Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Gronfa Daniel Picton-Jones 'ran allweddol i'w chwarae' i chwalu'r stigma sy'n wynebu ffermwyr sydd am siarad am eu problemau iechyd meddwl, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r elusen ar fin elwa ar bron £50,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru fydd yn caniatáu iddi fynd â'i gwasanaeth cwnsela i'r Gogledd. 
Cafodd y gronfa elusennol ei sefydlu gan Emma Picton-Jones er cof am ei gŵr Daniel ar ôl iddo gymryd ei fywyd, er mwyn helpu pobl cefn gwlad sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig dynion yn y sector ffermio. 

Bydd yr arian yn talu am roi hyfforddiant 'Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl' am ddim i filfeddygon a gwerthwyr bwydydd anifeiliaid. Y nod yw eu dysgu i allu adnabod arwyddion afiechyd meddwl yn gynt a rhoi cyngor i ffermwyr ar ble i fynd am help yn eu hardal. 

Mae'r Gronfa eisoes wedi hyfforddi mwy na 150 o unigolion, gan gynnwys staff llawer o randdeiliaid amaethyddol pwysica Cymru. 
Bydd yr elusen yn gallu estyn hefyd ei gwasanaeth 'Rhannu'r Baich' sy'n darparu chwe sesiwn cwnsela personol am ddim yng nghartre'r unigolyn, i siroedd y Gogledd. 

Ers ei sefydlu dair blynedd yn ôl, mae'r elusen wedi estyn ei gwasanaeth helpu a chwnsela personol dros y ffôn o Sir Benfro i Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys. 

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae ffermio'n gallu bod yn yrfa sy'n cynnig boddhad a budd mawr, ond mae'r pwysau'n gallu bod yn aruthrol gan adael llawer i deimlo'n unig ac wedi'u hynysu. 

"Amaethyddiaeth sydd ag un o'r cyfraddau hunanladdiad uchaf, felly mae'r help y mae elusennau fel Cronfa DPJ yn gallu ei gynnig yn hanfodol i ddysgu pobl sut i adnabod y rheini sy'n ceisio dygymod â'u hiechyd meddwl a'u rhoi nhw ben ffordd o ran ble i fynd i gael yr help sydd ei angen arnyn nhw gymaint. 

"Mae Emma wedi dangos cadernid rhyfeddol o dan amgylchiadau trist iawn ac mae'n galondid gweld ei helusen yn tyfu ac yn mynd o nerth i nerth. Mae hi wedi bod yn bleser dysgu sut mae ei helusen wedi achub yn ogystal â newid bywydau, gan helpu i chwalu'r stigma sydd ynghlwm wrth siarad am iechyd meddwl a dysgu pobl am yr help sydd ar gael i'r rheini sydd ei angen. Rwy'n gobeithio y bydd yr arian hwn yn hwb i'r elusen ac yn rhoi'r modd iddi allu helpu mwy o bobl ledled Cymru.

Dywedodd Emma Picton-Jones:

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth ariannol hwn. Trwyddo byddwn yn gallu ehangu'n gwasanaeth a sicrhau bod y gymuned ffermio yng Nghymru yn cael yr help sydd ei angen arni. 

"Mae'r gallu i roi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ledled y wlad yn golygu y bydd yna lawer fwy o bobl yn y gymuned fydd yn teimlo'n ddigon hyderus i allu cefnogi'r rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl ac a fydd yn gallu cydweithio fel cymuned i filwrio yn erbyn afiechyd meddwl. Diolch i Lesley Griffiths am ei chefnogaeth ddiflino i bopeth rydyn ni'n ceisio'i wneud.