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd o'u bywydau wrth gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Tacsis / Cerbydau Hurio Preifat (PHV)
Rydym yn argymell datblygu rhaglen safonedig o hyfforddiant gorfodol sy'n cwmpasu'r Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb a gofal cwsmeriaid da i yrwyr tacsi. Dylai'r hyfforddiant hwn gael ei gydgynhyrchu gyda phobl anabl a'i gyflwyno gyda'u cyfranogiad.
Rhaid i Swyddogion Trwyddedu weithredu ar wrthodiadau gan yrwyr tacsi a PHV i ddiwallu anghenion hygyrchedd cwsmeriaid anabl, fel y nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb. Er enghraifft, gwrthod anifeiliaid gwasanaeth neu offer.
Rydym yn argymell fel rhan o waith diwygio gwasanaethau tacsis a PHV, y dylid ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol sicrhau bod cyfran briodol o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael. Er enghraifft, sicrhau bod modd clampio cadeiriau olwyn er diogelwch.
Bws
O dan y grŵp DPTAC arfaethedig, rydym yn argymell corff aml-asiantaeth sy'n edrych ar gwynion difrifol a godir gan bobl anabl, a all ddal cwmnïau bysiau i gyfrif. Yn y byr dymor, rhaid rhoi adnoddau i Bus Users Cymru drefnu a hyrwyddo 'cymorthfeydd bysiau' mewn lleoliadau hygyrch. Nid oes mecanwaith cenedlaethol ar gyfer ymgysylltiad rhwng cwmnïau bysiau a'u cwsmeriaid anabl, ac mae'n anodd gwneud cwyn. Mae cwynion mwy difrifol yn gofyn am uwchgyfeirio a datrys yn brydlon.
Rydym yn argymell bod gweithredwyr bysiau yn ymrwymo i raglen safonedig o hyfforddiant gorfodol sy'n cwmpasu'r Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb a gofal cwsmeriaid da.
Rydym yn argymell bod yn rhaid i'r awdurdod rheoleiddio cyffredinol gael adran arbennig i oruchwylio hygyrchedd a chynhwysiant ym mhob agwedd ar deithio ar fysiau. Byddai gan yr adran hon yr awdurdod i gyhoeddi canllawiau a gweithredu pan nad yw safonau'n cael eu bodloni. Rhaid i'r adran hon sicrhau bod y cwmnïau/gweithredwyr bysiau sy'n rhedeg gwasanaethau a'r Awdurdodau Lleol sy'n goruchwylio seilwaith bysiau yn adrodd yn ôl wrth weithredu a chynnal gofynion hygyrchedd. Rhaid iddi feithrin ymgysylltiad ystyrlon i sicrhau bod grwpiau anabl yn cael rôl wrth gydgynhyrchu canllawiau hygyrchedd, arferion safonol a gweithdrefnau cwyno a sicrhau y gellir mwyhau lleisiau i gael gwared ar rwystrau sy’n rhwystro pobl anabl rhag cael mynediad at deithio ar fysiau. Rhaid i hygyrchedd fod yn gyflawnadwy ac yn orfodadwy o dan y Bil Masnachfreinio arfaethedig a chael ei ddatblygu fel rhaglen ar gyfer gwella, sy'n cael ei chydgynhyrchu â phobl anabl.
Rydym yn argymell cynlluniau i sicrhau dull cyson o ddarparu gwybodaeth ddigidol mewn safleoedd bysiau, cyfnewidfeydd bysiau a gorsafoedd bysiau. Rhaid i unrhyw Apiau yn y dyfodol a ddatblygir i gefnogi gwybodaeth cwsmeriaid fod yn cydymffurfio’n llwyr â WCAG 2.1 ac yn gydnaws â thechnoleg darllenydd sgrin.
Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg i wneud gwybodaeth yn hygyrch fel gwybodaeth ddigidol mewn safleoedd bysiau gyda swyddogaethau sain / darllenwyr sgrin a sicrhau bod eu swyddogaeth yn cael ei chynnal yn briodol.
Rydym yn argymell y dylid mapio'r gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol ledled Cymru ac adolygu cyllid, yn enwedig lle nad oes darpariaeth ar hyn o bryd. Mae effaith toriadau i wasanaethau bysiau yn broblem i lawer o bobl anabl yng Nghymru. Mae hyn yn creu rhwystr i gyfranogiad yng nghymdeithas Cymru.
Rheilffordd
Rydym yn argymell datblygu rhaglen safonedig o hyfforddiant gorfodol sy'n cwmpasu'r Model Cymdeithasol o Anabledd, deddfwriaeth cydraddoldeb a gofal cwsmeriaid da i’r holl staff rheilffyrdd sy’n wynebu cwsmeriaid.
Rhaid cyflawni rhwymedigaethau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru drwy sicrhau bod pob gorsaf reilffordd yn gwbl hygyrch.
Sicrhau bod gan bob trên gyfleusterau toiled hygyrch. Mae gorfod dod oddi ar y trên i ddefnyddio toiledau'r orsaf, sydd efallai ddim ar agor neu gerllaw yn gwbl annerbyniol ac yn amhosibl i rai pobl anabl.
Sicrhau bod yr holl wybodaeth am amserlenni a chynllunio taith yn gwbl hygyrch i bob teithiwr anabl. Rhaid i unrhyw Apiau yn y dyfodol a ddatblygir i gefnogi gwybodaeth cwsmeriaid fod yn cydymffurfio’n llwyr â WCAG 2.1 ac yn gydnaws â thechnoleg darllenydd sgrin.
Rydym yn argymell bod Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn gwell arwyddion ac ymwybyddiaeth staff o effaith rhoi pramiau, bagiau ac ati yn y mannau eistedd â blaenoriaeth.
Teithio Llesol
Rydym yn argymell adolygiad o fwriad a diffiniad y term 'Teithio Llesol' a dylai unrhyw adolygiadau o'r polisi Teithio Llesol yn y dyfodol adlewyrchu'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae'r gair 'active' yn Saesneg yn awgrymu nad yw'r dull hwn o deithio ar gyfer pob person anabl, ynghyd â'r datganiad 'dull naturiol o deithio'. Mae angen geiriad mwy cynhwysol arnom os yw 'Teithio Llesol' am fod yn berthnasol a chael ei ddefnyddio gan bobl anabl.
Rhaid i lwybrau teithio llesol fod yn gynhwysol i bob defnyddiwr, er enghraifft sicrhau argaeledd pwyntiau gwefru ar gyfer cadeiriau olwyn, darparu offer hygyrch, mannau gorffwys, gwybodaeth am raddiannau, a lle mae gofod yn cael ei rannu â beicwyr. Ers gormod o amser, nid yw anghenion pobl anabl wedi cael eu cynllunio wrth ystyried mynediad i gymunedau. Rhaid i hyn newid.
Rhaid i Awdurdodau Lleol gael cynrychiolaeth gan bobl anabl wrth ddatblygu llwybrau Teithio Llesol newydd. Dylid dyrannu cyllid o fewn cyllidebau Teithio Llesol i gefnogi'r cyfranogiad hwnnw, a rhaid rhoi tystiolaeth o hynny pan fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Trafnidiaeth Cymru i'w gymeradwyo.
Plant a Phobl Ifanc
Mae angen i bob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc (yn enwedig mewn addysg, iechyd, chwaraeon, gweithgareddau diwylliannol, gofal cymdeithasol, gofal plant, gwasanaeth ieuenctid, datblygu chwarae, bydwreigiaeth ac ymweliadau iechyd) gael eu haddysgu ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, statws economaidd-gymdeithasol pobl anabl, a hanes anabledd.
Dylid ymgorffori'r addysg hon mewn hyfforddiant cychwynnol a datblygiad proffesiynol parhaus. Dylid gofyn i reoleiddwyr ei gynnwys o fewn Codau Ymddygiad Proffesiynol a dylent fonitro ei fod wedi'i wneud.
Tynnodd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 sylw at bwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd ond dangosodd profiadau bywyd y rhai o fewn y gweithgor nad yw'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl yn ymwybodol ohono na sut i'w ddefnyddio yn eu gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod data yn cael ei gasglu i fonitro cydymffurfiaeth â'r argymhelliad hwn pan gaiff ei weithredu.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ailedrych a diwygio'r asesiad effaith integredig i sicrhau bod yr adran hawliau plant yn gallu ymgorffori hawliau a lleisiau plant anabl yn briodol fel sy'n ofynnol gan Erthygl 12 o CCUHP.
Tynnodd yr adroddiad Drws ar Glo sylw at yr angen am ddeddfwriaeth hawliau dynol. Ar gyfer plant a phobl ifanc, dylai Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 olygu eisoes fod llunwyr polisi yn rhoi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Deddf Cydraddoldeb 2010 (a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011) a golygu y dylai llunwyr polisi roi sylw dyledus i anghenion pobl anabl, ac fel rhan o hynny, plant a phobl ifanc anabl. Fodd bynnag, nid yw profiadau bywyd y rhai o fewn y gweithgor yn adlewyrchu bod y ddwy ddyletswydd hyn yn cael eu hystyried gyda'i gilydd ac felly nid ydynt ar hyn o bryd yn sicrhau bod llunwyr polisi yn rhoi sylw dyledus i hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc anabl.
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun gweithredu traws-adrannol i nodi a lleihau'r oedi sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a dderbynnir gan blant anabl.
Dylai anghenion a dyheadau plant anabl, fel y'u mynegir gan blant anabl eu hunain, fod wrth wraidd y cynllun gweithredu hwn a rhaid iddo geisio nodi sut y gellir dileu'r fath oedi.
Mae profiadau bywyd y rhai yn y gweithgor yn tynnu sylw at effaith ddinistriol oedi wrth dderbyn gwasanaethau, sy'n cael effeithiau negyddol sylweddol ar blant a phobl ifanc anabl. Mae wythnosau neu fisoedd ym mywyd unrhyw blentyn neu berson ifanc yn hynod arwyddocaol. Gall diffyg mynediad at wasanaethau, fel peidio â chael y cymorth perthnasol yn yr ysgol neu aros am ddiagnosis neu wasanaeth iechyd newid bywyd plentyn neu berson ifanc a gall eu hatal rhag cyflawni eu potensial llawn.
Rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull croestoriadol o wneud penderfyniadau am blant a phobl ifanc anabl. Rhaid adolygu'r cynlluniau gweithredu sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig eraill (megis cynlluniau gweithredu Hil, NYTH/NEST a LHDTC) i sicrhau eu bod yn ymgorffori anghenion, dyheadau a lleisiau plant a phobl ifanc anabl yn llawn.
Cytunodd holl aelodau'r gweithgor bod angen i gefnogaeth i blant a phobl ifanc anabl fabwysiadu dull croestoriadol gan fod gan lawer o blant a phobl ifanc anabl fwy nag un nodwedd warchodedig ac weithiau gall hyn eu rhoi dan anfantais arbennig.
Addysg Gyhoeddus
Dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymgyrch gyhoeddus i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn deall eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a Deddf Cydraddoldeb 2010.
Roedd y rhai yn y gweithgor yn aml yn rhannu eu bod wedi darganfod yr hawliau hyn yn hwyr neu nad oeddent yn ymwybodol o sut y gellid eu defnyddio i sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu gwireddu'n iawn.
Mae hyn hefyd yn bwysig gan nad yw rhieni a gofalwyr bob amser yn gwybod am yr hawliau hyn ac yn darganfod llawer hwyrach neu nad ydynt yn ymwybodol ohonynt. Dylai hyn fod yn cyd-fynd â sicrhau bod rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl yn gwybod ble a sut maen nhw'n gallu cael mynediad at gymorth. Mae angen ystyried pobl a chymunedau yng Nghymru lle gallai fod angen darparu cymorth ac ymwybyddiaeth ychwanegol.
Roedd y plant a'r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw yn rhannu enghreifftiau o anwybodaeth/gwahaniaethu gan bobl sydd wedi eu galw'n "rhy ifanc i fod yn anabl" neu drwy ddatganiadau sy'n awgrymu nad ydyn nhw'n "edrych yn anabl". Dylai ymgyrch o'r fath dargedu'n benodol canfyddiadau cymdeithas o anabledd a rhagdybiaethau am blant a phobl ifanc ag amhariadau anweladwy. Pwysleisiodd plant a phobl ifanc y ddealltwriaeth ehangach o'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'r gred gyffredin nad oes angen "trwsio" person i ffitio i mewn.
Addysg
Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnwys cyfeiriad yn y Cod Yr Hyn sy’n Bwysig at y Model Cymdeithasol o Anabledd. Ochr yn ochr â hyn, dylai Llywodraeth Cymru gynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd yn y canllawiau statudol a dylai ddatblygu cynnwys gwrth-ableddol i gefnogi ysgolion i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a ddarperir i bob plentyn yng Nghymru (waeth beth fo'u lleoliad addysgol).
