Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £243,000 i wella mynediad a lleihau lefel y traffig ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, meddai Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyngor Sir y Fflint fydd yn rhedeg y cynllun a bydd yn cynnwys gosod signalau rhannol ar Gylchfan yr A548/Parkway ym Mharth 2 y Parc Diwydiannol. Bydd hynny'n hwyluso llif y traffig i fusnesau'r ardal.

Caiff y terfyn cyflymder ei ostwng i 40mya ar ffordd yr A548 tua'r Gylchfan a thrwyddi, hynny er mwyn gwneud y ffordd yn fwy diogel.

Parkway yw'r unig ffordd i mewn ac allan o Barth 2, ac o'r herwydd, mae'n mynd yn arbennig o brysur, yn enwedig adeg newid sifftiau. Bydd y gwaith ar y gwelliannau'n dechrau yn gynnar yn 2019 gan helpu i ddatrys y problemau â'r traffig a sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn yr ardal yn fwy diogel i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio'n agos â busnesau'r parc i wella llif y traffig ar adegau prysura'r dydd ac yn gynharach eleni, cafodd system rheoli traffig ei threialu gyda chanlyniadau cadarnhaol.

Mae'r buddsoddiad yng nghyffordd yr A548 yn rhan o fetro'r Gogledd-ddwyrain sy'n datblygu hybiau traffig integredig a gwella'r cysylltiadau rhwng yr hybiau hyn ac yn eu cysylltu â gweddill Cymru, y DU a thu hwnt.

Mae prosiectau eraill yn ardal Glannau Dyfrdwy hefyd yn rhan o gynllun y metro, gan gynnwys uno gorsafoedd Shotton Uchaf/Isaf ac adeiladu gorsaf newydd Parkway Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn safle swyddi pwysig yn y Gogledd-ddwyrain ac mae sicrhau bod cerbydau'n cael teithio'n rhwydd yn hynod bwysig i fusnesau a gweithwyr yr ardal ac i economi Cymru yn gyfan.

"Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon ynghylch y tagfeydd traffig ar hyd Parkway ac rydyn ni'n gweithredu ar hynny trwy fuddsoddi £243,000 yn y cynllun hwn o dan arweiniad y Cyngor fydd yn hanfodol i wella'r sefyllfa.

"Diogelwch y ffyrdd fydd wastad y flaenoriaeth fwyaf ac ar ôl nifer o ddigwyddiadau ar y ffordd tuag at gylchfan Parkway yr A548 ym Mharth 2, caiff gostyngiad yn y terfyn cyflymder ei gyflwyno yn yr ardal.

"Darparu ffyrdd gwell a chynaliadwy i Lannau Dyfrdwy a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yw un o'm hamcanion ar gyfer Metro'r Gogledd-ddwyrain ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn brawf arall i fusnesau o'r camau pwysig rydyn ni'n eu cymryd."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Stryd a Gwledig, y Cyng Carolyn Thomas:

"Rwy'n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gael arian ar gyfer y cynllun pwysig hwn sy'n gam arall ymlaen at ddarparu prosiect Metro'r Gogledd-ddwyrain. Unwaith eto, mae hyn yn dangos ymrwymiad clir y weinyddiaeth bresennol i wella rhwydwaith trafnidiaeth y Sir."