Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaith yn cael ei wneud i wella’r A545 ym Miwmares ar ôl y difrod a achoswyd iddi gan dywydd mawr y blynyddoedd diwethaf, meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £75,000 i gyd-fynd â buddsoddiad o £60,000 gan Gyngor Tref Biwmares a £24,000 gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer ariannu’r gwaith o sefydlogi’r llethrau, a fydd yn cryfhau gwydnwch y ffordd.

Mae’r arian yn ychwanegol at y £374,000 a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru i helpu’r awdurdod lleol dalu am gostau atgyweirio yn sgil y tywydd mawr ym mis Tachwedd 2017. Roedd y difrod yn cynnwys tirlithriad ar yr A545 a gaeodd y ffordd am sawl diwrnod.

Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth:

“Mae sicrhau bod y ffyrdd yng Nghymru yn ddiogel yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dw i’n falch iawn y bydd y grant o £75,000 gan ein Cronfa Trafnidiaeth Leol yn ariannu gwaith i wella’r A545. Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion yr ardal yn fwy diogel a bydd yn diogelu’r llwybr rhag tywydd mawr yn y dyfodol.

“Mae datblygu partneriaethau rhanbarthol cryfach yn rhan bwysig o’n Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi. Dw’n falch ein bod yn cydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Tref Biwmares i wneud y gwaith pwysig hwn.”

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan ddeilydd portffolio Priffyrdd Cyngor Môn, y Cynghorydd Bob Parry. Dywedodd:  

“Mae hwn yn newyddion cadarnhaol i Fiwmares a’r gymuned leol. Er gwaethaf ymdrechion gorau’r Cyngor Sir, mae tirlithriadau wedi cael effaith mawr ar y llwybr strategol pwysig yma dros y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi achosi tagfeydd traffig di-ri; ac wedi cael effaith andwyol ar drigolion a busnesau lleol, yn enwedig.

“Bydd y cyllid yma ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Tref Biwmares a Chyngor Sir Ynys Môn yn ein galluogi i wella gwydnwch yr A545 o dan fynwent Biwmares a darparu’r ateb hirdymor yn y lleoliad yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Jazon Zalot, Maer Tref Biwmares:

“Mae Cyngor Tref Biwmares yn croesawu’n fawr y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn talu am waith atgyweirio’r A545 i gryfhau’r prif gysylltiad hwn rhwng Biwmares a Phorthaethwy ac â gweddill y byd.

"Mae'r arian hwn yn helpu i foderneiddio'r ffordd i ymdopi â’r bysiau mawr a'r lefel uchel o draffig sydd gennym y dyddiau hyn, yn ogystal ag ymdopi â'r cynnydd yn y galw yr ydym yn disgwyl ei weld yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch y bydd cydweithio â’n gilydd, a’r buddsoddiad yn yr A545, yn  galluogi’r gwasanaethau brys, bysiau ysgol, a’r sector twristiaeth i barhau i wasanaethu’r ardal mewn modd diogel a chyson. Gobeithir y bydd hyn yn ysgogi lefelau uwch o ffyniant yn yr ardal, ac yn y gymuned yn gyffredinol.”