Ymhlith eraill, rhaid i'r cwricwlwm gynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd. Rydym yn cydnabod bod y Cod Yr Hyn sy’n Bwysig eisoes yn cynnwys Hanes Anabledd, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a Deddf Cydraddoldeb 2010. Fodd bynnag, dylid paratoi deunyddiau ychwanegol i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu ar y materion hyn lle bynnag y maent yn cael eu haddysgu (ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion, addysg heblaw yn yr ysgol ac i'r rhai sy'n dewis addysg gartref). Mae hyn yn bwysig oherwydd un o'r rhwystrau allweddol a nodwyd gan y gweithgor oedd agweddau mewn cymdeithas. Nodwn fod enghreifftiau o arfer gorau eisoes ar gael, megis adnoddau Anabledd Cymru CCUHP ar Hwb.
Argymhellodd plant a phobl ifanc yn y sesiwn hon fod yn rhaid cynnwys anabledd yn y cwricwlwm gan eu bod am gael eu deall gan ffrindiau a chyfoedion.
Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio lleoliadau addysgol yn briodol i sicrhau bod Cwricwlwm newydd Cymru, ac yn arbennig cwricwlwm digidol Cymru, yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc anabl. Dylai hyn fod yn cyd-fynd â data a dylid ceisio lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer plant a phobl ifanc anabl. Dylai hyn fod yn cyd-fynd â monitro a lle bo angen gorfodi ac ymyrryd i sicrhau bod lleoliadau addysgol yn cydymffurfio.
Rydym yn cydnabod bod Cwricwlwm newydd Cymru wedi'i gynllunio mewn ffordd nad yw'n rhagnodi gweithgareddau penodol, mae'n niwtral o ran technoleg gyda phwyslais ar anghenion defnyddwyr. Mae hyn yn galluogi lleoliadau addysgol i addasu eu dull i sicrhau ei fod yn hygyrch. Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth ar leoliadau addysgol i sicrhau eu bod yn dilyn y dull hwnnw pan fyddant yn gweithredu. Mae'n arbennig o bwysig bod hyn yn digwydd nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn unedau cyfeirio disgyblion, addysg heblaw yn yr ysgol ac ar gael i'r rhai sy'n dewis addysg gartref gan fod lleoliadau addysgol heblaw yn yr ysgol yn darparu addysg i rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed.
Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc anabl yn caffael sgiliau digidol da i gael mynediad i'r cwricwlwm, os nad yw hyn yn digwydd, gallant deimlo eu bod wedi'u heithrio. Rhaid i sgiliau digidol gael eu dysgu gan athro arbenigol sy'n deall sut i ymgysylltu â'r dechnoleg a'r nodweddion hygyrchedd e.e. efallai na fydd plentyn sydd ag amhariad ar y golwg yn gallu defnyddio llygoden tra bydd eraill angen meddalwedd chwyddo sgrin.
Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid perthnasol a phobl ifanc ag amhariad ar y golwg i archwilio'r gwaith o greu pasbort technoleg gynorthwyol ar gyfer y rhai sydd ag amhariadau ar eu golwg fel bod technoleg gynorthwyol yn symud gyda pherson ifanc ac yn aros yn eu perchnogaeth ac felly yn gwella eu gallu i chwilio am waith, cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith a chael mynediad atynt.
Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym fod angen hyfforddiant ar ddyfeisiau hygyrchedd, offer neu gyfarpar i ddarparu ar gyfer ystod o amhariadau a sicrhau cyfle cyfartal.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu a rhoi adnoddau priodol i ysgolion i sicrhau bod y gweithlu Addysg yn gallu cefnogi plant a phobl ifanc anabl yn llawn. Rhaid i hyn gynnwys sicrhau hyfforddiant llawn i athrawon a staff cymorth ym mhob cam, recriwtio a chadw athrawon arbenigol lle bo angen a darparu hyfforddiant penodol ychwanegol i staff pan fo angen.
Tynnodd llawer o aelodau'r gweithgor sylw at y ffaith mai staff mewn addysg yw’r rhai mwyaf hanfodol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn gallu cael mynediad at addysg gynhwysol.
Argymhellodd plant a phobl ifanc hyfforddiant gorfodol i athrawon a chynghorwyr gyrfa mewn ysgolion i oresgyn rhagfarn a stigma. Fe wnaethant rannu straeon o adborth digalon ar eu syniadau ar gyfer dyfodol y tu hwnt i'r ysgol, gyda rhai yn dweud na fyddent yn gallu mynd i mewn i'r gweithle neu'r proffesiynau yn hytrach nag annog myfyrwyr i ddilyn eu hangerdd ac awgrymu pa addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen i’w galluogi i lwyddo.
Dylai Llywodraeth Cymru ailystyried sut y gall gyflawni addysg gynhwysol yn wirioneddol fel y nodir yn Nylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ac yn Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, pan fydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 yn cael ei gweithredu.
Nid yw profiadau bywyd pobl o fewn y grŵp plant a phobl ifanc yn adlewyrchu'r newid hwn ar hyn o bryd gan fod systemau o hyd lle mae plant a phobl ifanc anabl yn gorfod cael mynediad at ysgolion arbennig neu gael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol. Rydym wedi clywed achosion o agweddau a chyfleusterau mewn ysgolion prif ffrwd nad ydynt yn gynhwysol. Bydd addysg gynhwysol yn cael ei chyflawni dim ond pan fydd plant a phobl ifanc anabl yn gallu cael mynediad at addysg yn eu cymunedau mewn ysgolion cymunedol prif ffrwd, ynghyd ag unrhyw gefnogaeth neu addasiadau ychwanegol. Adroddodd y grŵp hefyd anawsterau gyda'r cymorth ADY, gan gynnwys gorfod aros am ddiagnosis cyn derbyn cymorth ac athrawon nad ydynt yn cael eu hyfforddi mewn ADY.
Dylai Llywodraeth Cymru ailgynllunio canllawiau a chodau ymarfer ar gyfer cymwysterau, presenoldeb a systemau rheoli ymddygiad mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a grwpiau sy'n darparu addysg heblaw yn yr ysgol, fel eu bod yn canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc anabl.
Mae'r dystiolaeth gan y gweithgor yn cynnwys:
- Yng Nghymru, nid oes system adrodd ar waith i roi gwybod am unrhyw ataliaeth ar blant a phobl ifanc anabl mewn ysgolion. Argymhellir system adrodd annibynnol i sicrhau bod addasiadau rhesymol i addysg yn cael eu bodloni'n gyffredinol.
- Nid yw addysg brif ffrwd yn addas i'r diben i blant a phobl ifanc anabl.
- Mae arholiadau a'r disgwyliad A*-C yn niweidiol gan eu bod yn anwybyddu'r diffyg cydlyniant rhwng myfyrwyr anabl a'r system addysg.
- Dylid pennu graddau targed a'r gallu i sefyll arholiadau fesul achos.
- Mae ysgolion yn aml yn cymryd agwedd gosbol at ymddygiad (e.e. codi cywilydd a systemau gwobrwyo presenoldeb/ymddygiad). Mae angen deall a chyfathrebu pam mae'r plant a'r bobl ifanc anabl hyn yn ymddwyn fel y maent, yn hytrach na'u cosbi am beidio â dilyn y status quo.
- Mae gofynion presenoldeb a gwobrau fel arfer allan o gyrraedd plant a phobl ifanc anabl ac nid yw addasiadau yn cael eu gwneud.
Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annog dysgwyr i ymgysylltu â dysgu sy'n eu galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu i oresgyn rhwystrau cyfathrebu. Ochr yn ochr â hyn, dylai Llywodraeth Cymru fonitro a lle bo angen gorfodi'r gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu cymhorthion cyfathrebu i blant a phobl ifanc anabl sydd eu hangen yn benodol.
Roedd y gweithgor yn falch o glywed am ddatblygiad Iaith Arwyddion Prydain nid yn unig fel cymhwyster TGAU ond ar bob lefel o'r cwricwlwm. Fodd bynnag, rydym yn nodi bod adnoddau yn golygu mai dim ond lle mae ysgol yn dewis ei ddarparu y bydd hynny’n digwydd. Clywsom hefyd lawer o enghreifftiau lle nad oedd darpariaeth cyfathrebu ar waith. Mae'n hanfodol cael gwared ar rwystrau i blant a phobl ifanc anabl a’u galluogi i gyfathrebu mor eang â phosibl. Rhan o hyn yw annog eraill o fewn cymdeithas i gynyddu eu galluoedd.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gwrth-fwlio sy'n ceisio'n benodol amddiffyn plant a phobl ifanc anabl.
Mae gormod o blant anabl yn cael eu gorfodi i adael ysgolion prif ffrwd oherwydd diffyg parodrwydd eu hysgolion i'w hamddiffyn rhag bwlio. "Gobeithion i Gymru" yw adroddiad comisiynydd plant Cymru ar ganlyniadau arolwg a dadansoddiad o brofiadau a gobeithion plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, a'u blaenoriaethau. Gan amlaf roedd gweithwyr proffesiynol yn nodi pobl ifanc anabl fel y rhai oedd yn wynebu’r risg fwyaf o gael eu bwlio, ac amlygwyd cymdogaethau lleol ac ar-lein fel yr amgylcheddau lle roedd y risg uchaf o fwlio.
Roedd plant a phobl ifanc yn arbennig o bryderus am wahaniaethu a bwlio, yn bersonol ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a all gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a'u golwg gadarnhaol ohonynt eu hunain, eu gwerth a'u hunan-werth.
Rhaid i bob plentyn anabl allu mynychu ysgolion sy'n lleol iddynt fel y gallant gael eu haddysgu ochr yn ochr â'u ffrindiau lleol a’u teulu.
Er mwyn cyrraedd y lefel hon o hygyrchedd, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Cynghorau, ysgolion a cholegau yn cydymffurfio'n llawn â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Er bod hygyrchedd corfforol i ysgolion yn hanfodol, er mwyn sicrhau hygyrchedd llawn, mae angen dull ysgol gyfan. Rhaid i'r dull hwn gynnwys y cwricwlwm, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar gyfer holl staff addysg, cadw at reoliadau penodol, a strategaeth i’r gweithlu sy'n ystyried anghenion plant anabl wrth asesu'r gofyniad am athrawon arbenigol neu hyfforddiant ychwanegol i athrawon.
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi adnoddau i ysgolion a Chynghorau ar unwaith fel y gallant ymateb yn llawn i anghenion cymorth eu disgyblion a chydymffurfio â'u gofynion cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Rhaid i hyn hefyd fod yn cyd-fynd â gorfodaeth neu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru pan nad ydynt yn cydymffurfio.
Mae'r dystiolaeth gan y gweithgor yn cynnwys:
- Mae diffyg ymagwedd unigol at addasiadau rhesymol myfyriwr, ac yn aml mae ysgolion yn ffafrio ateb dal popeth i bob myfyriwr anabl.
- Nid yw cynghorau yn anelu at sicrhau ysgolion mwy hygyrch yn ffisegol neu amgylchedd hygyrch yn ffisegol ym mhob maes y mae plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad ato, megis parciau, clybiau ieuenctid, darpariaeth gofal plant.
Rhannodd plant a phobl ifanc â phroblemau synhwyraidd eu rhwystredigaethau gyda gwisgoedd gorfodol, gan ddweud eu bod yn anghyfforddus ac yn tynnu eu sylw wrth geisio canolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth. Rhannodd eraill y gall yr amgylchedd dysgu ei hun fod yn rwystr h.y. goleuadau caled a llachar, ystafelloedd mawr sy'n effeithio ar yr acwsteg a grisiau i mewn i'r gofod.
Roedd plant a phobl ifanc hefyd yn rhannu rhwystredigaeth gydag agweddau negyddol athrawon tuag at y defnydd o amddiffynwyr clust mewn lleoliadau ysgol.
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi adnoddau i ysgolion a Chynghorau ar unwaith fel y gallant ymateb yn llawn i anghenion cymorth eu disgyblion a chydymffurfio â Chod Ymarfer ADY.
Mae'r dystiolaeth gan y gweithgor yn cynnwys:
- Mae athrawon heb hyfforddiant neu beidio â chael athrawon arbenigol pan fo angen yn cael effaith negyddol sylweddol ar blant a phobl ifanc anabl.
- Pan fydd rhieni neu ofalwyr yn dewis addysgu eu plant gartref, mae cymorth ADY yn amrywiol neu ddim yn cael ei ddarparu o gwbl. Mae hyfforddiant, adnoddau a chyllid priodol yn hanfodol i rieni plant nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol yn gorfforol.
- Mae ymgysylltiad a gweithredu gwael gan ysgolion prif ffrwd ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, sy'n eu gwthio allan. Mae yna hefyd anghydraddoldebau rhanbarthol mewn systemau cymorth ADY, y mae angen mynd i’r afael â hwy.
- Mae ADY yn dal i gael ei ystyried yn angen addysgol, yn hytrach nag angen iechyd yn lle hynny, dylai hyn fod yn ddull 'law yn llaw'.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i sicrhau bod Cynghorau a darparwyr Addysg Bellach yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, wrth benderfynu ar ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 a phan fydd y ddarpariaeth honno ar waith. Rhaid i hyn gynnwys bod yr holl staff dan sylw, gan gynnwys staff academaidd, wedi'u hyfforddi yn y model cymdeithasol o anabledd.
Fel uchod, dangosodd tystiolaeth gan y gweithgor y gall fod diffyg dyhead i bobl ifanc anabl yn y cam pontio hanfodol hwn. Gall diffyg addasiadau rhesymol neu ddarpariaeth leol fod yn rhwystr i bobl ifanc anabl allu cael mynediad at ddarpariaeth addysgol ôl-16 a all effeithio ar eu rhagolygon cyflogaeth.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried mwy o gefnogaeth i lwybrau anacademaidd amgen i bobl ifanc anabl ar ôl diwedd addysg orfodol.
Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o gyfleoedd addysg uwch i bobl ifanc anabl, yn enwedig y rhai sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Nid yw mynychu'r brifysgol weithiau yn ymarferol i bobl ifanc anabl ac mae’n gosod golwg abl o gorff ar gynnydd academaidd. Dylid ystyried cwricwlwm EOTAS pwrpasol ar gyfer oedolion ifanc i wneud rhagolygon addysg uwch yn fwy hygyrch i'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu'r brifysgol.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dylai Llywodraeth Cymru osod gofynion statudol penodol ar Fyrddau Iechyd, a lle bo'n briodol gwasanaethau a ganolwyd, i sicrhau bod gwasanaethau iechyd i blant a phobl ifanc yn darparu diagnosis amserol a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl.
Dylai hyn gynnwys sicrhau eu bod yn ystyried anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc anabl yn eu strategaeth ar gyfer y gweithlu, a allai fod angen cynnwys gwasanaethau arbenigol neu hyfforddiant ychwanegol i staff.
Dangosodd tystiolaeth gan y gweithgor fod oedi sylweddol yn aml mewn gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, Therapi Iaith a Lleferydd (SALT) / Therapi Galwedigaethol (OT) / Ffisiotherapi a oedd yn cael effaith sylweddol ar fywydau plant a phobl ifanc anabl.
Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr a chyrff proffesiynol gynnwys gofynion cyfathrebu o fewn y Cod Ymarfer ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Dylai'r gofynion hyn gynnwys bod pob gweithiwr proffesiynol yn addasu i anghenion cyfathrebu plant a phobl ifanc anabl pan fyddant yn darparu unrhyw wasanaethau iechyd. Mae hyn er mwyn i weithwyr proffesiynol sicrhau eu bod yn gwneud yr addasiadau penodol priodol fel bod plant a phobl ifanc anabl yn deall unrhyw wybodaeth neu ddewisiadau a ddarperir iddynt a beth yw'r goblygiadau i'w bywydau.
Dangosodd profiadau bywyd pobl o fewn y gweithgor fod cydsyniad gwybodus gan rieni/gofalwyr yn hanfodol pan wneir newidiadau i ofal meddygol eu plentyn ond bod diffyg dealltwriaeth i rai plant a phobl ifanc am eu hamhariad / cyflwr eu hunain neu'r cysyniad o anabledd ei hun.
Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r diffygion wrth drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Dylai'r cynllun gweithredu hwn anelu at sicrhau trosglwyddiad di-dor o wasanaethau neu fel arall ystyried, lle mae'n briodol, peidio â throsglwyddo i wasanaethau oedolion yn awtomatig ar sail oedran biolegol a dylid ystyried dull cyson ledled Cymru.
Dylid rhoi’r cynllun gweithredu hwn ar waith gyda chyfranogiad uniongyrchol oedolion, plant a phobl ifanc anabl.
Roedd y dystiolaeth gan y gweithgor yn cynnwys y canlynol:
- Er bod bachgen 18 oed yn oedolyn yn gyfreithlon, ni ddylid tybio y gall gwasanaethau oedolion ddiwallu eu hanghenion.
- Mae'r broses o bontio yn aml yn dechrau yn hwyrach neu nid yw'n cael ei chynllunio’n dda. Dylai ddechrau ymhell cyn i'r person ifanc anabl symud rhwng gwasanaethau i ganiatáu paratoi a dealltwriaeth. Dylid teilwra'r cyfathrebu hwn.
- Dylai'r broses o bontio gynnwys ymgynghorwyr pediatrig ac ymgynghorwyr oedolion i drosglwyddo hanes/gofynion meddygol y person ifanc anabl.
Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i ddatrys y rhwystrau i blant a phobl ifanc anabl gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol a gwasanaethau gofal cymdeithasol cysylltiedig.
Dylai'r cynllun gweithredu hwn ystyried sut y gellir lleihau amseroedd aros a sut y gellir rhoi gwell mynediad i blant a phobl ifanc anabl at wasanaethau, trwy broses atgyfeirio a hunanatgyfeirio.
Dylai'r cynllun gweithredu hefyd archwilio'r croestoriad hil, statws LHDTC+, rhywedd, crefydd, ableddiaeth, gwahanu, a bwlio, gan geisio deall eu heffeithiau ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc anabl. Dylid datblygu'r cynllun gweithredu hwn trwy fframwaith NYTH/NEST i sicrhau bod dull system gyfan a chyfannol yn cael ei ddefnyddio wrth gynllunio a chyflawni.
Mae'r dystiolaeth gan y gweithgor yn cynnwys:
- Mae oedi a diffyg atgyfeiriadau i fynd i'r afael â phryderon iechyd meddwl mewn plant ADY yn enwedig ers pandemig COVID-19.
- Mae yna effeithiau cymdeithasol sylweddol yn sgil pandemig COVID-19 ar blant ADY (e.e. mwy o orbryder, diffyg sgiliau cymdeithasol gyda phlant/oedolion yn y drefn honno) ond mae mynediad at wasanaethau wedi dod yn anoddach.
- Mae CAMHS wedi gweld cynnydd mewn iselder a gorbryder ymhlith plant ADY ar ôl y pandemig.
- Mae angen cwmpas a dealltwriaeth ehangach o sut mae plant ADY yn arddangos iechyd meddwl gwael.
- Mae diffyg addasiadau rhesymol (fel dehonglwyr BSL) o fewn therapi/gofal iechyd meddwl, a all eithrio plant a theuluoedd rhag derbyn gwasanaethau. Mae angen adolygu hyn i sicrhau mynediad cyfartal at gymorth iechyd meddwl.
- Yn ogystal, mae diffyg llythrennedd iechyd meddwl. Efallai na fydd pobl ifanc anabl mewn sefyllfa dda i wybod pa gymorth sydd ei angen arnynt.
Addysg ôl-18
Dylai Llywodraeth Cymru osod gofynion statudol ar brifysgolion i sicrhau bod mynediad at wasanaethau anabl mewn prifysgolion a sefydliadau addysg uwch yn haws a bod gan y gwasanaethau hyn yr adnoddau llawn i gefnogi myfyrwyr anabl, gan gynnwys materion fel lwfansau a budd-daliadau.
Mae profiad bywyd o'r gweithgor yn dangos ei bod yn anodd iawn i fyfyrwyr anabl gael mynediad at gymorth pan fyddant yn trosglwyddo i'r brifysgol.
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Prifysgolion yn cydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, i beidio â gwahaniaethu, ac i wneud yr holl addasiadau rhesymol sydd eu hangen, yn enwedig pan fydd angen cymorth wrth ofyn am estyniadau neu i fodloni safonau academaidd.
Dangosodd y dystiolaeth gan y gweithgor nad yw addasiadau rhesymol yn gyson ac nad ydynt yn ystyried natur amhariad yr unigolyn ar hyn o bryd, yn hytrach maent yn ceisio profi eu galluoedd mewn meysydd generig nad yw eu amhariad efallai yn effeithio arnynt. Nid yw hyn wedi'i gyfyngu i weithgareddau academaidd a dylid hefyd ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau staff neu gymdeithasau gydymffurfio â'r dyletswyddau hyn ac yn arbennig i wneud addasiadau rhesymol.
Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i holl staff Academaidd gael eu haddysgu ar y Model Cymdeithasol o Anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010.
Dylid cynnwys cydymffurfiaeth â'r rhwymedigaethau cyfreithiol hyn mewn gofynion hyfforddi a datblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff addysg a dylid monitro hynny. Dylai fod canlyniadau mwy difrifol i aelodau staff nad ydynt yn caniatáu gofynion hygyrchedd cyfreithiol a system adrodd annibynnol ar gyfer diffyg gofynion hygyrchedd.
Rydym yn argymell gwell mynediad i BSL i fabanod/plant byddar o adeg diagnosis yn ogystal â mynediad at ddosbarthiadau BSL am ddim i rieni a brodyr a chwiorydd plant byddar, gyda chyfleoedd i symud ymlaen trwy lefelau BSL.
Mae angen i blant byddar allu cyfathrebu â'u rhieni cyn gynted â phosibl ac mor llawn â phosibl. Mae llawer o’r bondio affeithiol rhwng y rhiant a’r plentyn yn digwydd gydag iaith. Heb fynediad at BSL ar gyfer babi/plentyn ifanc a rhiant, mae canlyniad negyddol mawr o ran datblygiad gwybyddol ac ieithyddol y plentyn. Mae plant byddar yn tanberfformio mewn addysg oherwydd eu bod yn colli allan ar ddysgu ffurfiannol blynyddoedd cynnar, ynghyd â cholli allan ar ddysgu achlysurol. Mae hefyd yn bwysig i blant a phobl ifanc fyddar gael modelau rôl.
Blynyddoedd cynnar
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cefnogi'n briodol cyn iddynt ddechrau addysg ffurfiol. Rhaid i hyn gynnwys adolygiad o'r gweithlu sydd ar gael a'r fframwaith ar gyfer cael mynediad at gymorth.
Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i'r gweithgor yn dangos y gall fod yn anodd i rieni a gofalwyr gael mynediad at gymorth ac nid yw staff arbenigol ar gael yn aml. Er enghraifft, mae prinder swyddogion symudedd a sefydlu arbenigol ac mewn rhai Awdurdodau Lleol yng Nghymru nid yw rhai plant a phobl ifanc ag amhariad ar y golwg yn derbyn unrhyw gymorth symudedd a sefydlu. Canfu Adroddiad Rhyddid Gwybodaeth yr RNIB (2023) (1) fod cyfanswm o 312 o ddisgyblion ar lwythi achosion symudedd a sefydlu gweithredol ar hyn o bryd gyda phedwar deg tri arall yn aros i gael eu hasesu. Ni ddarparodd dau awdurdod lleol y wybodaeth hon. Mae canran y plant a phobl ifanc ar lwythi achosion gweithredol gwasanaeth Amhariad ar y Golwg Awdurdodau Lleol sy'n cael mynediad at gymorth symudedd a sefydlu neu ar restr aros i gael mynediad at gymorth symudedd a sefydlu yn amrywio o dan 9% i 48%, tra bod amseroedd aros am gymorth symudedd a sefydlu yn amrywio o 1 wythnos i oddeutu 12 mis.
Mae'r diffyg cymorth arbenigol nid yn unig yn effeithio ar flynyddoedd cynnar plentyn ond ei addysg a’i fywyd fel oedolyn hefyd. Gall yr effaith ar gynhwysiant cymdeithasol hefyd fod yn sylweddol.
Gwaith Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc
Digwyddiad Ysgolion a Phlant yng Nghymru
Rydym yn argymell bod sefydliadau trafnidiaeth yn ymgynghori â phlant a phobl ifanc anabl ynglŷn â sut y gellir gwella teithio, a rhaid i sefydliadau trafnidiaeth gymryd camau i weithredu argymhellion a gyflwynwyd gan blant a phobl ifanc anabl.
Treuliodd disgyblion amser hefyd yn siarad am sut i wella mynediad i bobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn. Y prif broblemau a adroddwyd gan blant a phobl ifanc anabl mewn ysgolion oedd nad oedd digon o gyfleusterau gyda chymorth a thrafnidiaeth briodol.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gynnal ymgynghoriad ehangach gyda phlant a phobl ifanc anabl, ar sut i wella cyfleusterau a gweithgareddau mewn cymunedau lleol i blant yng Nghymru.
Byddai plant a phobl ifanc anabl yn hoffi mwy o lefydd i fynd iddynt, lle mae yna bobl sy'n eu hadnabod ac yn gallu eu cefnogi. Byddent yn cymdeithasu gyda'u ffrindiau mewn llefydd hwyliog, fel y sinema, parciau a gerddi er enghraifft.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda manwerthwyr i wella mannau hygyrch mewn ardaloedd siopa, megis sicrhau bod drysau siopau yn hygyrch gyda drysau awtomatig, sy'n ddigon llydan i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gadeiriau olwyn ac offer ac y rhoddir ystyriaeth i effaith goleuadau fflwroleuol caled a cherddoriaeth uchel.
Roedd plant a phobl ifanc yn credu ein bod ar hyn o bryd yn "adeiladu byd heb feddwl am bobl anabl". Mae pobl anabl yn cael eu cynllunio allan o wasanaethau ac yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o fywyd cymunedol gan nad ydynt yn gallu mynd lle maen nhw'n dewis neu gymryd rhan yn llawn. Gall hyn effeithio ar ymdeimlad person o berthyn.
Mae hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant cymdeithasol yn hanfodol i fyd lle mae pobl anabl yn cael cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn chwaraeon, cael torri gwallt, bwyta mewn bwyty, a mynd i siopa heb wynebu rhwystrau.
Byddai galluogi pobl yn y modd hwn yn arwain at gynyddu’r ymdeimlad o ddiogelwch, hyder a chysur a bydd yn sicr yn sicrhau "bywyd mwy abl". Datrys rhwystrau i blant a phobl ifanc niwroamrywiol a gwella mynediad i blant anabl, h.y. lleihau nifer y cyhoeddiadau swnllyd, diangen ar uchelseinydd a chwarae cerddoriaeth dawel mewn siopau, lle bo modd.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ymgysylltiad parhaus a bwriadol â phlant a phobl ifanc anabl drwy gydol y gwahanol gamau o ddylunio a llunio gwasanaethau a pholisïau.
Fel rhan o'r digwyddiad hwn, awgrymodd plant a phobl ifanc fod y canlyniadau a ddymunir i bobl anabl yn annhebygol o ddigwydd gan eu bod yn amau nad yw llunwyr polisi o fewn y Llywodraeth yn anabl eu hunain. Gallai diffyg cynrychiolaeth ymhlith Swyddogion arwain at fethu â deall anghenion rhanddeiliaid y mae'r polisi yn eu gwasanaethu. Un ateb fyddai deall manteision cydgynhyrchu a phwysigrwydd gwrando ar brofiadau bywyd sy'n sicr o ychwanegu dyfnder at bolisïau a phrosesau.
Rydym yn argymell bod gan bob ysgol Hyrwyddwr Anabledd/Gofalwyr Ifanc ymroddedig o fewn ei Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid.
Mae plant a phobl ifanc eisiau cael hyrwyddwr anabledd o fewn lleoliad yr ysgol – ffigwr awdurdodol y gallant ymddiried ynddynt i gael gwared ar rwystrau iddynt a bod yn gyswllt cyfathrebu rhwng y myfyriwr a'r athro. Er enghraifft, gallai'r hyrwyddwr anabledd wneud argymhellion i athrawon ynghylch pa addasiadau rhesymol y dylid eu rhoi ar waith i'r myfyriwr yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd yn gyfrinachol. H.y., mwy o seibiannau, gadael y dosbarth yn gynnar. Byddai'r hyrwyddwr anabledd hwn hefyd yn berson cyswllt i fynd ato pan fydd y myfyriwr angen cyngor/rhywun i ymddiried ynddo.
Roedd plant hefyd eisiau hyrwyddwr a allai ddarparu cymorth a chyngor i ofalwyr ifanc nad ydynt efallai yn anabl eu hunain, ond yn gofalu am riant/gofalwr anabl gartref.
Rydym yn argymell bod cymorth ychwanegol yn cael ei roi i blant a phobl ifanc sydd wedi colli allan ar eu hawl i addysg o ganlyniad i iechyd gwael.
Roedd plant a phobl ifanc yn teimlo'n gryf y dylid rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd wedi colli eu haddysg oherwydd cyflyrau iechyd meddwl/corfforol gwael ymgymryd â'r dysgu hwn a chwblhau'r cwricwlwm pan ystyrir eu bod yn ddigon da i ddychwelyd. Yn rhy aml, mae plant yn colli rhannau helaeth o'u haddysg oherwydd eu bod yn yr ysbyty neu'n analluog ac yna mae disgwyl iddynt fynd ymlaen i addysg bellach neu sicrhau swydd heb gwblhau eu haddysg a chael cymwysterau.
Efallai y bydd hyn eisoes yn cael ei ganiatáu yn y system a'i gynnig fel rhan o leoliadau addysg bellach, fodd bynnag, roedd y bobl ifanc yn teimlo y gellid gwneud mwy i sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn dod yn oedolyn heb dderbyn eu hawl i addysg.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn galw ar bwyllgorau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i gynnwys pobl anabl yn y penderfyniadau ynghylch dyrannu adnoddau a'r cyfeiriad gaiff yr adnoddau hynny eu gwario mewn perthynas ag addasiadau ac offer.
Dylid blaenoriaethu ymchwil bellach gyda'r bwriad o ddefnyddio technoleg fodern arloesol i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl a deall sut y gall hyn wella hygyrchedd ymhlith pobl anabl.
Rydym yn argymell lleoedd mwy hygyrch mewn lleoliadau ar gyfer chwaraeon, cerddoriaeth a chynyrchiadau theatr.
Dywedodd plant a phobl ifanc eu bod yn mwynhau mynd draw i gyngherddau a digwyddiadau chwaraeon ond eu bod yn siomedig bod seddi hygyrch yn tueddu i fod yn gyfyngedig ac mewn rhannau annymunol o'r lleoliad gyda golygfa gyfyngedig/ymhellach i ffwrdd.
Argymhellwyd hefyd bod y tocynnau hyn ac unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â gwylwyr ac aelodau'r gynulleidfa sy’n anabl ar gael am bris teg ac yn fforddiadwy i bawb.
Tai Hygyrch a Fforddiadwy
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried strategaeth fanwl i fynd i'r afael â'r prinder cartrefi hygyrch
Mae ymchwil gan Sefydliad Bevan wedi dangos bod Cymru yn wynebu prinder tai. Yn ôl y sefydliad:
Mae prinder eiddo y gall pobl yng Nghymru eu prynu neu eu rhentu am brisiau fforddiadwy... gyda rhai yn cael eu gorfodi i symud i eiddo sy'n anfforddiadwy, gan wynebu’r risg o galedi ariannol, rhai yn cael eu gorfodi i dderbyn llety o ansawdd gwael, tra bod eraill yn cael eu gorfodi i geisio cymorth gan wasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol. Mae'r heriau hyn yn arbennig o amlwg i aelwydydd incwm isel sy'n byw yn y sector rhentu preifat.
Mae adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Tai a Phobl Anabl - Argyfwng Cudd Cymru yn nodi, 'mae prinder cronig o gartrefi hygyrch... mae prinder difrifol o dai hygyrch a thai sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn o hyd.'
Fel y nodwyd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru, mae yna dangyflenwad o gartrefi hygyrch ledled Cymru. Clywodd y grŵp fod y prinder hwn o gartrefi hygyrch yn cael canlyniadau sylweddol, gan gynnwys adroddiadau am bobl anabl yn gorfod aros am amser estynedig yn yr ysbyty, yn symud o soffa i soffa gydag aelodau o'r teulu a hyd yn oed am berson ifanc yn byw mewn llety i bobl oedrannus.
Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau presennol i fynd i'r afael â bylchau yn y cyflenwad o dai cymdeithasol, bydd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cynnwys strategaeth glir.
Cynnal ymchwil ynghylch galw heb ei ddiwallu am dai hygyrch
Mae angen ymchwil i ddeall yn llawn y galw heb ei ddiwallu am dai hygyrch, gan gynnwys y nifer presennol o dai hygyrch. Rhaid i'r ymchwil hon arwain at ddata gronynnog ynghylch y gwahanol fathau o dai hygyrch sydd eu hangen o'i gymharu â'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd fesul sir. Rhaid iddo hefyd gynnwys gwybodaeth am ba raddau y mae pobl anabl yn byw mewn tai amhriodol, gan gynnwys cartrefi gofal.
Lledaenu canlyniadau ymchwil ar gyfer galw heb ei ddiwallu am dai hygyrch
Rhaid i bob corff sy'n gweithio yn y sector tai, preifat a chymdeithasol/cyhoeddus, fod yn ymwybodol o'r canfyddiadau ymchwil hyn a'r canlyniadau i bobl anabl pan nad ydynt yn cael eu lletya yn briodol.
Cydnabod y galw heb ei ddiwallu am dai hygyrch
Rhaid derbyn yn glir yr angen i wella yn y sector tai o ran polisi a darparu cartrefi hygyrch i bobl anabl. Rhaid cael ffocws o'r newydd i wella tai i bobl anabl, gan ystyried profiad bywyd y grŵp hwn.
Gwelliannau o ran cydlynu polisi'r llywodraeth
Mae yna lawer o ddarnau o waith ar y gweill ynglŷn â chartrefi hygyrch. Mae angen dull cyfannol, system gyfan a gwell arferion gweithio ar y cyd. Mae hyn yn golygu bod arweinwyr polisi perthnasol yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i gydgynhyrchu gyda phobl anabl yr effeithir arnynt gan bolisi tai.
Mae'r holl argymhellion uchod yn ein harwain at:
Datblygu strategaeth tai sy'n canolbwyntio ar bersonau anabl
Mae arweinwyr polisi tai Llywodraeth Cymru yn y broses o ffurfioli trefniadau i gasglu barn gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig, ac mae ymrwymiad i baratoi strategaeth dai, a fydd yn adlewyrchu croestoriadedd. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru barhau â'r ymrwymiad hwn i weithio ar y cyd â phobl anabl, gan gynnwys pobl anabl o gymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phobl anabl sy'n ceisio lloches ym mhob maes o'r sector tai. Rhaid i'r cydweithrediad hwn arwain at strategaeth fanwl a phendant, a fydd yn sicrhau bod holl anghenion tai pob person anabl yn cael eu diwallu'n lleol.
Llywodraethiant cryfach a blaenoriaethu ar gyfer mentrau tai i’r anabl
Er gwaethaf mentrau polisi blaenorol sy'n nodi bwriadau da, maent yn ei chael yn anodd pan fyddant yn wynebu pwysau cystadleuol eraill. Felly, yn ogystal â chael ei datblygu ar y cyd, rhaid i unrhyw strategaeth tai hygyrch newydd gael ei chefnogi gan dargedau a llywodraethiant cadarn.
Sicrhau bod pawb yn cadw at reoliadau cydraddoldeb ac adeiladu presennol
Cadw at y Ddeddf Cydraddoldeb
Mae'n ofynnol i bob corff sy'n gweithio yn y sector tai gadw at y Ddeddf Cydraddoldeb. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyfathrebu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod yna angen i gyd-greu deunyddiau sy'n canolbwyntio ar dai a gofynion y sector i gyflawni addasiadau rhesymol. Rhaid sicrhau adnoddau priodol i wneud hyn.
Cydymffurfiad landlordiaid preifat â'r Ddeddf Cydraddoldeb
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn glir iawn na all landlordiaid preifat wrthwynebu addasiadau rhesymol. Mae hefyd yn anghyfreithlon iddynt wahaniaethu yn erbyn rhentwyr anabl posibl oherwydd efallai y bydd angen addasiadau arnynt. Rhaid lledaenu'r wybodaeth hon i bob landlord preifat ac ystyried ei chynnwys yng ngofynion cofrestru a phrawf 'Rhentu Doeth Cymru'.
Cadw at bolisi Llywodraeth Cymru ac at safonau adeiladu
Fel yr awdurdod cynllunio, mae Awdurdodau Lleol mewn sefyllfa bwerus i ysgogi hygyrchedd ar draws pob maes o fywyd Cymru, fodd bynnag, rydym wedi clywed am achosion lle nad yw Awdurdodau Lleol bob amser yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau a ddylai lywio eu penderfyniadau. Fel lleiafswm, rhaid i bob awdurdod lleol gadw at 'Dogfen Gymeradwy M mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt' sy’n rhan o Reoliadau Adeiladu yng Nghymru.
Dull cydlynol o ddatblygu cynlluniau cydraddoldeb sy'n gysylltiedig â thai
Wrth ddatblygu cynlluniau cydraddoldeb, mae angen cydweithredu effeithiol rhwng awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru wrth ystyried camau sy'n ymwneud â thai.
Cynhadledd i gynorthwyo cyrff i gadw at ddeddfwriaeth cydraddoldeb a thai hygyrch
Gan weithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, dylai Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd sector gyfan gyda'r bwriad o sicrhau bod y sector yn deall ei ddyletswyddau cyfreithiol yn llawn mewn perthynas â thai pobl anabl, gan gynnwys pobl anabl o gymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phobl anabl sy'n ceisio lloches.
Gwella a chryfhau Safonau Tai Cymru
Parhau i gadw golwg ar arferion a pholisïau Tai Llywodraeth Cymru a lle bo hynny'n briodol, cyflwyno cynigion i gryfhau canllawiau a safonau.
Safon Ansawdd Tai Cymru 2023
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn berthnasol i gartrefi hŷn a chartrefi cymdeithasol ac mae'n nodi bod yn rhaid cynnal holl dai cymdeithasol a’u cadw mewn cyflwr da. Er bod adolygiad wedi'i gynnal yn ddiweddar, mae angen adolygiad pellach o'r safonau hyn i sicrhau eu bod yn briodol i bobl anabl. Mae angen i'r Safonau hyn hefyd gael eu cefnogi gan system sancsiynau effeithiol ac egnïol i’w rhoi ar waith pan fydd hawliau'n cael eu torri.
Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021
Mae Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 Mannau a Chartrefi Prydferth yn amlinellu'r safonau ansawdd gweithredol gofynnol ar gyfer tai fforddiadwy anghenion cyffredinol newydd ac adferedig. Nid yw'r gofynion yn diwallu anghenion pobl anabl a dylid eu hadolygu fel mater o flaenoriaeth i sicrhau bod y gofynion yn nodi’n glir sut mae'n rhaid i gartrefi fod yn addas ar gyfer pobl â gofynion mynediad amrywiol.
Sicrhau bod llais pobl anabl ynglŷn â'u hanghenion yn cael ei adlewyrchu yn natblygiad Llywodraeth Cymru o'r Papur Gwyn ar Dai Digonol a Rhenti Teg
Gan gydnabod y dystiolaeth gyfyngedig, ynglŷn ag anghenion pobl anabl o ran digonolrwydd tai, a gyflwynwyd i Bapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru (Galwad am Dystiolaeth ar greu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd) mae angen ymgysylltu'n agos â sefydliadau cynrychioliadol ar y camau nesaf. Dylai datblygiad y Papur Gwyn adlewyrchu anghenion pobl anabl a dylai hefyd adlewyrchu'r Bil tai hygyrch llawer mwy blaengar a gynigiwyd gan Tai Pawb.
Gwell safonau hygyrchedd ar gyfer adeiladau newydd
Mae angen gwell safonau o fewn rheoliadau adeiladu i sicrhau bod pob adeilad newydd yn hygyrch, neu'n hawdd ei addasu. Mae hyn yn ymwneud â'r sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru. Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol wneud darpariaeth drwy eu cynlluniau datblygu ar gyfer yr ystod lawn o fathau o dai i fynd i'r afael â’r anghenion a nodwyd ar gyfer eu cymunedau, gan gynnwys anghenion pobl anabl. Dylai hyn gynnwys tai 'di-rwystr', er enghraifft wedi'u hadeiladu i safonau 'Cartrefi Gydol Oes', i alluogi pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi am gyfnod hirach.
Yr angen am alinio cofrestrau tai ar gyfer tai hygyrch
Creu egwyddorion cenedlaethol ar gyfer cofrestrau tai
Rydym yn deall bod cofrestrau tai awdurdodau lleol yn wahanol o ardal i ardal. Rydym yn cynnig symleiddio’r gwaith o greu egwyddorion tai cenedlaethol y mae'n rhaid i bob cofrestr leol gadw atynt. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad eiddo wrth eiddo o union natur lefel/math o hygyrchedd eiddo cyngor a chymdeithasau tai sydd wedi cael eu haddasu. Wrth ddatblygu'r egwyddorion cenedlaethol bydd angen ystyried yr holl drefniadau diogelu data/diogelu o ran pwy all gael mynediad i'r gofrestr.
Monitro'r defnydd o eiddo wedi'u haddasu
Monitro'r defnydd o eiddo wedi'u haddasu gan gynnwys nifer/lleoliad yr eiddo y mae eu haddasiadau wedi'u tynnu allan.
Diwygio'r broses ymgeisio am dai
Creu tryloywder yn y broses ymgeisio am dai
Mae angen mwy o dryloywder a chysondeb ar draws pob darparwr o ran y broses ymgeisio am dai. Yn ddelfrydol, dylai'r holl brosesau ymgeisio fod yr un fath ar draws yr holl gyrff tai perthnasol yng Nghymru.
Hysbysu cartrefi hygyrch yn well
Mae angen gwell cysondeb yn y ffordd y mae cymdeithasau tai/awdurdodau lleol yn hysbysebu cartrefi hygyrch a sut mae'r cartrefi hyn yn cael eu disgrifio.
Creu proses asesu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer digartrefedd a thai cymdeithasol
Rhaid defnyddio dull cyfannol o gynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan nad oes angen diagnosis cyn derbyn cymorth. Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod wedi gorfod aros am ddiagnosis cyn cael eu hystyried ar gyfer tai / addasiadau.
Gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch
Rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â thai mewn fformatau hygyrch a diwallu anghenion y gynulleidfa
Mae hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth hyrwyddo, contractiol a chyffredinol, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar hysbysfyrddau tenantiaid. Er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, rhaid i ddarparwyr tai fod yn gwbl ymwybodol o anghenion mynediad eu holl denantiaid a gweithredu'n rhagweithiol. Lle mae gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd, rhaid bod prosesau syml a thryloyw y gellir cael fformatau hygyrch trwyddynt.
Pob awdurdod lleol i greu un pwynt cyswllt ar gyfer addasiadau tai a chyflenwi offer
Rhaid i bob Awdurdod Lleol gael un pwynt cyswllt clir a hygyrch ar gyfer addasiadau tai a chyflenwi offer. Mae hyn yn cynnwys pan fydd nifer o asiantaethau a chontractwyr yn gweithio ar yr un prosiect. Dylid monitro ansawdd yr addasiadau hefyd.
Darparu gwybodaeth i'r rhai sydd wedi'u heithrio'n ddigidol
Rhaid i gyrff tai ddatblygu strategaethau ynghylch sut y byddant yn lledaenu gwybodaeth i'r rhai sydd wedi'u heithrio'n ddigidol.
Gwybodaeth, cyfathrebu, a chroestoriadedd
Wrth greu a lledaenu gwybodaeth, mae'n amlwg bod yn rhaid ystyried yr holl ddulliau hygyrchedd angenrheidiol, ond yr hyn sy'n aml yn cael ei anwybyddu yw gofynion mynediad pobl o wahanol gymunedau. Mae angen dull croestoriadol i helpu i sicrhau mynediad i bawb.
Integreiddio gwasanaethau therapi yn well
Mae angen cysondeb ar draws darparwyr tai yn y ffordd y mae rhywun yn cael mynediad at wasanaethau therapi galwedigaethol, gan gynnwys therapi galwedigaethol preifat. Mae hyn yn gofyn am systemau ar waith i wneud hyn weithio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Rhaid darparu'r wybodaeth hon yn rhagweithiol i denantiaid gan ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu a ffefrir ganddynt.
Hyfforddiant sy'n gysylltiedig â thai
Gwreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn hyfforddiant ymarfer proffesiynol
Dylai pob aelod o staff ar draws y sector tai dderbyn hyfforddiant pwrpasol o’r model cymdeithasol o anabledd sy’n canolbwyntio ar dai. Dylai'r hyfforddiant hwn hefyd gynnwys Hanes Anabledd, gan gynnwys pobl anabl o gymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phobl sy'n ceisio lloches. Yn ogystal ag i bobl sy'n gweithio yn y sector tai, dylid cynnig yr hyfforddiant hwn i gynllunwyr, penseiri, academyddion yn y sector, a chynrychiolwyr cwmnïau adeiladu mawr.
Safonau hygyrchedd a Hyfforddiant technoleg addasol
Dylai pob aelod o staff priodol ar draws y sector tai dderbyn hyfforddiant ynghylch safonau hygyrchedd a thechnoleg addasol.
Hyfforddiant i gynghorwyr etholedig sy'n ymwneud â chynllunio
Rydym wedi clywed efallai nad yw cynghorwyr sy'n ymwneud â chynllunio wedi derbyn hyfforddiant, neu nad oes ganddynt brofiad bywyd go iawn yn y maes hwn, ac felly yn dibynnu'n bennaf ar gyngor eu swyddogion cynllunio. Mae hyn yn broblem gan mai dim ond ychydig o rwystrau a gwrthbwysau sydd mewn gwirionedd o ran budd y cyhoedd a’r graddau y mae swyddogion eu cyngor yn cadw at 'Ddogfen Gymeradwy M: mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt' o Reoliadau Adeiladu yng Nghymru. Rhaid i bwyllgorau cynllunio awdurdodau lleol gynnwys cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol i allu nodi pan fydd eu hawdurdod yn torri'r rheoliadau a bod ganddynt yr hyder i leisio eu pryderon. Er bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu, rhaid iddo sicrhau ei fod yn cynnwys rheoliadau adeiladu, model cymdeithasol a safonau adeiladu.
Hyfforddiant ar hawliau anabledd ac effaith amhariadau
Os yw rhywun yn ddefnyddiwr cadair olwyn neu'n cael trafferth cerdded neu ddefnyddio cyfleusterau fel baddonau, mae yna lawer o wybodaeth eisoes ar gael am yr effeithiau a sut i liniaru wrth chwilio am lety addas. Fodd bynnag, mae yna rai grwpiau ag amhariad lle mae angen mwy o hyfforddiant ar staff. Mae hyn yn cynnwys y gofynion mynediad/llety ar gyfer y rhai sy'n niwroamrywiol, pobl fyddar/dall, y rhai sydd â dementia a defnyddwyr BSL er enghraifft.
Rhaid i'r holl hyfforddiant a restrir uchod gael ei ddylunio ar y cyd â phobl anabl.
Datblygu cwricwlwm academaidd
Addysg uwch / ôl-raddedig
Ystyried partneriaeth gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru gyda'r nod o wreiddio cysyniadau’r Model Cymdeithasol mewn cyrsiau academaidd.
Cyrsiau Adeiladu ac Adeiladwaith yn y sector Addysg Bellach (AB)
Gan weithio gyda'r sector AB a'r cyrff cymhwyso ar gyfer prentisiaethau, gwreiddio cysyniadau’r Model Cymdeithasol yn y cwricwlwm ochr yn ochr â safonau hygyrchedd a defnydd ymarferol o dechnolegau addasol. Rhaid i hyn fod yn ofyniad waeth beth yw oedran y prentis.
Llochesi Hygyrch
Creu'r nifer angenrheidiol o lochesi hygyrch
Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod llety hygyrch digonol bob amser i bobl anabl sy'n ceisio lloches rhag trais, a bod y ddarpariaeth hon yn hygyrch iddynt, eu gofalwyr, a'u plant. Er mwyn cyflawni hyn rhaid cael dadansoddiad o fwlch angen/darpariaeth fesul sir gyda darpariaeth yn cael ei chreu i gyd-fynd ag anghenion lleol. Rhaid rhoi sylw i bobl anabl o gymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phobl anabl sy'n ceisio lloches sy'n dioddef cam-drin domestig, a sut mae menywod wedi'u hynysu ar safleoedd yn gallu gwybod am fannau lloches diogel a chael mynediad iddynt.
Diwygio gweithdrefnau rhyddhau o'r ysbyty
- Ni ddylai pobl anabl o unrhyw oedran orfod byw yn yr ysbyty am gyfnodau hir heb angen clinigol oherwydd diffyg tai hygyrch.
- Ni ddylai pobl anabl gael eu gorfodi i roi'r gorau i'w hannibyniaeth - cael eu symud i gartref gofal oherwydd y diffyg cefnogaeth i gynnal annibyniaeth, tai fforddiadwy a hygyrch.
- Ni ddylai pobl anabl gael eu gorfodi i symud allan o'r sir oherwydd diffyg tai lleol, fforddiadwy a hygyrch.
Pobl anabl Sipsiwn Roma, Teithwyr
- Mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol o dan Adran 103 o Ddeddf Tai Cymru (2014) i nodi angen cymunedau Sipsiwn Roma a Teithwyr o ran tai ac i adrodd ar yr angen hwnnw ar ffurf Asesiadau Llety Sipsiwn Teithwyr (GTAA). Mae angen gwella GTAA a rhaid iddynt ystyried anghenion pobl anabl sy'n dod o gymunedau Sipsiwn Roma a Theithwyr.
- Er bod y rhain yn aml o yn ymwneud â chanolfannau carafannau a safleoedd, gallant hefyd fod yn berthnasol i lety rhent.
Pobl anabl sy'n ceisio lloches
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod darparwyr dan gontract yn cynnal hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd.
- Rhaid i sefydliadau sy'n darparu cymorth i bobl anabl sy'n ceisio lloches gael eu hyfforddi yn y model cymdeithasol o anabledd a dangos sut maen nhw'n cefnogi pobl anabl i gael mynediad at hawliau. Dylai hyfforddiant gael ei ddarparu gan bobl sydd â phrofiad bywyd.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i geisio casglu ac adrodd data yn well mewn perthynas â cheiswyr lloches anabl er mwyn sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu'n ddigonol.
- Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gefnogi ceiswyr lloches sydd wedi'u lletya yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid rhannu data yn well i sicrhau bod unrhyw anghenion gofal a chymorth yn gallu cael eu diwallu gan Lywodraeth y DU neu wasanaethau lleol, yn ôl yr angen.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i geisio tai a chymorth byw addas ar gyfer ceiswyr lloches anabl sydd wedi'u lletya yng Nghymru.
- Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddarparu llety lloches yng Nghymru. Fodd bynnag, dylid sicrhau bod tai yn briodol ar gyfer anghenion unrhyw bobl anabl sy'n byw yn y llety hwn yng Nghymru.
Gwella'r gefnogaeth i bobl ifanc a theuluoedd
Pobl ifanc a gofal
Credwn y dylai pob person anabl o unrhyw oedran allu byw yn eu cartref eu hunain. Rydym wedi clywed am enghreifftiau o osod pobl ifanc anabl mewn cartrefi gofal fel opsiwn cyfreithlon pan nad yw eu hanghenion hygyrchedd yn cael eu diwallu. Rhaid i hyn stopio, nid yw'n opsiwn cyfreithlon. Yn hytrach mae'n un hwylus gyda chanlyniadau negyddol iawn i'r person anabl yn aml.
Creu safon llety gweithio gartref
Wrth ddatblygu safonau tai a gweithredu dyraniad tai, rhaid ystyried anghenion pobl sy'n gweithio gartref.
Mynediad at Gyfiawnder
Thema: Mynediad at gyfiawnder i bobl anabl sy'n ddioddefwyr a throseddwyr
Mater: Mae angen i asiantaethau statudol ddeall am hawliau a dyletswyddau i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.
Argymhelliad/argymhellion
- Llywodraeth Cymru i ymgorffori CCUHPA yng nghyfraith Cymru. Mae'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol a'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol wedi dechrau gweithio i symud hyn ymlaen.
Mater: Diffyg cyngor a gwybodaeth, mewn fformatau hygyrch fel BSL a hawdd ei ddarllen i bobl anabl.
Argymhellion:
- Cynyddu cyllid a swm y gwasanaethau cymorth cyfreithiol yng Nghymru. Mae cymorth cyfreithiol yn fater a gadwyd yn ôl felly gofynnir i Lywodraeth Cymru gyfleu’r angen hwn i Lywodraeth y DU.
- Buddsoddi mewn addysg gyfreithiol gyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod addysg yn cynnwys gwybodaeth am fynediad a chynhwysiant.
- Cynyddu darpariaeth cymorth eiriolaeth digonol i bobl anabl sy'n ddioddefwyr/cyflawnwyr troseddau yng Nghymru. Rhaid i eiriolwyr fod yn gymwys a phrofiadol i ddarparu'r lefel gywir o gyngor a chymorth. Gall hyn fod yn eiriolaeth gyfreithiol, gyda chyfieithwyr cymwys Mewnieithog hyfforddedig a chyfieithwyr BSL/Saesneg/Cymraeg lle bo angen.
- Cynyddu darpariaeth cymorth iechyd a llesiant i bobl anabl yn y ddalfa yng Nghymru.
- Gwella hygyrchedd ac argaeledd Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru.
Mater: Pobl anabl ddim yn gwybod sut i gwyno ac yn ofni canlyniadau cwyno am bobl y mae angen eu cymorth arnynt.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at gymorth Eiriolaeth i bobl anabl yng Nghymru.
- Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyngor a gwybodaeth briodol ar gael i bobl anabl yng Nghymru, ac mewn fformatau cyfathrebu hygyrch.
Mater: Dim Canolfan y Gyfraith yng Nghymru i gynghori pobl anabl.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i ystyried sefydlu Canolfan y Gyfraith i Gymru, sy'n cefnogi pobl anabl yng Nghymru.
Thema: Trais, Cam-drin Rhywiol a Thrais domestig
Mater: Diffyg lleisiau pobl anabl fel rhan o'r Strategaeth Genedlaethol (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) sydd wedi dioddef troseddau a chamdriniaeth.
Argymhelliad:
- Nid oes cynrychiolaeth briodol i bobl anabl yn y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr. Mae'r panel wedi cydnabod hyn ac yn ceisio recriwtio mwy o bobl anabl sydd â phrofiad bywyd o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
- Llywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau dull croestoriadol o ddatblygu a chyflawni polisi drwy Lasbrint VAWDASV. Mae hyn yn golygu ystyried anghenion pawb sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl fel dioddefwyr a goroeswyr VAWDASV, a'u gofynion cyfathrebu.
Mater: Gwella argaeledd gwasanaethau cymorth i oroeswyr camdriniaeth sy’n anabl.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i adolygu darpariaeth gwasanaethau cymorth i oroeswyr camdriniaeth sy’n anabl yng Nghymru drwy ddull systemau cyfan VAWDASV o sicrhau ffrwd waith gynaliadwy yng nghyd-destun y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cymorth yng Nghymru yn cael eu hyfforddi yn y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Mater: Ableddiaeth a Fewnolwyd/ Dibyniaeth ar bartneriaid, sy’n peri i ddioddefwyr deimlo nad oes ganddynt ddewis ond goddef camdriniaeth.
Argymhelliad:
- Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth arfaethedig ar anabledd yn cynnwys anghenion dioddefwyr anabl VAWDASV, gan rannu gwybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Mater: Data am bobl anabl sy'n ddioddefwr trosedd yn cael ei golli yn haenau croestoriadedd.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad o'r gwaith o gofnodi profiadau pobl anabl pan adroddir am droseddau yng Nghymru. Dylai'r adroddiad fod ar gael mewn fersiynau hygyrch.
Materion: Cynnwys dioddefwyr gwrywaidd anabl camdriniaeth a diffyg cymorth canfyddedig.
Cynnydd sylweddol yn yr achosion a adroddwyd o ddioddefwyr gwrywaidd wrth iddynt fynd yn hŷn.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i adolygu darpariaeth bresennol gwasanaethau cymorth i ddynion anabl yng Nghymru sy'n ddioddefwr camdriniaeth. Ymestyn neu greu gwasanaethau cymorth lle mae diffygion yn cael eu canfod.
Mater: Trais domestig yn cael ei drin fel mater diogelu yn hytrach nag un troseddol i bobl anabl.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i geisio cydweithredu, lle bo hynny'n bosibl, gydag asiantaethau partner fel yr heddlu, tribiwnlysoedd a'r system farnwrol gan sicrhau bod hyfforddiant o ansawdd da yn cael ei ddarparu ar CCUHPA a'r Model Cymdeithasol o Anabledd.
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau nad ydynt wedi'u datganoli i ystyried bylchau mewn gwybodaeth drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth.
- Llywodraeth Cymru i gydlynu gweithgareddau gydag asiantaethau partner mewn plismona ar addysgu'r heddlu yng Nghymru i gydnabod bod trais domestig yn erbyn pobl anabl yn drosedd, nid yn fater diogelu.
Thema: Troseddau Casineb a Chyfeillio
Mater: Nid yw geiriad a/neu ddiffiniadau troseddau casineb a ddefnyddir yng Nghymru yn aml yn glir ac maent yn tanbrisio troseddau casineb.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ddarparu diffiniad clir a syml newydd o droseddau casineb yng Nghymru.
Mater: Pobl anabl yn methu cydnabod pan fyddant yn ddioddefwr troseddau casineb.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth gyda phobl anabl o'r hyn sy'n gyfystyr â throseddau casineb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd adrodd, a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Mater: Anawsterau wrth adrodd am drosedd casineb.
Argymhelliad:
- Canolfan Cymorth Casineb Cymru i adolygu ei systemau adrodd yng Nghymru i weld a ellir eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl anabl yng Nghymru.
Mater: Anawsterau i bobl ag anableddau dysgu gydnabod pan fyddant yn ddioddefwr troseddau cymar.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru, fel rhan o ymgyrch genedlaethol ar ableddiaeth i addysgu a grymuso pobl ag anableddau dysgu am droseddau casineb.
- Llywodraeth Cymru i gydlynu gweithgareddau gydag asiantaethau partner ar addysgu'r heddlu yng Nghymru am droseddau cyfeillio a bregusrwydd pobl ag anableddau dysgu.
Mater: Anwybodaeth gyhoeddus o ran anabledd ac agweddau ableddol.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i ddarparu addysg ar y model cymdeithasol o anabledd ac ableddiaeth i'r cyhoedd.
- Llywodraeth Cymru i weithio gydag Ysgolion y Gyfraith a phrifysgolion sy'n darparu cyrsiau yn y Gyfraith (yng Nghymru) i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol cyfreithiol y dyfodol yn deall y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Thema: Y System Cyfiawnder Troseddol
Mater: Diffyg ymwybyddiaeth o anghenion penodol pobl anabl. Mae gan bobl anabl nodweddion eraill hefyd fel oedran, hil ac ati.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd i staff sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ddarparu hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i staff sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys tribiwnlysoedd yng Nghymru.
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ddarparu hyfforddiant amrywiaeth i staff sy'n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Mater: Diffyg data cadarn ar ystadegau troseddu ar bobl anabl.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i / gwella dulliau casglu data fel bod profiadau pobl anabl yn cael eu cydnabod yn briodol mewn ystadegau troseddu.
Mater: Diffyg Data ar boblogaeth carchardai sy'n anabl, gan gynnwys y rhai sydd ag amhariadau caffaeledig oherwydd heneiddio.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ystyried gwella prosesau casglu data am y boblogaeth anabl yng ngharchardai Cymru. Dylai hyn gynnwys data sy'n ymwneud â menywod anabl.
Mater: Mae gan 60% o boblogaeth carchardai broblemau gyda chyfathrebu ar ryw ffurf.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hasesu'n briodol ac yn gynnar er mwyn rhoi mynediad cyfartal iddynt i addysg yng Nghymru. Byddai'r asesiad yn cael ei gyfyngu i gyfathrebu at ddibenion addysg.
Mater: Diffyg hyfforddiant cydraddoldeb anabledd yn y gwasanaeth carchardai.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ddarparu hyfforddiant amrywiaeth a chydraddoldeb i staff sy'n gweithio mewn carchardai yng Nghymru fel rhan hanfodol barhaus o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Mater: Diffyg ymwybyddiaeth o ba addysg sydd ar gael o fewn y gwasanaeth carchardai.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner i ystyried sut mae staff carchardai yng Nghymru yn cael eu gwneud yn ymwybodol o ba addysg a hyfforddiant sydd ar gael.
Thema: Y System Farnwrol
Materion: Diffyg dealltwriaeth/defnydd o’r Llyfr Mainc Triniaeth Gyfartal (ETBB).
Mae'r Llyfr Mainc Triniaeth Gyfartal yn ddogfen ganllaw ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer barnwyr, ynadon a deiliaid swyddi barnwrol eraill, a gyhoeddir gan y Coleg Barnwrol. Fe'i defnyddir gan farnwriaeth Cymru a Lloegr. Dylai llysoedd roi sylw i'r ETBB i sicrhau prawf teg (sy'n ofyniad gan Siarter Hawliau Dynol Ewrop).
Nid yw llawer o hawliau sy'n amddiffyn pobl anabl yn cael eu deall ac felly nid ydynt yn cael eu gweithredu gan y system farnwrol.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i ystyried eu pwerau mewn perthynas â chyflwyno sylwadau i asiantaethau partner ynglŷn â chymhwyso'r ETBB gan farnwyr mewn achosion llys, gan gynnwys ymwybyddiaeth a chymhwysiad erthygl 13 'Mynediad at Gyfiawnder' ac erthygl 43 'Caniatâd i ymrwymo' sy'n rhoi'r hawl i bobl anabl gael gwybod am unrhyw newid yn eu cymuned.
- Llywodraeth Cymru i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.
- Llywodraeth Cymru i fod yn ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Rhyngwladol ar Hawliau Pobl Anabl ac i alinio hyn ag argymhellion yr is-grŵp hwn.
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i asiantaethau partner ar hyfforddi barnwyr a chyfreithwyr sy'n gweithio yng Nghymru i ddeall y meincnod anghyfartal sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Mater: Diffyg addasiadau rhesymol o fewn achosion llys.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu pa mor dda y gwneir addasiadau rhesymol mewn achosion llys yng Nghymru, megis mynediad at ddehonglwyr BSL cymwys a phrofiadol ac i wneud argymhellion ar gyfer gwella.
Mater: Mae statudau'r DU yn cael eu dehongli mewn ffordd wahanol i statudau Ewropeaidd a'r Byd. Effeithiwyd ar hyn gan gael gwared ar ein Hawliau Byd o ganlyniad i Brexit.
Argymhelliad:
Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn yn rhannol yng Nghymru drwy ddeddf gan y Senedd. Byddai hyn yn caniatáu i bobl anabl gyfeirio at y confensiwn. Byddai hyn yn caniatáu i bobl anabl geisio cyfiawnder yn y llys sy'n cydymffurfio â chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.
Thema: Deddfwriaeth a pholisi
Mater: Dim cynrychiolaeth ddigonol o anghenion pobl anabl o fewn Llywodraeth Cymru.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i greu comisiynydd anabledd i Gymru neu asiantaeth berthnasol sy'n gallu sicrhau bod polisi yn cael ei weithredu.
- Y Comisiynydd Anabledd/asiantaeth berthnasol i yrru'r agenda o fynediad at gyfiawnder o fewn Llywodraeth Cymru.
Mater: Nid yw cyfiawnder troseddol yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl anabl.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i greu comisiynydd pobl anabl i Gymru neu asiantaeth berthnasol sy'n gallu sicrhau bod polisi yn cael ei weithredu.
- Y comisiynydd pobl anabl neu asiantaeth berthnasol i yrru'r agenda o fynediad at gyfiawnder o fewn Llywodraeth Cymru.
Mater: Nid yw cyfiawnder troseddol yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl anabl.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i adolygu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a pha mor dda y mae'n cysylltu â chyfiawnder troseddol.
- Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgor i gyfrannu at yr uchod.
- Llywodraeth Cymru i weithio gyda dylanwadwyr y gyfraith yng Nghymru ar yr uchod.
Mater: Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai pobl anabl i gael mynediad at ofal cymdeithasol y mae ganddynt hawl iddo o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae diffyg mynediad at gyngor cyfreithiol, ychydig o gyfreithwyr sy'n gallu darparu'r math o gyngor sydd ei angen yng Nghymru ac mae'r diffyg Cymorth Cyfreithiol hefyd yn broblem. Mae yna hefyd ddiffyg mynediad at wasanaethau/cymorth eiriolaeth arbenigol i alluogi pobl anabl i gael mynediad at eu hawliau.
Argymhelliad:
- Cynyddu darpariaeth cymorth eiriolaeth a chyngor cyfreithiol i bobl anabl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gofal cymdeithasol y mae ganddynt hawl iddo o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i'r cymorth a ddarperir fod yn gwbl hygyrch.
Mater: Mae angen staff hyfforddedig i gefnogi pobl yn y llys. Nid yw bargyfreithwyr wedi'u hyfforddi i ddeall anghenion anabledd a mynediad. Mae yna ffordd benodol o ofyn cwestiynau a gwneud pethau. Disgwylir i atebion yn y llys fod yn niwronodweddiadol, sy'n broblematig.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i sicrhau bod staff llysoedd / tribiwnlysoedd sy'n gweithio yng Nghymru yn cael mynediad at wybodaeth am y Model Cymdeithasol o Anabledd.
- Llywodraeth Cymru i gefnogi ‘Bar Cymru’ gyda mynediad at hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd. Dylai hyn gael ei ddarparu a'i redeg gan bobl anabl.
Mater: Mae diffyg eiriolaeth a chymorth cyfreithiol ar gael i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. Mae'r broblem hon yn amlochrog. Un ffordd o liniaru'r niwed a achosir gan ddiffyg mynediad at hawliau i bobl anabl efallai yw trwy ddefnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg fel deallusrwydd artiffisial (AI).
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gall y defnydd o dechnoleg hygyrch fel deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi pobl anabl gyda mynediad at eu hawliau cyfreithiol a hawliau eraill yng Nghymru.
Mater: Mae llawer o aelwydydd yng Nghymru yn colli allan ar incwm ariannol ychwanegol oherwydd nad ydynt yn hawlio hawliau a chymorth arall y maent yn gymwys amdanynt. Mae rhai pobl anabl yn colli allan oherwydd bod systemau a chefnogaeth bresennol yn anhygyrch iddynt. Dim ond rhan o'r ateb yw hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth i gynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau a bydd angen cymorth ar rai pobl anabl i wneud yr hawliad ei hun.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ariannu gwasanaeth cyngor a chymorth diduedd, tebyg i'r gwasanaeth sy'n cefnogi pobl i hawlio Credyd Cynhwysol, er mwyn i bobl anabl gael mynediad at fudd-daliadau eraill sy'n cael eu tanhawlio, fel Credyd Pensiwn. Rhaid i'r gwasanaeth ddefnyddio fformatau cyfathrebu hygyrch, darparu cymorth wyneb yn wyneb lle bo angen, a bodloni unrhyw ofynion hygyrchedd eraill pobl anabl, yng Nghymru.
Mater: Heb weithredu ar gyngor blaenorol / posibilrwydd o ddyblygu gwaith a wnaed eisoes yn y dyfodol.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru dogfen 'Mynediad i Gyfiawnder' 2013.
- Llywodraeth Cymru i adolygu argymhellion a gyflwynwyd gan Anabledd Cymru a Chymorth i Ferched Cymru i gael gwared ar rwystrau i fenywod gael mynediad at gymorth cyfiawnder.
- Llywodraeth Cymru i adolygu adroddiad Barnardo yn 2011 ar gam-drin merched ag anableddau dysgu.
- Llywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion a wnaed gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA), fel y rhai sy'n ymwneud â cham-drin hanesyddol, yn cael eu gweithredu.
- Llywodraeth Cymru i ystyried unrhyw fylchau yn adroddiad IICSA mewn perthynas â phobl anabl ac i gynnal dadansoddiad a gwersi a ddysgwyd.
Mater: Bylchau mewn gweithredu.
Argymhellion:
- Llywodraeth Cymru i gynnal cyfarfodydd pellach wedi'u targedu ar faterion allweddol sy'n achosi rhwystr i gael mynediad at gyfiawnder gyda'r bwriad o gau rhwystrau systemig i gael mynediad at gyfiawnder yng Nghymru.
- Llywodraeth Cymru i sefydlu gweithgorau i gyfweld â phobl pwysig yn y gyfraith, fel barnwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau a gwneud argymhellion yn seiliedig ar y trafodaethau hyn.
- Llywodraeth Cymru i fabwysiadu'r argymhellion a nodir yn adroddiad 'Pwyllgor Rhyngwladol Hawliau Pobl ag Anableddau ar Fynediad at Gyfiawnder'.
Mater: Diffyg dealltwriaeth/gweithredu'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd y Ddeddf Cydraddoldeb o fewn cyfiawnder sifil yng Nghymru.
Mater: Diffyg cydlyniant rhwng sefydliadau sydd wedi gweithio ar faterion gwahaniaethu ar gyfer pobl anabl o fewn y system gyfiawnder.
Argymhelliad:
- Llywodraeth Cymru i greu sefydliad/asiantaeth ganolog yng Nghymru sy'n gallu coladu, monitro ac ysgogi'r agenda i gael gwared ar y rhwystrau i bobl anabl o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru.
Llesiant
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch hawliau anabledd i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhwysiant a mynediad. Dylai hyn hefyd gynnwys cydnabod lle mae'r Gymraeg yn croestorri ag anabledd a'r heriau ychwanegol ddaw yn sgil croestoriadedd amhariadau.
Trafododd aelodau'r grŵp bwysigrwydd deall bod nid yn unig croestoriadedd nodweddion gwarchodedig, ond croestoriadedd amhariadau hefyd e.e., dall fyddar. Rhaid deall a darparu ar gyfer yr ystod o anghenion mynediad a chynhwysiant sydd ei angen ymhlith oedolion a phlant anabl yn well. Bydd ymgyrch Hawliau Anabledd yn cefnogi darparwyr gwasanaethau chwaraeon a hamdden, twristiaeth a diwylliant i sicrhau bod Cymru yn genedl gynhwysol a hygyrch i bawb.
Rydym yn argymell bod digon o swyddogion hygyrchedd arbenigol wedi'u lleoli ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Dylai timau o swyddogion hygyrchedd arbenigol, sydd â phrofiad bywyd a phroffesiynol priodol, fod ar gael ym mhob awdurdod lleol, mewn niferoedd digonol, i adlewyrchu barn y gymuned a bod yn bwynt cyswllt pwrpasol i bobl anabl yn yr ardal. Rhaid i rôl y swyddogion hygyrchedd ganolbwyntio ar wella ymgysylltiad rhwng yr awdurdod lleol a phobl anabl, ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer rhoi cyngor technegol fel hygyrchedd tai a thrafnidiaeth yn unig.
Clywodd y grŵp am achosion lle roedd awdurdodau lleol wedi bod yn codi tâl am gymorth i gwblhau ffurflenni cais Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP). Dylai swyddogion hygyrchedd ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth i bobl anabl, gan gynnwys cymorth gyda chael mynediad at hawliau ariannol a llenwi ffurflenni lle mae angen cymorth.
Gallai swyddogion hygyrchedd hefyd gefnogi cyrff cyhoeddus gydag Archwiliadau Mynediad i ddeall pa mor hygyrch yw eu gwefan neu ap a beth sydd angen iddynt ei ddatrys i fodloni rheoliadau hygyrchedd y sector cyhoeddus. Galwodd aelodau'r grŵp am ddiweddaru Archwiliadau Mynediad i adlewyrchu anghenion defnyddwyr gwasanaeth sydd ag amhariadau anweladwy.
Mae awdurdodau lleol yn aml yn brin o arbenigedd mewn mynediad ac yn cyflogi ymgynghorwyr dan gontract, mae hyn yn gostus ac yn aml yn anwybyddu'r elfen hanfodol o ymgysylltu â phobl anabl.
Ochr yn ochr ag Argymhelliad 2, rydym yn argymell bod pob Awdurdod Lleol yn sefydlu Grŵp Cynghori Profiad Bywyd.
Mae gan Lywodraeth Cymru Grwpiau Cynghori’r Gweinidogion ar niwroamrywiaeth ac anabledd dysgu, sydd wedi profi i fod yn effeithiol. Roedd aelodau'r grŵp yn teimlo y byddai grŵp tebyg sy'n canolbwyntio ar brofiad bywyd o anabledd yn fuddiol ar lefel awdurdodau lleol a dylai gael ei arwain gan y swyddogion hygyrchedd arbenigol arfaethedig.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau a chyrff cyhoeddus i sefydlu Paneli Hygyrchedd ar gyfer pobl anabl i gyd-ddylunio a gwella gwasanaethau a digwyddiadau ledled Cymru.
Rhannodd aelodau'r grŵp adborth cadarnhaol ar gyfer Panel Hygyrchedd Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i ddarparu teithio hygyrch ledled Cymru.
Trafododd y grŵp bwysigrwydd gwasanaethau a digwyddiadau hygyrch i'r rhai nad ydynt o'r ardal ac sy'n teithio ar draws neu i mewn i Gymru e.e. gorsafoedd gwasanaethau neu fannau i gael seibiant naturiol.
Bydd angen ystyried yn ofalus wrth sefydlu'r Paneli Hygyrchedd arfaethedig hyn a chytuno ar flaenoriaethau. Dylai sefydliadau a chyrff cyhoeddus gynnwys pobl anabl sydd â phrofiad bywyd wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.
Dylai Llywodraeth Cymru gynnull grŵp o bobl anabl sydd â phrofiad bywyd o gael mynediad at wasanaethau cyfrwng Cymraeg, a gwasanaethau dysgu Cymraeg i hysbysu a chynghori'r llywodraeth ar atebion yn y dyfodol.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymdogaethau hygyrch ledled Cymru.
Mae seilwaith hygyrch yn hanfodol i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas ar sail gyfartal â phawb arall.
Mae Sustrans Cymru yn ymdrechu i sicrhau dinasoedd neu drefi yng Nghymru sy'n "ein cysylltu â'n gilydd a'r hyn sydd ei angen arnom" yn eu dogfen Ymchwiliad Dinasyddion Anabl. Mae'r sefydliad yn credu mai'r ffordd orau o wneud hyn yw sicrhau ei bod yn hawdd i bobl ddiwallu'r rhan fwyaf o'u hanghenion bob dydd trwy daith fer, gyfleus a dymunol.
Byddai cymdogaethau hygyrch yn sicrhau bod trefi a dinasoedd Cymru yn hunangynhaliol, gan leihau'r angen am geir a thrafnidiaeth a galluogi pobl anabl i fyw'n fwy annibynnol yn eu cymuned leol.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymdrechion i gael gwared ar rwystrau mewn cymdeithas sy'n atal oedolion a phlant anabl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau gwella llesiant a chymorth llesiant.
Mynegodd aelodau'r grŵp ddiddordeb mewn ffilm a'r celfyddydau ond yn aml nid ydynt yn gwybod digon am hygyrchedd y lleoliad (gan gynnwys lleoedd newid neu doiledau) neu a yw'r ffilm/sioe ei hun yn hygyrch. Ymgyrchodd aelodau'r grŵp dros gyfathrebu cliriach ynghylch hygyrchedd lleoliad a chynyddu nifer y sioeau hygyrch (BSL/sgrindeitlo/disgrifiad sain/cyfeillgar i awtistiaeth). Ar hyn o bryd mae nifer cyfyngedig o sioeau y gall pobl anabl fynychu gyda ffrindiau/teulu, ac efallai na fydd y rhain ar adegau priodol o'r dydd h.y. oriau ysgol neu oriau gwaith. Roedd aelodau'r grŵp yn cydnabod effeithiau cadarnhaol Hynt; Cynllun Mynediad Cenedlaethol gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru sy'n sicrhau bod cynnig cyson ar gael i aelodau ac ymwelwyr sydd ag amhariad neu ofynion mynediad penodol, a'u Gofalwyr neu Gynorthwywyr Personol.
Dylai lleoliadau, adeiladau a safleoedd hanesyddol ystyried hygyrchedd a chynnig ystod o ddulliau cyfathrebu i oedolion a phlant anabl eu cyrchu. E.e. Amgueddfeydd i gynnig gwybodaeth ysgrifenedig mewn fformat Hawdd ei Ddarllen, sain a defnyddio iaith blaen, lle bo hynny'n bosibl.
Gall cymorth llesiant fel cwnsela yn aml fod yn anhygyrch i bobl ag anghenion cyfathrebu gwahanol. Mae'n bwysig cynnig dehonglwyr neu ddulliau cyfathrebu amgen i helpu pobl trwy gyfnodau anodd a heriol.
Yn anffodus, mae cymorth llesiant yn aml yn cael ei dynnu'n ôl oherwydd diffyg cyllid, adnoddau a chapasiti yn y trydydd sector. Mae aelodau'r grŵp yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu elusennau sy'n darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn i hyrwyddo gwell llesiant ymhlith cymunedau Cymru a chefnogi gwirfoddolwyr anabl.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau llety Cymru i wella ansawdd y wybodaeth am eu darpariaeth hygyrch (gyda'r nod o sicrhau ei bod yn haws i ymwelwyr anabl gael gafael ar y wybodaeth hon)
Roedd aelodau anabl y grŵp yn mynegi pwysigrwydd gwestai hygyrch a llety amgen yng Nghymru. Mae rhanddeiliaid wedi rhannu eu profiad bywyd o geisio dod o hyd i westy hygyrch yng Nghaerdydd. Nododd un aelod nad oes digon o lety yn ein prifddinas gyda theclynnau codi tracio hygyrch ar gael.
Mae seilwaith hygyrch yn hanfodol i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas ar sail gyfartal â phawb arall.
Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â darparwyr llety i sicrhau bod gwybodaeth hygyrchedd yn cael ei chadw'n gyfredol ac yn syml i’r cyhoedd gael mynediad iddi. Efallai y bydd monitro'r wybodaeth hon yn bosibl adeg cynnal asesiadau graddio.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a'r trydydd sector i wella hyrwyddo, amlder a darpariaeth gweithgareddau cymunedol sy'n gwella llesiant.
Gallai cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella llesiant helpu pobl anabl i leddfu teimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd trwy feithrin cyfeillgarwch a chysylltu â'u cymuned. Gan gydnabod efallai nad oes gan lawer o bobl anabl incwm i'w wario ar wella eu llesiant, awgrymodd aelodau'r grŵp y gellid cyflwyno aelodaeth â chymhorthdal ar gyfer campfeydd, llyfrgelloedd, clybiau ac ati.
Roedd aelodau'r grŵp yn teimlo nad yw gweithgareddau llesiant hygyrch yn cael eu hysbysebu'n dda, efallai nad yw llawer o bobl anabl yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddynt. Galwodd yr Aelodau am hyrwyddo gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau hygyrch presennol ledled Cymru yn well. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:
- Nid yw pobl fyddar yn aml yn gwybod a fydd dehonglwyr BSL mewn sioeau comedi nes ei bod hi'n rhy hwyr i archebu tocynnau.
- Nid yw pobl yn aml yn ymwybodol o chwaraeon/gweithgareddau hamdden hygyrch yn eu hardal leol neu os yw'r trefnwyr yn barod i wneud addasiadau i fod yn gynhwysol.
- Gwybodaeth annigonol mewn lleoliadau gofal iechyd ar weithgareddau presgripsiynu cymdeithasol hygyrch i gynorthwyo llesiant meddyliol. h.y. llwybrau natur.
- Cyfleoedd gwirfoddoli addas ar gyfer ystod o amhariadau a chyflyrau meddygol.
Rydym yn argymell bod y gweithluoedd ym maes chwaraeon a hamdden, diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth yn cael cynnig hyfforddiant pellach ar y Model Cymdeithasol o Anabledd a dylent wreiddio’r model mewn prosiectau i sicrhau bod gweithgareddau ac atyniadau yn hygyrch i oedolion a phlant anabl eu mwynhau.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei ystyried ar draws pob prosiect. Mae dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant a hanes Cymru yn hynod bwysig i ddinasyddion Cymru ac i ymwelwyr.
Dylid darparu hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i'r gweithlu diwylliant a thwristiaeth, gan gynnwys rhai o gyrff allanol a gwirfoddolwyr, i amlygu a gwella pwysigrwydd cynhwysiant i bawb.
Lle nad yw mynediad i safleoedd hanesyddol yn bosibl oherwydd ymarferoldeb ffisegol, dylai cydweithwyr sy'n gweithio yn yr ardal barhau i ystyried ffyrdd amgen a chreadigol o rannu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.
Dylid cynnig hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i'r gweithlu chwaraeon a hamdden hefyd i sicrhau bod cydweithwyr yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl anabl ac athletwyr mewn ffordd gynaliadwy, annibynnol.
Dylid ystyried cymhwyso'r Model Cymdeithasol o Anabledd hefyd mewn ceisiadau grant ar gyfer prosiectau chwaraeon, hamdden, diwylliant a thwristiaeth ledled Cymru.
Mae angen mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau sy'n bodoli o fewn darparwyr gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau bod digon o glybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau cwbl hygyrch ar gael mewn ysgolion, a gwasanaethau gofal plant eraill o fath cofleidiol, sy'n cynnig staff â’r sgiliau priodol i gefnogi plant anabl.
Trafododd rhanddeiliaid y diffyg gwasanaethau cyn ac ôl-ysgol hygyrch i blant. Dylai plant anabl gael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion i fynychu darpariaeth gofal plant o ansawdd da, sydd â’r adnoddau priodol, ac wedi'i gefnogi â staff hyfforddedig i sicrhau cyfranogiad llawn plant anabl.
Dywedodd aelodau'r grŵp bod angen cyfleoedd chwarae hygyrch i sicrhau nad yw plant yn cael eu hamddifadu o'u hawl i chwarae a dysgu yn eu hardal.
Dylai gwasanaethau gofal plant cyfrwng Cymraeg a Saesneg nas cynhelir hefyd fod yn hygyrch i blant anabl, gyda gwybodaeth ar gael i rieni, gofalwyr a theuluoedd ar lefel awdurdod lleol am wasanaethau gofal plant cynhwysol a hygyrch.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i blant anabl, gan sicrhau bod digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg gynhwysol a hygyrch, gyda chefnogaeth sgiliau a chyfleusterau addas ar gael i deuluoedd yn eu hardal.
Rydym yn croesawu gweledigaeth ehangu a chynhwysol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn iaith sy'n perthyn i ni i gyd ac sy'n gallu uno pobl o wahanol gefndiroedd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â phobl anabl i ddysgu o'u profiadau a datblygu atebion sy'n mynd i'r afael â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad i'r Gymraeg, ei diwylliant a'i mannau.
Dylai technoleg fod ar gael yn Gymraeg i bobl ag anghenion hygyrchedd penodol. Dylai Llywodraeth Cymru ehangu eu buddsoddiad mewn meddalwedd cynorthwyol Cymraeg a meddalwedd adnabod lleferydd dwyieithog yn arbennig.
Wrth gyfeirio at yr iaith Gymraeg, rydym yn aml yn cyfeirio at ddiwylliant, digwyddiadau a mannau cyfrwng Cymraeg. Gyda hyn mewn golwg, dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid a ariennir sy'n gweithio i gyflwyno Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr i ehangu mynediad at ddigwyddiadau a mannau cyfrwng Cymraeg.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i gynnig a gweithredu gweithgareddau chwaraeon a hamdden hygyrch, gan gynnwys y rhai y tu hwnt i safleoedd ysgol ac ar ôl oriau ysgol, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi.
Rhaid i ysgolion gael adnoddau gwell fel y gall pob plentyn gymryd rhan yn yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt. Mae angen mwy o hyfforddiant niwroamrywiaeth ar gyfer Swyddogion Llesiant mewn ysgolion i nodi a chefnogi anghenion gwahanol.
Trafodwyd mynediad a chynhwysiant i blant a phobl ifanc yn ystod y gweithdy, gan gyfeirio at fynediad at deithiau ysgol a theithiau preswyl. Roedd aelodau'r grŵp yn teimlo mai anaml iawn yr oedd llawer o bobl ifanc ac oedolion yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau oherwydd eu bod yn cael eu hystyried fel risg iechyd a diogelwch neu oherwydd nad yw staff wedi'u hyfforddi ac, felly, yn hyderus wrth fynd i'r afael ag anghenion amrywiol myfyrwyr. Mae angen i bob gweithgaredd o'r fath fod ar gael i bob plentyn mewn addysg brif ffrwd gyda digon o adnoddau ar gyfer cefnogaeth.
Dylai ysgolion ddarparu chwaraeon a hamdden hygyrch, fel pêl-fasged cadair olwyn fel gweithgaredd arferol ac fel rhan o'r cwricwlwm i roi cyfle i bob disgybl gymryd rhan. Yn aml, mae plant yn cael eu hanablu gan ysgolion trwy gael eu heithrio o lawer o bethau gan gynnwys trafnidiaeth a theithiau addysgol. Y rheswm fel arfer oedd yr ysgol yn nodi diffyg cyllid ar gyfer staff, ond mae angen cywiro hyn ar frys i atal plant rhag teimlo'n ynysig ac yn israddol i eraill. Roedd y plant y buom yn siarad â nhw fel rhan o’r gweithgor Plant a Phobl Ifanc hefyd yn teimlo y dylai plant anabl gael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion.
Mae angen mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau sy'n bodoli o fewn darparwyr gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o glybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau cwbl hygyrch ar gael mewn ysgolion, sy'n cynnig staff â’r sgiliau priodol i gefnogi plant anabl.
Dylai gwasanaethau gofal plant cyfrwng Cymraeg a Saesneg nas cynhelir hefyd fod yn hygyrch i blant anabl, gyda gwybodaeth ar gael i rieni a theuluoedd ar lefel awdurdod lleol am wasanaethau gofal plant cynhwysol a hygyrch.
Atodiad A
Sefydliadau yr ydym wedi gweithio gyda nhw:
- Acorn
- Action for Children Prosiect Hawthorn
- Advocate
- Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (ADY)
- Alabare
- Alzheimers Cymru
- Alzheimer's Society Cymru
- Amgueddfa Cymru
- Anabledd Cymru
- Anabledd Dysgu Cymru
- Archifau Morgannwg
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
- Autism Hidden Voices
- Autism Parents Cymru (AP Cymru)
- Bus Users UK
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gogledd Cymru (BIPBC)
- CaBAC
- Canolfan Byw Annibynnol Dewis
- Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)
- Celfyddydau Anabledd Cymru
- Clinks
- Clwb Ieuenctid Cŵl Byddar Caerdydd
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
- Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)
- Cornerstone
- Crisis UK
- Cŵn Tywys Cymru
- Cŵn Tywys y DU
- Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru (CPT)
- Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru
- Cynghrair Anghenion Ychwanegol Trydydd Sector Cymru
- Cyngor Bro Morgannwg
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Ceredigion
- Cyngor Deillion Cymru
- Cyngor Pobl Byddar Cymru
- Cyngor Powys
- Cyngor Tref y Fenni
- Cyngor Wrecsam
- Cyngor Ysgol Tŷ Coch
- Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC)
- Cymdeithas Cludiant Cymunedol
- Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yr Heddlu Gogledd Cymru (NPAA)
- Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Cymdeithas Swyddogion Cydlynu Trafnidiaeth (ATCO) Cymru
- Cymdeithas Tai Bron Afon
- Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA)
- Cymdeithas y Gyfraith
- Cymorth Cymru
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Cymorth i Ferched Cymru
- Chwarae Cymru
- Chwaraeon Anabledd Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain (BDA)
- Disabled Motoring UK (DMUK)
- Diverse Cymru
- Engage to Change
- Elite Supported Employment
- Ending Youth Homelessness Cymru
- Estyn
- For The Women UK
- Ffatri’r Pabi
- Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru
- Ffederasiwn Rhieni
- Fforwm Anabledd Sir y Fflint (FDF)
- Fforwm Cynghori Cymru Gyfan
- Fforwm Cynghori Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru
- Fforwm Cymru Gyfan
- Fforwm Mynediad Torfaen
- Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
- Fforwm Rhieni Gofalwyr Abertawe
- Gofal a Thrwsio Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gofalwyr a Rhieni Gogledd Cymru
- Grŵp gofal parhaus Cymru Gyfan
- Grŵp Iechyd Meddwl a Lles Byddar Cymru Gyfan
- Grŵp Tadau Gwent
- Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS) Cymru
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)
- Heddlu De Cymru
- Heddlu Gwent
- Hwb Gofalwyr Gwent
- Leonard Cheshire
- Living Streets
- Llamau Cymru
- Lleisiau Rhieni yng Nghymru
- Maes Awyr Caerdydd
- MenCap Cymru
- Mirus
- Ombwdsmon Cymru
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Pedal Power Caerdydd
- Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bryste
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol De Cymru
- Prosiect Partneriaeth Troseddau Casineb
- Pwyllgor Pro Bono Cymru
- Rhentu Doeth Cymru
- Rhieni yng Nghymru (PIWS) Gogledd Cymru
- Rhwydwaith Cydgynhyrchu
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN)
- Sefydliad Bevan
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID)
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB)
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) Cymru
- Sefydliad Tai Siartredig Cymru
- Senedd Cymru
- Sense Cymru
- Shelter Cymru
- Sinclair Law
- Sparkle
- STAND Gogledd Cymru
- Stori Cymru
- Sustrans
- Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Taf Torfaen
- Tai Pawb
- Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)
- Trafnidiaeth Cymru (TfW)
- Theatr Hijinx
- Where I Want to Live
- Whizz-Kidz
- Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru
- Y Gymdeithas Strôc
- Y Prosiect Grymuso Menywod Awtistaidd
- Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT)
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ysgol Arwyddion
- Ysgol Bryn Castell
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Crug Glas
- Ysgol Greenfield
- Ysgol St Cyres
- Ysgol Y Deri
- Ysgol y Gyfraith Caerdydd
